Trawsnewid yfory gyda’n gilydd – Strategaeth gyntaf UKRI (Rhithwir )

Dydd Gwener 2 Rhagfyr 2022, 10:00-12:00

“UKRI yw ariannwr cyhoeddus mwyaf y DU ar gyfer ymchwil ac arloesi, gan fuddsoddi dros £8 biliwn bob blwyddyn. Rydym yn dwyn ynghyd arbenigedd o bob disgyblaeth a sector i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r gymdeithas a’r byd o’n cwmpas, ac i gasglu a darparu gwerth o wybodaeth a syniadau.

“Bydd ein strategaeth yn sbarduno system ymchwil ac arloesi ragorol yn y DU sy’n rhoi cyfle i bawb gyfrannu ac ymelwa, gan gyfoethogi bywydau yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Mae ymchwil ac arloesi yn ganolog i fynd i’r afael â’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu, megis:

  • adferiad ôl-pandemig
  • cyflawni Sero Net ac
  • adeiladu economi wybodaeth egnïol sydd o fudd i’r DU gyfan.

“Bydd y digwyddiad hwn yn adeiladu ar y trafodaethau gyda rhanddeiliaid a gynhaliwyd trwy gydol datblygiad ein Strategaeth. Mae’n rhan o raglen o weithgareddau fydd yn arwain at UKRI yn ymgysylltu â chymunedau ar draws y DU.”

Rhaid cofrestru er mwyn ymuno â’r digwyddiad.

I gofrestru eich lle, cysylltwch externalaffairs@ukri.org os gwelwch yn dda.