Etholiad i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru – 2025-26

Canllawiau ar y Broses Etholiadol – Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a’r Proffesiynau (ICAP)

Os ydych yn dewisiwch gyfeirio at gopi PDF o’r arweiniad hwn, fe fyddwch yn ei ddod yma.

Cyflwyniad Cyflwyniad
Ecwiti, Tegwch a Chynhwysiant
Y Broses Etholiadol
Beth sy’n Digwydd ar Ôl i’r Enwebiad Ddod i Law’r Gymdeithas?
Y Camau Nesaf yn Dilyn Pleidlais y Cymrodyr
Atodiad 1 – Canllawiau ar Gwblhau’r Ffurflenni Ffurflen Enwebu
Ffurflen Tystiolaeth yr Enwebai
Adroddiad Cefnogwr Gwybodus
Adroddiad yr Adolygydd
Ffurflen Amgylchiadau Unigol (dewisol)
Atodiad 2 – Geirfa Enwebai
Cynigydd
Eilydd
Cefnogwr Gwybodus
Adolygydd
Atodiad 3 – Pwyllgorau Craffu ICAP1
ICAP2
Atodiad 4 Sut Ydym yn Asesu Rhagoriaeth Enwebiadau
Atodiad 5 Canllawiau Ychwanegol i’r Pwyllgorau Craffu

Contents

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael eich enwebu am Gymrodoriaeth neu mewn cynnig rhywun, gobeithiwn y byddwch yn gweld hwn yn ganllaw defnyddiol. Mae’r Gymdeithas wedi ymrwymo i gynnal proses etholiadol deg, agored a thryloyw.

Yn ôl i ben y dudalen

Ni yw academi ysgolheigaidd genedlaethol Cymru, a sefydlwyd yn 2010. Mae gennym Gymrodoriaeth o 700 o unigolion nodedig, yn cynrychioli arbenigedd ar draws pob maes academaidd a phroffesiynol a thu hwnt. Defnyddiwn yr wybodaeth gyfunol hon i hyrwyddo ymchwil, ysbrydoli dysg, a darparu cyngor polisi annibynnol.

Mae’r Gymdeithas yn elusen Siarter Brenhinol, rhif elusen gofrestredig 1168622. Ceir rhagor o wybodaeth amdanom yma: www.learnedsociety.wales

Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth. Mae pob un o’n Cymrodyr wedi gwneud cyfraniad pwysig i fyd dysg ac mae ganddynt oll gysylltiad amlwg â Chymru.

Oherwydd statws y Gymrodoriaeth, rhaid i’r holl enwebeion fynd drwy broses asesu drylwyr. Mae’r broses yn drwyadl a derbynnir oddeutu 50 o Gymrodyr newydd bob blwyddyn. Ar dudalen 12, ceir rhagor o wybodaeth ar ein meini prawf am Gymrodoriaeth.

Ar ôl cael eu hethol, mae Cymrodyr yn aelodau oes, ar yr amod eu bod yn parhau mewn sefyllfa ariannol dda ac yn cadw at God Ymddygiad y Cymrodyr. Disgwylir i gymrodyr gyfrannu at waith y Gymdeithas. Gall hyn gynnwys cyfrannu at ddigwyddiadau, gwaith polisi, gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd, llywodraethu neu brosesau etholiadol yn y dyfodol.

Ceir rhestr o’n Cymrodyr presennol yma.

Mae gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru ymrwymiad cryf i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Ymdrechwn am Gymrodoriaeth sy’n fwy amrywiol, gyda mwy o aelodaeth o blith pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio’n benodol ar gynyddu enwebiadau ar gyfer menywod. Rydym eisiau sicrhau bod y Gymdeithas yn groesawgar, yn gynhwysol ac yn rhydd o wahaniaethu.

Rydym yn annog enwebiadau gan y byd academaidd, busnes, y proffesiynau, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.

Rydym yn cydnabod y gellir dangos rhagoriaeth o fewn ystod o hydoedd gyrfa neu bortffolios, ac nid oes gennym ddisgwyliad penodol o ran deiliadaeth nac oedran. Yr hyn sy’n bwysig yw bod enwebeion yn bodloni ein meini prawf rhagoriaeth. Drwy ganolbwyntio ar gyflawniadau, statws proffesiynol a chyfraniadau ehangach enwebeion, ein nod yw sicrhau bod ein Cymrodyr yn enghreifftiau awdurdodol o’r gorau o Gymru ar draws pob maes dysgu. Croesawir enwebiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Ni chaiff enwebiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol nac enwebiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Yn ôl i ben y dudalen

Polisi Gostwng neu Hepgor Ffioedd

Mae ffioedd tanysgrifio yn darparu ffynhonnell bwysig o incwm i’r Gymdeithas a’i gwaith. Fodd bynnag, rydym eisiau sicrhau nad yw ffioedd yn rhwystr i Gymrodoriaeth. Felly, gall Cymrodyr ac Enwebeion ar gyfer Cymrodoriaeth, wneud cais am hepgor neu ostwng ffioedd ar unrhyw adeg.

 Fel Enwebai, gallwch wneud cais ymlaen llaw, a byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn enwebu p’un a rhoddir rhyddhad ffioedd. Mae’r polisi ar gael yma. Gallwch siarad â’n harweinydd Polisi EDI, y Rheolwr Ymgysylltu Strategol ar unrhyw adeg i drafod ymhellach os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Bwriedir y ddogfen hon ar gyfer y bobl ganlynol sy’n ymwneud ag enwebiad i’r Gymrodoriaeth mewn Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau (ICAP). Gweler Atodiad 2 am drosolwg a disgrifiad o’r tasgau sy’n gysylltiedig â phob un o’r rolau hyn:

  • Enwebai
  • Cynigydd (y prif enwebwr)
  • Yn Gefnogwr Gwybodus
  • Adolygwyr
  • Aelodau o’r pwyllgorau craffu sy’n asesu’r enwebiadau
1Cyflwyno enwebiadau2 Mehefin i 31 Hydref 2025
2Ceisio adolygiadau ar gyfer pob enwebiadTachwedd – Rhagfyr 2025
3Pwyllgorau craffu yn asesu enwebiadauIonawr – Chwefror 2026
4Is-lywyddion yn cynnig rhestr fer i Gyngor y GymdeithasMawrth 2026
5Y cyngor yn cwblhau’r rhestr o enwebeionMawrth 2026
6Y Gymrodoriaeth yn pleidleisio ar yr enwebeionEbrill 2026

Yn ôl i ben y dudalen

Caiff enwebiad ei wneud gan gynigydd, gyda chefnogaeth eilydd. Rhaid iddynt ill dau fod yn Gymrodyr y Gymdeithas.

Rhaid i’r Cynigydd gyflwyno’r holl ddogfennau canlynol, wedi’u cwblhau’n llawn, cyn y dyddiad cau (gweler www.learnedsociety.wales/fellowship/becoming-a-fellow/nomination-forms):

  • Ffurflen Enwebu – a gwblheir a’i llofnodi gan y Cynigydd a’i llofnodi gan yr Eilydd
  • Ffurflen Tystiolaeth yr Enwebai – a gwblheir gan yr enwebai gyda chymorth y cynigydd
  • CV yr Enwebai – a ddarperir gan yr enwebai, dim mwy na 4 tudalen
  • Adroddiad Cefnogwr Gwybodus – a gwblheir gan y Cefnogwr Gwybodus, mewn ymateb i’r wybodaeth ar ffurflen tystiolaeth yr enwebai

Noder:

  • Rhaid cadw’r enwebiad yn gwbl gyfrinachol rhwng yr enwebai, y cynigydd, yr eilydd, y cefnogwr gwybodus, yr adolygwyr a’r Gymdeithas.
  • Dylai’r cynigydd gymryd cyfrifoldeb dros sicrhau fod yr holl ddogfennau yn cael eu cwblhau yn unol â’r arweiniad hwn ac y ceir y llofnodion a chytundebau ategol. Mae’n hanfodol fod y ffurflenni’n cael eu cwblhau yn llawn a’u bod yn cadw at unrhyw gyfyngiadau nifer geiriau. Ni fyddwn ni’n ystyried unrhyw ddeunyddiau, geirdaon na llythyrau cefnogol ychwanegol na ofynnwyd amdanynt.

