Gwobr yr Athro Millicent Mackenzie 2026: CAER Heritage

Mae Gwobr gyntaf yr Athro Millicent Mackenzie ar gyfer Hyrwyddo Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) mewn Bywyd Academaidd neu Broffesiynol gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru wedi cael ei ddyfarnu i CAER Heritage, am ei lwyddiant mewn cyfuno ymchwil archaeolegol o safon uchel â gwaith cynhwysiant cymunedol. 

Mae gan CAER Heritage hanes balch o greu effaith academaidd a chymdeithasol, gan ddod ag ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd, ysgolion, colegau a’r gymuned leol at ei gilydd i gynhyrchu ymchwil a chynnal gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar safleoedd treftadaeth yng ngorllewin Caerdydd. 

Mae gwaith archaeolegol a hanesyddol craidd CAER Heritage yn canolbwyntio ar dirwedd sy’n gyfoethog o ran treftadaeth yng ngorllewin Caerdydd, ac sy’n cwmpasu dros 6,000 o flynyddoedd o hanes Cymru. 

O’r lloc Neolithig a bryngaer o’r Oes Haearn ar Fryn Caerau, i anheddiad o’r Oes Efydd a fila Rufeinig ym Mharc Trelái gerllaw, pentref a chastell canoloesol, i hanes modern pwysig yr ystadau tai a’r cymunedau lleol. Mae’r holl hanesion cudd hyn wedi cael eu darganfod gyda phobl leol o bob oedran. 

Yr hyn sy’n gwneud i CAER Heritage sefyll allan yw ei wreiddiau dwfn yng nghymunedau Caerau a Threlái, sy’n ffurfio’r ystad dai cymdeithasol fwyaf yng Nghymru. Mae’r ardal yn wynebu mwy na’i chyfran o amddifadedd cymdeithasol, ac mae CAER yn chwarae rhan allweddol yn yr ymdrechion i herio canfyddiadau negyddol a chodi dyheadau drwy ei waith gydag ysgolion a cholegau lleol, gan ysbrydoli dysgwyr sy’n oedolion a’r rheini sydd wedi’u hallgáu o addysg brif ffrwd. 

Mae’r ffordd y mae CAER Heritage yn dod â phobl at ei gilydd drwy ymchwil ar y cyd, cloddiadau archaeolegol ymarferol a gweithgareddau diwylliannol, yn golygu ei bod yn dderbynnydd cwbl haeddiannol o’r wobr newydd hon, sy’n rhoi cynhwysiant wrth ei chalon. 

yn ôl i'r brig