‘Medieval Wales and the Marches’: Yr Athro Helen Fulton

Mae’r Athro Helen Fulton yn gwahodd Cymrodyr a chydweithwyr eraill i ymuno â rhwydwaith ymchwil newydd.

Mae hi’n gweithio gyda Philip Hume, Ysgrifennydd Cymdeithas Hanes Mortimer, Dr Emma Cavell (Prifysgol Abertawe), a Dr Sara Elin Roberts (Prifysgol Caer) i greu grŵp seminar ar-lein, Medieval Wales and the Marches, i ddarparu fforwm ar gyfer academyddion ac ysgolheigion annibynnol i rannu papurau ymchwil. Mae’r grŵp seminar ar-lein, a fydd yn amlddisgyblaethol, yn croesawu aelodau a phapurau ar agweddau o hanes cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, cyfreithiol a gwleidyddol Cymru a’r Gororau yn yr Oesoedd Canol.

Mae rhestr bostio o aelodau yn cael ei rhoi at ei gilydd y tymor hwn, ynghyd â galwad am bapurau, gyda’r bwriad o gychwyn seminarau yn nhymor y gwanwyn 2023.

Os hoffech gael eich ychwanegu at y rhestr aelodaeth, anfonwch e-bost at Philip Hume, philip.r.hume@gmail.com, a nodi p’un a oes gennych ddiddordeb mewn cynnig papur ai peidio.

Helen Fulton yw’r Prif Ymchwilydd ar y prosiect Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar ’The Medieval March of Wales, c. 1282–1550: Mapping Literary Geography in a British Border Region’, sydd yn cael ei ariannu gan gynllun Frontier Research UKRI (2023-28).