Rhaid e-bostio’r holl ffurflenni i nominations@lsw.wales.ac.uk cyn 12.00pm ddydd Iau 31 Hydref 2025. Ni dderbynnir ffurflenni a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn, neu a anfonir i gyfeiriad arall.

Byddwn yn cydnabod pob enwebiad. Os nad ydych chi’n derbyn cydnabyddiaeth o fewn 3 diwrnod gwaith , cysylltwch â nominations@lsw.wales.ac.uk. Ni fyddwn yn gyfrifol am enwebiadau nad ydynt yn ein cyrraedd, neu sy’n cyrraedd ar ôl y dyddiad cau.

Yn ôl i ben y dudalen

Byddwn yn trosglwyddo’r holl ddogfennau, ac eithrio ffurflenni amgylchiadau unigol cyfrinachol (gweler atodiad 1 am wybodaeth bellach), i’r pwyllgor craffu a ddewiswyd gan y cynigydd.

Noder mai dim ond y pwyllgor craffu y cyflwynir yr enwebiad iddo a all ystyried enwebiad, ac ni ellir ei drosglwyddo i bwyllgor arall yn y cylch etholiadol hwn. Os na chyflwynir enwebiad i bwyllgor priodol, bydd yn cael ei wrthod gan y pwyllgor hwnnw a bydd rhaid ei ail-gyflwyno’r flwyddyn ganlynol. I osgoi cael eu siomi, anogir cynigwyr i gael cyngor drwy nominations@lsw.wales.ac.uk cyn cyflwyno enwebiad gan fod 10 pwyllgor craffu gyda chylchoedd gwaith penodol.

Bydd y pwyllgor gwaith (sy’n cynnwys Cymrodyr o ddisgyblaethau tebyg) yn ceisio dau adolygiad annibynnol o bob enwebydd. Bydd y rhain yn cael eu ceisio ar ran y pwyllgor gan staff y Gymdeithas. Mae’r adolygiadau hyn yn chwarae rhan bwysig wrth gynorthwyo pwyllgorau craffu i asesu pob enwebiad.

Bydd aelodau’r pwyllgor craffu yn darllen pob enwebiad a gyflwynir i’r pwyllgor, gan gynnwys adolygiadau, cyn cyfarfod craffu. Bydd pob aelod pwyllgor yn cael un neu fwy o enwebiadau y byddant yn gweithredu fel aelod cyflwyno ar eu cyfer.

Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod ar-lein i ystyried yr holl enwebiadau y mae wedi’u derbyn, ac yn ystyried yr holl wybodaeth a ddarparwyd, gan gynnwys adolygiadau. Ni all yr aelodau ystyried unrhyw wybodaeth nad yw wedi’i chynnwys o fewn y ffurflenni enwebu neu hyperddolenni sydd wedi’u cynnwys o fewn unrhyw un o’r dogfennau enwebu. Mae’r aelodau yn dod i gonsensws drwy asesu effaith bersonol yr enwebai, fel y dangosir gan y dystiolaeth a ddarparwyd yn erbyn meini prawf rhagoriaeth. Bydd argymhelliad y pwyllgor, a’r rhesymau dros ddod i’r penderfyniad hwnnw, yn cael eu cofnodi ar gyfer pob enwebiad. Mae’r cofnod hwn yn gyfrinachol ac ni fydd yn cael ei rannu ag unrhyw un y tu allan i’r Gymdeithas. Rhoddir crynodeb o adborth ar lafar i enwebeion ar gais fel yr esbonnir yn Atodiad 5, adran Adborth i Enwebeion. Bydd y pwyllgor craffu yn gwneud ei argymhellion i’r Is-lywyddion mewn cyfarfod adolygu ôl-graffu. Yna bydd y Cyngor yn cyfarfod ym mis Mawrth i dderbyn yr argymhellion a wnaed gan y pwyllgorau craffu, wedi’u dilysu gan yr is-lywyddion, ac i wneud y penderfyniad terfynol ar ba enwebiadau i’w cyflwyno i bleidlais o’n holl Gymrodyr.

Yn ôl i ben y dudalen

Byddwn yn cysylltu â chi i’ch llongyfarch ar gael eich ethol yn Gymrawd. Byddwn yn eich gwahodd i gael eich derbyn yn ffurfiol yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Mai, ac i fynychu ein cinio blynyddol.

Nodwch fod gofyn i Gymrodyr newydd dalu ffi derbyn o £90. Mae yna hefyd ffi tanysgrifio flynyddol o £180 (£90 i rai dros 70 oed ar 21 Mai 2026). Caiff y rheini sydd dros 85 oed eu heithrio o’r ffioedd derbyn a thanysgrifio. Bydd anfonebau ar gyfer ffi eich blwyddyn gyntaf (gan gynnwys y ffi derbyn) yn cael eu hanfon erbyn 30 Mehefin 2026.

Fel y nodir ar dudalen 3, rydym yn gweithredu Polisi Rhyddhad Ffioedd ar gyfer Cymrodyr y byddai ffioedd yn rhwystr i’w cyfranogiad.

Byddwn yn cysylltu â chi a’ch cynigydd i roi gwybod nad oedd eich enwebiad yn llwyddiannus ar yr achlysur hwn. Byddwch yn cael eich annog i geisio adborth gan yr is-lywydd perthnasol. Rydym yn eich annog yn gryf i fanteisio ar y cyfle hwn, gan y bydd yn eich cynorthwyo i gyflwyno enwebiad yn y dyfodol.

Gallwch gael eich enwebu yn y dyfodol, cyhyd â bod eich cynigydd yn cyflwyno enwebiad wedi’i ddiweddaru gan ddefnyddio gwaith papur cylch etholiad y flwyddyn honno. Does dim terfyn ar y nifer o weithiau y gallwch gael eich enwebu.

Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Cofrestra’r Brifysgol
Rhodfa Brenin Edward VII
Parc Cathays
Caerdydd, CF10 3NS
Cymru

www.learnedsociety.wales
nominations@lsw.wales.ac.uk
+44 (0)29 2037 6954

Yn ôl i ben y dudalen

ATODIAD 1 – Canllawiau ar Gwblhau’r Ffurflenni

Oni nodir yn wahanol, dylai’r cynigydd gwblhau pob rhan o’r ffurflen enwebu.

Cwestiynau 1-2 I’w cwblhau gan y cynigydd. Nodwch enwau llawn, teitlau a llythrennau ôl-enwol. Gallwch ddefnyddio e-lofnodion, llofnodion wedi’u sganio neu enwau wedi’u teipio yn y blwch llofnod.

Cwestiwn 3 I’w gwblhau gan yr eilydd. Gallwch ddefnyddio e-lofnodion, llofnodion wedi’u sganio neu enwau wedi’u teipio yn y blwch llofnod.

Cwestiwn 4 I’w gwblhau gan y cynigydd. Nodwch enw’r cefnogwr gwybodus ynghyd â sail resymegol dros eu dewis. Nodwch fod rhaid i’r cefnogwr gwybodus gwblhau ffurflen ar wahân – gweler yr arweiniad ar dudalen 10.

Cwestiwn 5 Awgrymwch dri adolygydd i’r pwyllgor craffu eu hystyried. Rhaid i chi sicrhau eu cytundeb mewn egwyddor i weithredu fel adolygwyr. Defnyddiwch y templed safonol ar gyfer y cyswllt hwn sydd ar gael yma. Gallwch un ai nodi adolygwyr arfaethedig eich hun neu ofyn i’r enwebai awgrymu rhestr o nifer o enwau, y gallwch ddewis y tri terfynol ohoni. Nid yw’r enwebai i gysylltu ag unrhyw un o’r unigolion hynny.

