Gwobr Arglwyddes Rhondda 2026: Yr Athro Paul Meredith
Mae Gwobr gyntaf y Fonesig Rhondda am Gyflawniad Eithriadol gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru wedi cael ei dyfarnu i’r Athro Paul Meredith, i gydnabod gyrfa sydd wedi canolbwyntio ar rai o’n blaenoriaethau mwyaf dybryd. Mae’r rhain yn cynnwys rôl allweddol lled-ddargludyddion mewn cymaint o agweddau ar fywyd modern, a’r angen i ddatgarboneiddio’r prosesau cynhyrchu sydd yn cael eu defnyddio i’w gwneud.
Mae Paul, sydd wedi cael ei eni, ei fagu a’i addysgu yng Nghymru, wedi dod yn ffigwr blaenllaw ym maes ymchwil y genedl, ac mae’n chwarae rhan allweddol yn ein diwydiant lled-ddargludyddion. Mae ei allu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr yn amlwg drwy ei waith yn arwain Canolfan Hyfforddiant Doethurol EPSRC y Diwydiant Lled-ddargludyddion ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae ei ddylanwad hefyd yn ymestyn yn rhyngwladol. Yn ystod ei gyfnod helaeth yn gweithio yn Awstralia, cyfrannodd at bolisi targed ynni adnewyddadwy blaengar Queensland, a datblygodd dri busnes newydd, ac mae ei nifer fawr o batentau a phapurau gwyddonol, ynghyd â’i lwyddiant cyson mewn sicrhau grantiau, yn ganlyniadau gwaith ar draws y DU, Ewrop, Asia a’r Unol Daleithiau.
Dywed cydweithwyr Paul fod ganddo’r ddawn werthfawr o allu troi ymchwil academaidd yn gymwysiadau ymarferol yn y byd go iawn, sy’n ei wneud yn enillydd teilwng o’r wobr hon sy’n cydnabod cyflawniad eithriadol.