Gwahoddiad i dendro – cytundeb llawrydd
Rydym yn chwilio am gontractwr llawrydd i gynnal astudiaeth o’r posibiliadau o ran twf a gweithgareddau ein rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar yn y dyfodol.
Bydd y contractwr yn cyflwyno adroddiad i’r Gymdeithas ar statws presennol y rhwydwaith, ac yn cyflwyno argymhellion tymor byr, canolig a hir ar gyfer datblygu’r rhwydwaith.
Y dyddiad cau ar gyfer anfon datganiadau o ddiddordeb ydy 17.00, 10 Mehefin 2021. Bydd angen cyflwyno adroddiad terfynol y prosiect erbyn 30 Medi 2021.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y contract, cysylltwch â Martin Pollard.
Mae’r gwaith hwn yn cael ei ariannu gan Gyngor Addysg Uwch Cymru.