Cwestiwn 6 Dewiswch y pwyllgor craffu mwyaf addas i asesu’r enwebiad. Gweler Atodiad 3 am arweiniad manylach.  Mae cynigwyr yn cael eu hannog i gael cyngor cyn cyflwyno enwebiad, gan fod 10 pwyllgor craffu gyda chylchoedd gwaith penodol. Dim ond un pwyllgor all ystyried enwebiad, ac ni ellir ei drosglwyddo o un pwyllgor i’r llall.

Cwestiwn 7-8 Cwblhewch a rhowch ddyddiad ar y datganiad.

DS. Rhaid cadw’r ffurflen a’i chyflwyno fel dogfen MS Word, nid fel ffeil pdf.

Yn ôl i ben y dudalen

Dylai’r cynigydd a’r enwebai weithio gyda’i gilydd ar y ffurflen dystiolaeth. Mae hon yn darparu gwybodaeth hanfodol i gefnogi’r enwebiad. Dylai ddarparu’r dystiolaeth sydd ei hangen:

  1. I gefnogi’r achos dros etholiad a wneir gan y cynigydd a’r eilydd, a
  2. I roi’r dystiolaeth i’r cefnogwr gwybodus, yr adolygwyr a’r pwyllgor craffu i wneud penderfyniadau gwybodus am honiadau a wneir yn yr enwebiad.

Mae’n arbennig o bwysig bod y ffurflen dystiolaeth yn dangos sut mae’r enwebai yn bodloni ein meini prawf rhagoriaeth cyffredinol. Peidiwch â chynnwys hyperddolenni yn y ffurflen am na ellir eu hystyried fel rhan o’ch enwebiad.

Mae canllawiau pellach ar y meini prawf rhagoriaeth ar gael yn Atodiad 4.

Cwestiwn 1 Nodwch eich manylion personol. Mae’r datganiad ar dudalen olaf y ffurflen yn egluro sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol (manylion cyswllt na dyddiad geni) gyda’r pwyllgor craffu na’r adolygwyr.

Nodwch: os bydd eich enwebiad yn llwyddiannus, byddwn yn atgynhyrchu’r wybodaeth ganlynol yn union fel y’i darperir yng Nghwestiwn 1 yn ein cofrestr o Gymrodyr ac mewn datganiadau cyhoeddus:

  • Eich teitl, enw ac unrhyw lythrennau ôl-enwol (felly rhowch enwau canol dim ond os ydych yn defnyddio’r rhain yn gyhoeddus).
  • Eich swydd/rôl a’ch sefydliad (fodd bynnag os ydych chi am ddefnyddio cyswllt â sefydliad arall, nodwch hwnnw yn y blwch isod).

Cwestiwn 2 Ticiwch ‘Ydw’ os ydych yn dymuno i’r pwyllgor craffu ystyried amgylchiadau unigol sydd wedi effeithio ar eich gyrfa. Gallai hyn gynnwys bylchau mewn gwaith, lleihad mewn allbwn, neu newidiadau mewn amgylchiadau personol.

Bydd natur y rhagoriaeth rydym ni’n chwilio amdani bob amser yn gysylltiedig â bywyd a phrofiad yr enwebai a phrofiad. Wrth asesu eich enwebiad, mae’r pwyllgor craffu’n gallu ystyried trefniadau cytundebol (e.e. llawn amser, rhan amser, rhannu swydd, cyfrifoldebau clinigol) ac unrhyw amgylchiadau personol, teuluol neu anacademaidd a allai fod wedi effeithio ar eich proffil gyrfa neu swmp eich gwaith. Bydd y safonau rhagoriaeth yn parhau’r un fath.

Mae’r ffactorau y gellid eu hystyried yn cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Trefniadau gwaith hyblyg (e.e. saib gyrfa, gweithio rhan amser, gweithio yn ystod y semester / tymor, rhannu swydd)
  • Beichiogrwydd, mamolaeth, tadolaeth, rhannu absenoldeb rheini, mabwysiadu a benthyg croth, gwarcheidwaeth arbennig
  • Pryderon sy’n codi mewn perthynas â materion cydraddoldeb a chynhwysiant
  • Cyfrifoldebau gofal
  • Anabledd, afiechyd (yn cynnwys iechyd meddwl) neu anaf
  • Amgylchiadau’n gysylltiedig â hunaniaeth rhywedd
  • Amgylchiadau personol, teuluol neu eraill sy’n anacademaidd sydd wedi cyfyngu neu oedi eich gyrfa broffesiynol

Os nad yw’r materion yn gyfrinachol, nodwch nhw yn y blwch testun dan Gwestiwn 2. Os yw’r materion neu eu heffaith yn fwy cyfrinachol eu natur, anfonwch ffurflen amgylchiadau unigol (gweler tudalen 10) ar wahân. Bydd hyn ond yn cael ei rannu â chadeirydd y pwyllgor craffu, a fydd yn asesu’r effaith. Ni fydd y manylion yn cael eu rhannu gydag aelodau eraill.

Cwestiwn 3 Nodwch ein diffiniad o ‘Cysylltiad â Chymru’:

Unigolion sy’n preswylio yng Nghymru, unigolion a anwyd yng Nghymru ond sy’n preswylio yn rhywle arall ac eraill sydd â chysylltiad penodol â Chymru.

Gall cysylltiadau ‘eraill’ gynnwys y canlynol, heb fod yn gyfyngedig iddynt – cyfraniadau i astudiaethau am Gymru, i fywyd cyhoeddus Cymru, neu i systemau addysg yng Nghymru.

Cwestiwn 4 Heb ddefnyddio mwy na 5 gair, disgrifiwch eich maes gweithgarwch. Er enghraifft, gallwch restru “Iechyd y Cyhoedd”, “Cyfraith Ryngwladol”, Biocemeg”, “Llenyddiaeth a Diwylliant Ewropeaidd”, “Arweinyddiaeth a Rheolaeth Addysg Uwch”, “Cyfrifiadureg”, “Sector Cyhoeddus” ac ati. Os cewch eich ethol, bydd y disgrifiad hwn yn cael ei ddefnyddio fel tag ar ein gwefan a’n cronfa ddata, er mwyn cysylltu Cymrodyr ag arbenigedd mewn maes penodol.

Cwestiwn 5 Rhowch fywgraffiad byr sy’n addas ar gyfer defnydd cyhoeddus. Os cewch eich ethol, bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyhoeddi’r Cymrodyr a etholwyd yn 2026, ynghyd ag ar wefan y Gymdeithas.

Cwestiynau 6-9 Dylech ateb y cwestiynau hyn yn yr un ffordd ag ar CV.

Cwestiwn 10 Nodwch eich meysydd arbenigedd penodol a’ch prif gyflawniadau ac allbynnau. Nid oes angen rhestru pob allbwn. Yn hytrach canolbwyntiwch ar y rhai sy’n creu’r effaith fwyaf, hyd at 20 ohonynt, gan egluro eu cyrhaeddiad a’u harwyddocâd. Ar gyfer allbynnau neu weithgareddau a wnaed fel tîm, dylech roi pwyslais ar eich cyfraniad chi yn benodol. Pa wahaniaeth wnaeth eich gwaith yn eich maes o arbenigedd? A yw eich cyfraniad neilltuol wedi helpu i sicrhau newid neu welliant? Sut mae eich gwaith wedi llwyddo i ddylanwadu ar eraill yn eich maes? Osgowch ailadrodd yr un wybodaeth drwy gydol y ddogfen, neu ddyblygu gwybodaeth o’ch CV. Gall allbynnau gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Cyhoeddiadau sylweddol neu gyfraniadau ysgolheigaidd (e.e. llyfrau, erthyglau cyfnodolion wedi’u hadolygu gan gymheiriaid, penodau mewn llyfrau, adroddiadau ymchwil). Yn achos cyhoeddiadau ar y cyd, rhowch enwau’r holl gyd-awduron yn y drefn y cafwyd eu cyhoeddi.
  • Cynnyrch artistig (e.e. perfformiadau, gweithiau llenyddol, cyfansoddiadau cerddorol).
  • Adroddiadau neu gyfraniadau eraill i’n llywodraeth, cyrff ariannu, asiantaethau rhyngwladol, cyrff elusennol mawr neu fusnes.
  • Cyfraniadau at bolisi neu addysgeg.
  • Cynnyrch eraill fel meddalwedd, dyluniadau, arteffactau, cwmnïau newydd neu batentau.

