Peter Wakelin

Awdur annibynnol, curadur ac ymgynghorydd Mae Dr Wakelin yn awdur, curadur ac ymgynghorydd annibynnol sy'n arbenigo mewn celf a'r dreftadaeth adeiledig. Bu gynt yn Gyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil yn Amgueddfa Cymru ac yn Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae ei lyfrau’n cynnwys arweinlyfrau swyddogol... Darllen rhagor

Siân Williams

Pennaeth Ymgysylltu a Churadu Casgliadau Diwylliannol, Prifysgol Abertawe Mae Siân Williams yn uwch arweinydd mewn llyfrgellyddiaeth ac archifau, a ffocws ei gyrfa yw ymgysylltu â'r cyhoedd. Datblygodd Lyfrgell Glowyr De Cymru ym Mhrifysgol Abertawe fel canolfan sy'n ennyn parch rhyngwladol am ymchwil a dysgu ym ... Darllen rhagor

Yr Athro R Geraint Gruffydd ob. 24 Mawrth 2015

Ar un olwg cafodd Geraint Gruffydd fwy nag un yrfa, yn athro coleg, yn bennaeth sefydliad cenedlaethol, yn gyfarwyddwr canolfan ychwil, swyddi a gyflawnodd gyda graen, ond nid oes amheuaeth nad fel ysgolhaig ac ymchwilydd y câi ei foddhad pennaf.  Dros y blynyddoedd cyhoeddodd yn doreithiog ar lenorion a llenyddiaeth... Darllen rhagor

Ceridwen Lloyd – Morgan

Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd, Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau Ieithyddiaeth a'r Cyfryngau, Prifysgol Bangor; cyn Archifydd a Phennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Darllen rhagor