Cwestiwn 11 Nodwch dystiolaeth ar gyfer eich cyflawniadau a chyfraniad, eich safbwynt a’ch effaith a budd cymdeithasol o dan bob un o’r tri maen prawf cyffredinol o ragoriaeth. Noder, yr uchafswm geiriau ar gyfer pob maen prawf yw 1000 gair, h.y. cyfanswm o 3000 gair.

Mae’r adran hon o’r enwebiad yn hollbwysig. Dim ond enwebeion sy’n dangos cyflawniadau rhagorol sy’n bodloni ein meini prawf sy’n debygol o gael eu hargymell i’w hethol i’r Gymrodoriaeth. Felly, sicrhewch eich bod yn darparu tystiolaeth o faint ac arwyddocâd dylanwad personol ar gyrhaeddiad ac effaith eich cyflawniadau a’ch cyfraniadau. Mae hyn yn helpu’r pwyllgorau craffu asesu enwebiadau yng nghyd-destun eu harbenigedd.  Mae Atodiad 4 yn rhoi enghreifftiau o’r mathau o gyflawniadau a allai ddangos hyn.

Cwestiwn 12 Nodwch sut yr ydych yn bwriadu cyfrannu at hyrwyddo amcanion y Gymdeithas.

Cwestiwn 13 Ticiwch bob opsiwn sy’n cyd-fynd yn dda â’ch arbenigedd a’ch diddordebau.

Cwestiwn 14 Mae’r cwestiwn hwn yn gyfle i chi roi unrhyw wybodaeth ychwanegol a allai gynorthwyo’r pwyllgor craffu. D.S. Y ffurflen hon yw eich unig gyfle i roi gwybodaeth o’r fath i ni, am na fyddem yn ystyried unrhyw ddogfennaeth arall a chaiff ei hanfon atom ar wahân.

Cwestiwn 15 Mae’r adran hon i’w chwblhau gan eich cynigydd mewn ymateb i’r wybodaeth yr ydych wedi’i darparu yn y ffurflen hon.

Cwestiwn 16-17 Cwblhewch y datganiadau.

Cwestiwn 18-19 Arwyddwch a nodwch y dyddiad ar y ffurflen. Gallwch ddefnyddio e-lofnodion, llofnodion wedi’u sganio neu enwau wedi’u teipio yn y blwch llofnod.

DS. Rhaid cadw’r ffurflen a’i chyflwyno fel dogfen MS Word, nid fel ffeil pdf.

Yn ôl i ben y dudalen

Curriculum Vitae

Nid oes fformat safonol ar gyfer CV ond sicrhewch nad yw’n hirach na phedair tudalen. DS ni chaniateir atodiadau ac ni ddylai maint y ffont fod yn llai na 11. Dylai’r ddogfen gael ei chadw fel dogfen MS Word, nid ffeil pdf.

Bydd yr adroddiad hwn yn casglu adborth gan unigolyn y gwyddys bod ganddo wybodaeth am yr Enwebai a’i waith. 

Cwestiwn 1-2 Darparwch y manylion personol gofynnol a manylwch ar eich perthynas â’r enwebai, neu’ch gwybodaeth amdanynt. Cyfeiriwch at dudalen 13 y ddogfen hon i sicrhau eich bod yn bodloni’r meini prawf i fod yn gefnogwr gwybodus ac eich bod yn gallu darparu asesiad gwrthrychol o’r enwebai.

Cwestiwn 3 I gwblhau’r adran hon, gofynnwn i chi gyfeirio at ffurflen tystiolaeth yr enwebai. Ar y ffurflen hon, mae’r enwebai wedi darparu tystiolaeth o dan y tri maen prawf rhagoriaeth y mae eu henwebiad yn cael ei asesu yn eu herbyn. Cyfeiriwch yn benodol at y dystiolaeth hon i roi eich barn ar p’un ai yw’r enwebai yn bodloni’r meini prawf.

Cwestiwn 5-6 Arwyddwch a nodwch y dyddiad ar y ffurflen. Gallwch ddefnyddio e-lofnodion, llofnodion wedi’u sganio neu enwau wedi’u teipio yn y blwch llofnod.

DS. Rhaid cadw’r ffurflen a’i chyflwyno fel dogfen MS Word, nid fel ffeil pdf.

Yn ôl i ben y dudalen

Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu barn ychwanegol ac annibynnol gan unigolyn sydd â phrofiad sylweddol ym maes yr enwebai, a thrwy hynny gynorthwyo aelodau’r pwyllgor craffu i asesu ansawdd y dystiolaeth a ddarparwyd yn yr enwebiad.

Cwestiwn 1-2 Darparwch y manylion personol gofynnol.

Cwestiwn 3 Esboniwch p’un a ydych yn adnabod yr enwebai ac os ydych, sut. Rydym yn gofyn am adolygiadau gan unigolion sydd ddigon pell oddi wrth yr enwebai fel eu bod yn gallu darparu adolygiad gwrthrychol.  Os ydych yn ansicr p’un a oes gwrthdaro buddiannau, cyfeiriwch at dudalen 12 y ddogfen hon i sicrhau eich bod yn bodloni’r meini prawf i fod yn adolygwr neu cysylltwch â ni am eglurhad.

Cwestiwn 4 Ticiwch y blwch sydd, yn eich barn chi, yn cynnig y disgrifiad mwyaf priodol o’r enwebai mewn perthynas â’n meini prawf etholiad. Bydd ein pwyllgor craffu’n ystyried hwn ochr yn ochr â’ch ateb i Gwestiwn 5.

Cwestiwn 5 Nodwch sail resymegol yr asesiad a roddwyd yng Nghwestiwn 4. I gwblhau’r adran hon, gofynnwn i chi gyfeirio at ffurflen tystiolaeth yr enwebai. Ar y ffurflen hon, mae’r enwebai wedi darparu tystiolaeth y bydd yr enwebiad yn cael ei asesu yn ei erbyn. Cyfeiriwch yn benodol at y dystiolaeth hon o dan y meini prawf rhagoriaeth i benderfynu p’un a yw’r enwebai yn eu bodloni. D.S. Nid oes gan bob enwebai yn y categori ICAP gefndir academaidd a dylai eich adolygiad ystyried hynny.

Cwestiwn 6-7 Arwyddwch a nodwch y dyddiad ar y ffurflen. Gallwch ddefnyddio e-lofnodion, llofnodion wedi’u sganio neu enwau wedi’u teipio yn y blwch llofnod.

DS. Rhaid cadw’r ffurflen a’i chyflwyno fel dogfen MS Word, nid fel ffeil pdf.

Yn ôl i ben y dudalen

Rydym yn cydnabod y gallai amgylchiadau unigol effeithio ar yrfa. Er mwyn hyrwyddo adolygiad teg, rydym wedi cyflwyno’r cwestiwn amgylchiadau unigol yn y ffurflen dystiolaeth enwebai, ac rydym yn annog pob enwebai i ddefnyddio hyn fel ffordd o dynnu sylw at y pwyllgor craffu, unrhyw beth a allai fod wedi cael effaith ar eu gyrfa a’u cyfraniadau i fyd dysgu ac ymchwil.  Rydym yn deall bod hyn yn unigryw i bawb, ac rydym yn annog enwebeion i rannu unrhyw beth yr hoffent ei ystyried. 

Os yw’r wybodaeth yn gyfrinachol, gall enwebeion ddewis llenwi ffurflen amgylchiadau unigol cyfrinachol, gan roi manylion unrhyw amgylchiadau a allai fod wedi effeithio ar eu gyrfa. Dylent gyflwyno’r ffurflen yn uniongyrchol i’r Gymdeithas drwy nominations@lsw.wales.ac.uk a gallwch fod yn sicr y bydd yn cael ei thrin mewn modd sensitif a chyfrinachol. Byddwn yn cydnabod ei derbyn.

Dim ond staff perthnasol yn y Gymdeithas a chadeirydd y pwyllgor craffu perthnasol sy’n gweld y ffurflen wedi’i chwblhau. Bydd y cadeirydd yn asesu effaith yr amgylchiadau ar yrfa’r enwebai, a bydd yr effaith honno – nid y manylion – yn cael ei chyflwyno i’r pwyllgor craffu yn ystod y cyfarfod a gynhelir i asesu’r enwebiadau.

Nid oes terfyn geiriau ar gyfer y ffurflen hon.

Yn ôl i ben y dudalen

Yr enwebai yw’r unigolyn sy’n dymuno cael ei ethol yn Gymrawd. Rydym yn diffinio Cymrawd fel a ganlyn:

Bydd y Cymrodyr yn unigolion sy’n preswylio yng Nghymru, unigolion a anwyd yng Nghymru ond sy’n preswylio yn rhywle arall ac eraill sydd â chysylltiad penodol â Chymru; ym mhob achos bydd ganddynt hanes amlwg o ragoriaeth a chyflawniad mewn un o’r disgyblaethau academaidd neu, os ydynt yn aelodau o’r proffesiynau, y celfyddydau, diwydiant, masnach neu wasanaethau cyhoeddus, byddant wedi gwneud cyfraniad nodedig i fyd dysg.

Bydd y meini prawf a’r mesur o arbenigrwydd wrth reswm yn amrywio rhwng gwahanol ddisgyblaethau a meysydd cyflawniad. Rydym yn mesur cyflawniadau pob enwebai yn ôl y cyfleoedd maen nhw wedi’u cael yn eu gyrfa. Fodd bynnag, ym mhob achos, rydym yn diffinio rhagoriaeth yn nhermau’r meini prawf cyffredinol canlynol:

  • Cyflawniad eithriadol (ansawdd eich cyflawniadau a’ch cyfraniadau at ddysg a/neu’ch maes gweithgarwch)
  • Statws proffesiynol (cryfder eich enw da ymhlith eich cyfoedion)
  • Cyfraniadau ehangach (yr effaith rydych wedi’i chael ar bobl, sefydliadau neu gymdeithas ehangach)

Darperir rhagor o wybodaeth am y meini prawf hyn yn Atodiad 4.

Yn ôl i ben y dudalen

Mae’r cynigydd yn gyfrifol am gwblhau’r ffurflen enwebu a chyflwyno’r holl ddogfennau a nodir o dan ‘Beth sydd ei angen ar gyfer enwebiad dilys?’ (tud.4). Mae’r cynigydd yn gweithio’n agos gyda’r enwebai i’w cynorthwyo gyda chwblhau’r ffurflen dystiolaeth enwebai a chyflwyno eu hachos dros etholiad yn y ffordd fwyaf perswadiol. Y cynigydd yw prif gyswllt y Gymdeithas mewn perthynas â’r enwebiad a bydd, ynghyd â’r Enwebai, yn cael ei hysbysu am y canlyniad ar ddiwedd y broses etholiadol.

Rhaid i’r cynigydd fod yn Gymrawd y Gymdeithas. Ym mhob cylch etholiad, caiff Cymrawd weithredu fel Cynigydd ar gyfer tri Enwebai yn unig. Nid yw’r cyfyngiad hwn yn berthnasol ar gyfer enwebu pobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y Gymdeithas ar hyn o bryd, fel menywod a phobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.

Er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau, ni all y cynigydd fod:

  1. Yn gadeirydd un o’n pwyllgorau craffu
  2. Yn aelod o’r pwyllgor craffu y cyflwynir yr enwebiad iddo
  3. Yn perthyn i’r enwebai

Yn ôl i ben y dudalen

Mae’r eilydd yn cefnogi’r enwebiad ac yn cwblhau cwestiynau 3 ar y ffurflen enwebu.

Fel y cynigydd, rhaid iddynt fod yn Gymrawd. Er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau, ni all yr eilydd fod:

  1. Yn gadeirydd un o’n pwyllgorau craffu,
  2. Yn aelod o’r pwyllgor craffu y cyflwynir yr enwebiad iddo,
  3. Yn perthyn i’r enwebai.

Yn ôl i ben y dudalen

Mae’r cefnogwr gwybodus yn defnyddio ei wybodaeth am yr enwebai i gefnogi’r enwebiad. Gofynnir i’r Cefnogwr Gwybodus gwblhau ffurflen adroddiad ar wahân a’i hanfon at y Cynigydd cyn dyddiad cau’r enwebiadau.

Nid oes angen i’r Cefnogwr Gwybodus fod yn Gymrawd, ond dylai fod yn:

  • Rhywun sy’n gyfarwydd â gwaith yr enwebai (efallai eu bod wedi cydweithio – e.e. cyd-ddeiliad grant, cydawdur, goruchwyliwr neu gydweithiwr – ond nid yw hyn yn ofynnol),
  • Unigolyn nodedig o fyd busnes, gwasanaeth cyhoeddus neu’r proffesiynau sydd â statws rhyngwladol neu gyfatebol/arwyddocaol yn eu maes.

Ni all y cefnogwr gwybodus fod:

  1. Yn aelod o Gyngor y Gymdeithas neu o’r pwyllgor craffu y cyflwynir yr enwebiad iddo,
  2. Yn gyflogedig neu’n gweithio yn sefydliad/corff yr enwebai,
  3. Yn perthyn i’r enwebai.

Caiff y cynigydd, yr eilydd a’r enwebai drafod pobl briodol ar gyfer y rôl hon, ond y cynigydd yn unig ddylai gysylltu â’r cefnogwr gwybodus i holi am adroddiad.

Yn ôl i ben y dudalen

Caiff pob enwebiad ei asesu gan ddau adolygwr.

Gofynnir i’r adolygydd gwblhau adroddiad annibynnol a gwrthrychol yn dilyn derbyn enwebiad wedi’i gwblhau. Yn yr adroddiad, bydd yr adolygydd yn asesu’r enwebai yn erbyn ein meini prawf rhagoriaeth a thystiolaeth sydd wedi’i darparu.

Nid oes rhaid i adolygydd fod yn Gymrawd, ond dylent fod yn:

  • Unigolyn nodedig o fyd busnes, gwasanaeth cyhoeddus, y byd academaidd neu’r proffesiynau sydd â statws rhyngwladol neu gyfatebol/arwyddocaol yn eu maes,
  • Rhywun sy’n gyfarwydd â maes, gwaith neu statws yr enwebai.
  • Rhywun sydd ddigon pell oddi wrth yr enwebai fel eu bod yn gallu darparu adolygiad gwrthrychol.

Gallant fod wedi’u lleoli y tu allan i’r DU er mwyn cynorthwyo asesiad o enw da rhyngwladol yr enwebai.

Ni all adolygwyr fod:

  1. Yn aelod o Gyngor y Gymdeithas, Pwyllgor Cymrodoriaeth neu’r pwyllgor craffu y cyflwynir yr enwebiad iddo,
  2. Yn gyflogedig neu’n gweithio yn sefydliad/corff yr enwebai ar hyn o bryd,
  3. Yn gyd-awdur neu gyd-brif ymchwilydd cyfredol neu ddiweddar gyda’r enwebai,
  4. Yn gyllidwr neu’n aelod o gorff ariannu sydd/oedd yn rhan o benderfyniad ynghylch ariannu ymchwil yr enwebai,
  5. Yn ffrind personol agos, perthynas neu bartner busnes yr enwebai.

Bydd y cynigydd yn awgrymu tri adolygydd ar y ffurflen enwebu yn dilyn derbyn eu cytundeb mewn egwyddor i’w cynnwys yn y ffurflen enwebu.

Bydd y pwyllgor craffu perthnasol yn cysylltu â’r ddau adolygydd cyntaf sydd wedi’u rhestru ar y ffurflen enwebu i ofyn am adroddiadau ysgrifenedig. Bydd y trydydd yn cael ei gadw wrth gefn..

Yn ôl i ben y dudalen

Defnyddiwch y rhestr hon o esiamplau awgrymedig, ond nid rhai pendant, i benderfynu pa bwyllgor craffu sy’n briodol ar gyfer enwebiad. Rydym yn cydnabod y gall rhai enwebeion hawlio rhagoriaeth mewn mwy nag un ddisgyblaeth neu faes gweithgarwch. Yn yr achosion hyn, dylech ddewis y brif ddisgyblaeth/maes a chyflwyno’r enwebiad i’r Pwyllgor hwnnw. Fel arall, cysylltwch â nominations@lsw.wales.ac.uk am gyngor.

I weld rhestr o aelodau cyfredol y pwyllgor craffu, ewch i: www.learnedsociety.wales/fellowship/becoming-a-fellow/scrutiny-committees

Arweinyddiaeth mewn Diwylliant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd
Llyfrgellyddiaeth a Rheoli GwybodaethYsgrifennu Creadigol
Curaduraeth Amgueddfeydd ac OrielauFfilm, Teledu, Radio a’r Cyfryngau Digidol
TreftadaethYmarfer yn y Celfyddydau Gweledol a Chymwysedig
Dawns, Theatr a PherfformioAllgymorth a Dealltwriaeth y Cyhoedd o Wyddoniaeth a Llên
Cerddoriaeth 

Yn ôl i ben y dudalen

Arweinyddiaeth Broffesiynol, Addysgol a Sector Cyhoeddus
Rheoli yn y Sector PreifatPolisi Cyhoeddus ac Arweinyddiaeth yn y Sector Cyhoeddus
Arweinyddiaeth BroffesiynolArweinyddiaeth a Datblygu Ysgolion ac Addysg Bellach
Arweinyddiaeth yn y Sector Dielw a GwirfoddolArweinyddiaeth a Datblygu Addysg Drydyddol

Yn ôl i ben y dudalen

Rhaid i bob enwebiad fodloni ein tri maen prawf rhagoriaeth:

  • Cyflawniad eithriadol (ansawdd cyflawniadau’r enwebai a’u cyfraniadau at ddysgu a/neu eu maes gweithgarwch)
  • Statws proffesiynol (cryfder enw da’r enwebai ymysg eu cymheiriaid)
  • Cyfraniadau ehangach (yr effaith mae’r enwebai wedi ei chael ar bobl, sefydliadau neu gymdeithas yn ehangach)

Mae’r sector hwn o’r Gymrodoriaeth yn cwmpasu ystod amrywiol iawn o gyflawniadau a chyfraniadau i fyd dysgu a/neu faes gweithgarwch. Dylai’r enwebeion yn y categori hwn ddarparu tystiolaeth i ddangos bod eu cyflawniadau yn bodloni ein meini prawf rhagoriaeth cyffredinol ac yn mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau arferol eu swydd.

Rhaid i enwebeion a chynigwyr weithio gyda’i gilydd i gwblhau’r ffurflen dystiolaeth enwebai. Ar y ffurflen dystiolaeth enwebai, anogir enwebeion i ddefnyddio manylion cywir a datgan yn glir eu heffaith bersonol yn erbyn unrhyw dystiolaeth a roddant i gefnogi eu henwebiad. Mae’n bwysig cofio nad yw aelodau’r pwyllgor craffu o reidrwydd o’r un disgyblaethau a phroffesiynau a’i bod er budd yr enwebai i esbonio’n glir effaith ac arwyddocâd eu cyflawniadau. Dylai’r dystiolaeth a roddir o dan y meini prawf rhagoriaeth ddangos fod yr enwebai yn bodloni’r meini prawf hynny.

Dylai’r cynigydd a’r enwebai nodi’r maes cyflawniad a’r is-feysydd penodol y maent yn honni rhagoriaeth ynddynt. I’w cynorthwyo, rydym wedi rhestru’r esiamplau canlynol o briodoleddau a chyflawniadau a allai fodloni ein tri maen prawf rhagoriaeth yn y meysydd hyn. Pwysleisiwn mai dangosol yn unig yw’r rhain ac nad yw’n rhestr gynhwysfawr. Gellir bodloni’r holl ddangosyddion a restrir isod ar lefel Cymru ac/neu ar lefel ryngwladol.

  • Gweithgareddau sy’n hyrwyddo ymgysylltu â’r byd dysgu,
  • Ymrwymiad i drosglwyddo eiddo, arbenigedd, dysgu a sgiliau diriaethol a deallusol rhwng y gymuned anacademaidd a’r byd academaidd,
  • Cynnyrch (cyhoeddiadau, erthyglau cyfnodolion, llyfrau, perfformiadau, darllediadau, cyfansoddiadau, arddangosfeydd, meddalwedd, patentau) gyda statws ac effaith amlwg,
  • Gweithgareddau sy’n hyrwyddo/gwella cyfathrebu’r disgyblaethau neu broffesiynau i gynulleidfaoedd ehangach,
  • Cyfraniad ysbrydoledig at ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ysgolheigion, a datblygiad, cefnogaeth a pharhad y ddisgyblaeth neu’r maes perthnasol,
  • Hwyluso addysg pobl eraill, drwy gyfraniadau mawr i ddysgu a chymorth ar gyfer dysgu,
  • Cyfraniad eithriadol at ddatblygu a chynnal y disgyblaethau/proffesiynau er budd Cymru a’i chymunedau,
  • Cyfnewid gwybodaeth, lle mae arloesi mewn busnes, y celfyddydau, gwyddoniaeth neu’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn cyfrannu at wybodaeth ac ymchwil academaidd,
  • Arfer cyfrifoldeb rheoli ac arwain sylweddol o fewn y sectorau ysgolion, addysg bellach, addysg i oedolion neu addysg yn y gymuned,
  • Arweinyddiaeth dros, ac/neu gofnod o wasanaeth i gyrff, sefydliadau neu rwydweithiau proffesiynol, llywodraeth, trydydd sector neu sector preifat perthnasol,
  • Arweinyddiaeth a chyfranogiad gweithredol mewn pwyllgorau cynghori neu fforymau proffesiynol neu seiliedig ar ymarfer,
  • Gwella dealltwriaeth y cyhoedd o wybodaeth ac ymchwil, diwylliant a’r celfyddydau, ac ymgysylltu â nhw, neu gyfrannu at drafodaeth gyhoeddus wybodus,
  • Trosi arbenigedd mewn ymchwil neu addysgu yn weithgaredd buddiol neu’n newid positif yn y gymuned ehangach.

Yn ôl i ben y dudalen

Mae’r canllawiau ychwanegol canlynol ar gyfer aelodau o’n deg pwyllgor craffu. Fe’u cynhwysir yma er mwyn gwneud y Broses Etholiadol, a’r penderfyniadau sy’n ymwneud â’r broses, yn dryloyw i bawb.

Caiff gwybodaeth a dogfennaeth yn ymwneud ag enwebiadau etholiad eu darparu i aelodau o’r pwyllgorau craffu ar sail hollol gyfrinachol ac ni cheir eu trafod â neb na’u datgelu i neb ar unrhyw gyfrif ar wahân i’r canlynol:

  • Cyd aelodau o’r pwyllgor craffu
  • Adolygwyr
  • Yr is-lywydd cyfrifol
  • Staff perthnasol Cymdeithas Ddysgedig Cymru
  1. Mae gan bob pwyllgor craffu aelodaeth graidd sydd fel arfer yn cynnwys y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelod annibynnol a chwe Chymrawd arall sy’n gweithio neu’n brofiadol mewn meysydd perthnasol. Gellir dod o hyd i broffiliau rôl a chylch gorchwyl yma.
  2. Lle mae pwyllgor yn nodi bod angen mewnbwn arbenigol pellach, gall hefyd gyfethol un neu fwy o Gymrodyr o’r disgyblaethau perthnasol.
  3. I gynorthwyo gyda’r broses graffu, caiff cyfeiriadau ebost cyswllt pob aelod o’r pwyllgor craffu eu cylchredeg i aelodau eraill o’r pwyllgor, a chaiff cyfeiriadau ebost cyswllt pob cadeirydd eu cylchredeg i’r cadeiryddion eraill.
  1. Ni ddylai Cymrawd wasanaethu am fwy na phedair blynedd yn ddi-dor ar unrhyw bwyllgor, boed y cyfnod hwnnw yn rhinwedd rôl fel cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod.
  2. Gall aelodau annibynnol wasanaethu am dymor o un flwyddyn i ddechrau, gyda’r posibilrwydd o ymestyn am ddau dymor olynol arall, yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor Cymrodoriaeth.
  3. Ni fydd cymryd cyfnod absenoldeb yn ystod y ddaliadaeth, waeth beth fo’r rheswm, yn effeithio ar hyd y ddaliadaeth aelodaeth pwyllgor craffu yn gyffredinol.
  4. Unwaith y bydd Cymrawd yn cyrraedd y terfyn, ceir saib o dair blynedd cyn y bydd yn gymwys i wasanaethu ar y pwyllgor hwnnw eto.
  1. Gwneir pob penodiad i bwyllgorau craffu, waeth beth fo’u rolau, gan y Pwyllgor Cymrodoriaeth.
  2. Bydd staff Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ceisio datganiadau o ddiddordeb gan bob Cymrodyr o ddisgyblaethau perthnasol. Bydd disgrifiad rôl yn cael ei ddarparu.
  3. Bydd disgwyl i’r rhai sy’n ymgeisio am rôl cadeirydd fod â phrofiad blaenorol o wasanaethu ar bwyllgor craffu ar draws unrhyw ddisgyblaeth.
  4. Bydd ymgeiswyr ar gyfer rôl yr is-gadeirydd yn cael eu penodi o blith aelodaeth bresennol y pwyllgor craffu.
  5. Bydd disgwyl i’r rhai sy’n ymgeisio am rôl aelod annibynnol feddu ar arbenigedd amlwg mewn materion tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant.
  6. Bydd pob pwyllgor craffu yn ceisio cael Cymrodyr o ystod eang o feysydd pwnc a demograffeg amrywiol fel aelodau – gweler pwynt 8 – yn unol â Pholisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gymdeithas. Drwy gytundeb â’r is-lywydd perthnasol, gellir ategu’r dull recriwtio cyffredinol gyda chyfathrebu wedi’i dargedu â Chymrodyr a fyddai’n galluogi’r pwyllgor i gyflawni’r gofyniad hwn.
  7. Os oes angen arbenigedd ychwanegol at ei aelodaeth reolaidd ar bwyllgor craffu, gall is-lywyddion, yn dilyn ymgynghori â chadeiryddion, gyfethol un neu fwy o Gymrodyr o unrhyw ddisgyblaeth berthnasol.
  8. Bydd gofyn i Gymrodyr gyflwyno datganiad o ddiddordeb ysgrifenedig a ffurfiol ar ffurflen gais safonol. Y Pwyllgor Cymrodoriaeth, mewn ymgynghoriad â chadeiryddion pwyllgorau craffu, fydd yn gyfrifol am ystyried y wybodaeth a ddarperir a chytuno pa ymgeisydd i’w penodi yn seiliedig ar amrywiaeth rhywedd, disgyblaeth, cysylltiad sefydliadol a daearyddiaeth.
  9. Gall un aelod annibynnol fod yn aelod o nifer o bwyllgorau craffu i hwyluso cysondeb dull ond mae rhaid iddynt nodi unrhyw wrthdaro buddiannau ymlaen llaw i alluogi ail-ddyrannu’r rôl a chynnal annibyniaeth.
  10. Bydd pob cadeirydd pwyllgor, ynghyd â’r is-lywydd perthnasol, yn rhoi ystyriaeth i drosiant priodol o’i aelodaeth bob blwyddyn, i sicrhau cydbwysedd rhwng dilyniant a safbwyntiau newydd.
  11. Ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, mae mynychu’r hyfforddiant cyn-graffu a’r cyfarfod ôl-graffu rhwng holl gadeiryddion y pwyllgor craffu a’r is-lywyddion perthnasol yn rhagofyniad ar gyfer cymhwysedd i wasanaethu fel cadeirydd pwyllgor craffu.

Hyfforddiant Aelodau

  1. Bydd pob aelod o’r pwyllgor craffu, waeth beth fo’u rôl, yn mynychu sesiwn hyfforddi flynyddol orfodol ar ddechrau’r broses graffu. Yn ogystal, bydd cadeiryddion, ac is-gadeiryddion pan fo angen, yn mynychu sesiwn hyfforddi fer arall a fydd yn ehangu ar y sesiwn a fynychir gan holl aelodau’r pwyllgor craffu. Bydd y sesiwn estynedig yn ymdrin â’r cyfrifoldebau sy’n benodol i gadeirio.  
  2.  Bydd y sesiynau hyfforddi blynyddol yn cynnwys: 
  • Deall y broses graffu 
  • Deall rôl y pwyllgorau 
  • Deall rolau unigolion 
  • Ymrwymiad y Gymdeithas i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant 
  1. Mae’r Gymdeithas yn ymrwymo i sicrhau bod ei phenderfyniadau a’i phrosesau penderfynu, ac yn cael eu gweld yn, yn rhydd o duedd personol ac nad ydynt yn ffafrio nac yn anffafrio unrhyw unigolyn sy’n gysylltiedig â’r Gymdeithas yn annheg. 
  2. Mae gan y Gymdeithas ddyletswydd i sicrhau bod pob aelod pwyllgor yn deall beth sy’n cael ei ystyried yn wrthdaro buddiannau, a bod ganddynt gyfrifoldeb i gydnabod a datgan unrhyw wrthdaro a all ddod i’r amlwg.
  3. Gellir diffinio gwrthdaro buddiannau fel a ganlyn:

“set o amgylchiadau sy’n creu risg bod buddiant eilaidd yn amharu neu’n dylanwadu ar allu unigolyn i ddod i farn neu weithredu yn ei rôl”.

4. I leihau’r risg o wrthdaro buddiannau yn y broses enwebu: 

  • Ni all yr is-lywydd fod yn gynigydd, eilydd, cefnogwr gwybodus neu’n adolygwr unrhyw enwebiad.
  • Ni chaiff cadeirydd pwyllgor craffu fod yn gynigydd, eilydd, cefnogwr gwybodus neu’n adolygwr unrhyw enwebiad i unrhyw bwyllgor. 
  • Ni chaiff aelod o bwyllgor craffu fod yn gynigydd, yn eilydd, yn gefnogwr gwybodus nac yn adolygydd enwebiad ar gyfer y pwyllgor y maent yn gwasanaethu arno. 
  • Ni chaiff aelod o bwyllgor craffu fod yn aelod o Gyngor y Gymdeithas.
  • Ni chaiff aelod annibynnol fod yn gynigydd, yn eilydd, yn gefnogwr gwybodus nac yn adolygydd enwebiadau i unrhyw bwyllgor craffu y mae’n mynychu.
  • Ni chaiff aelodau annibynnol fod yn aelod ‘disgyblaethol’ o unrhyw bwyllgor craffu a rhaid iddynt fod wedi cael eu hethol drwy’r pwyllgor y maent yn ei fynychu.

5. I leihau’r risg o wrthdaro buddiannau o fewn cyfarfodydd y pwyllgor craffu:  

  • Bydd aelodau annibynnol yn asesu’r rhestr o enwebeion ar gyfer eu pwyllgorau craffu ymlaen llaw i nodi unrhyw wrthdaro buddiannau. Mae hyn er mwyn sicrhau fod aelodau yn gallu aros am y cyfarfod cyfan ac nad oes angen iddynt adael yn ystod cyfarfod oherwydd gwrthdaro buddiannau.
  • Os oes gwrthdaro buddiannau rhwng y cadeirydd â’r enwebiad, bydd yr is-gadeirydd yn arwain y dasg o werthuso’r enwebiad hwnnw. 
  • Cyn pob cyfarfod pwyllgor, bydd y cadeirydd yn dyrannu enwebiadau i bob aelod o’r pwyllgor i’w cyflwyno yn y cyfarfod. Bydd aelodau’n datgan unrhyw wrthdaro buddiannau fel y gall y cadeirydd ail-ddyrannu’r enwebiadau. 
  • Ym mhob achos, ni chaiff aelod(au) sy’n datgan gwrthdaro gymryd rhan yn, na dylanwadu ar, y penderfyniad nac unrhyw bleidlais sy’n gysylltiedig â’r enwebiad dan sylw; rhaid iddynt hefyd dynnu allan o’r cyfarfod yn ystod pleidleisiau o’r fath. 
  • Ni ellir neilltuo aelod sy’n datgan gwrthdaro am unrhyw reswm i’r enwebiad hwnnw i gyflwyno yn y cyfarfod craffu.
  • Ni chaiff aelod pwyllgor sy’n adnabod enwebai ychwanegu unrhyw wybodaeth bersonol am yr unigolyn hwnnw nad yw wedi’i datgan yn y ffurflenni enwebu, ond caiff roi sylw ar yr hyn sydd ar y ffurflen enwebu os caiff wahoddiad gan y cadeirydd i wneud hynny. 
  • Ym mhob cyfarfod pwyllgor, bydd y Cadeirydd yn galw am ddatganiadau o fuddiant eto cyn i aelodau ddechrau adolygu’r enwebiadau. Rhaid i aelodau ddatgan unrhyw fuddiannau o’r math a grybwyllir uchod, neu unrhyw fuddiant perthnasol arall mewn enwebiad.
  1. Bydd tîm y staff yn dyrannu pob enwebiad i’r pwyllgor craffu a ddewiswyd gan y cynigydd ar y ffurflen enwebu.
  2. Nid yw enwebiadau yn cael eu croesgyfeirio a byddant yn cael eu gwrthod gan y pwyllgor craffu os na fyddant wedi’u cyflwyno i bwyllgor priodol.
  3. Yn dilyn adborth, os yw cynigydd yn dymuno i enwebiad aflwyddiannus gael ei ystyried unwaith eto, rhaid ei ailgyflwyno gan ddefnyddio’r ffurflenni cywir ar gyfer cylch etholiad y flwyddyn honno, cyn y dyddiad cau arferol; yna caiff ei ddyrannu i bwyllgor craffu.

Proses Adolygu

  1. Cynhelir asesiad o bob enwebiad gan ddau adolygydd. Gweler tudalen 13 am ddisgrifiad o’r rôl hon.
  2. Gall y Gymdeithas gysylltu ag adolygwyr a enwir ar y ffurflen enwebu ond gall hefyd gysylltu ag eraill yn ôl penderfyniad y cadeirydd ar ôl ymgynghori â’r is-lywydd perthnasol. Bydd y cynigwyr yn ceisio cytundeb mewn egwyddor ymlaen llaw gan yr adolygwyr y maent yn eu hawgrymu yn y ffurflen enwebu.
  3. Bydd y tîm staff yn gofyn am adolygiadau gan y ddau adolygydd a restrir ar y ffurflen enwebu. Os ceir ymateb negyddol neu os na ddaw ymateb i law o fewn y cyfnod hwnnw, gofynnir yr un peth i’r trydydd adolygydd a restrir ar y ffurflen enwebu.
  4. Gan ddefnyddio’r ffurflen adroddiad safonol, bydd pob adolygydd yn:
    a) Gosod pob enwebiad yn un o’r ddau gategori canlynol:
  • Yn bodloni’r meini prawf ar gyfer etholiad, neu
  • Ddim yn bodloni’r meini prawf ar gyfer etholiad.

    b) Darparu sail resymegol drylwyr am y penderfyniad, gan gyfeirio’n glir at ffurflen tystiolaeth yr enwebai a chyfeirio’n benodol at y meini prawf rhagoriaeth y mae’r enwebiad yn cael ei werthuso yn eu herbyn.

5. Os na all pwyllgor craffu sicrhau dau adroddiad i bob enwebai, bydd y cadeirydd yn ystyried a all y pwyllgor werthuso’r enwebai heb un. Ni ddylid cymryd hyn fel arwydd o ansawdd yr enwebiad.

Bydd cadeirydd pob pwyllgor craffu yn neilltuo pob enwebiad a dderbynnir i aelod o’r pwyllgor ar gyfer adolygiad cychwynnol. Bydd yr aelod hwn yn:

  1. Datgan unrhyw wrthdaro buddiannau, a
  2. Chyflwyno’r enwebai i weddill y pwyllgor pa fo’n cynnal ei gyfarfod ffurfiol gan dynnu sylw at brif bwyntiau i’w hystyried.
  1. Cyn ystyried enwebiadau:
    1. All scrutiny committee members, irrespective of their role, will attend a mandatory annual training, usually held in December, on the scrutiny procedures, changes made to that year’s election process and on equality, diversity and inclusion within the scrutiny process. On the same occasion, the training session will be extended for chairs, and vice-chairs when necessary, to cover tasks specific to chairing scrutiny meetings.
    2. Chairs and independent members may meet on a separate occasion to discuss any confidential individual circumstances forms received or to agree how the independent member can support the committee’s work. 
  2. Yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror, bydd pob pwyllgor craffu yn cyfarfod i ystyried yr enwebiadau a neilltuwyd iddo ac i gytuno ar y rhestr o enwebeion i’w hargymell i’r Cyngor i’w derbyn i’r Gymrodoriaeth.
  3. Y cworwm ar gyfer pob pwyllgor yw chwe aelod a rhaid iddo gynnwys: a. cadeirydd neu is-gadeirydd, a b. aelod annibynnol.
    1. Os daw’n amlwg ymlaen llaw na fydd cworwm yn y pwyllgor, bydd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd perthnasol yn penderfynu a ddylid nodi Cymrawd arall o ddisgyblaeth gyffelyb neu gyn-aelod pwyllgor craffu i sicrhau cworwm.
    2. Os na fydd pwyllgor yn llwyddo i sicrhau cworwm ar ddiwrnod y cyfarfod, ni fydd y cyfarfod yn parhau gan na fyddai’r broses graffu yn un deg. Bydd rhaid aildrefnu’r cyfarfod.
  4. Yn ystod y cyfarfod, bydd aelodau’r pwyllgor yn ystyried enwebiadau yng nghyd-destun adroddiadau adolygwyr cysylltiedig a chefnogwyr gwybodus ac yn asesu’r enwebiadau yn erbyn y meini prawf rhagoriaeth cyffredinol (Atodiad 4).
  5. Bydd yr aelod annibynnol yn darparu trosolwg ac yn cefnogi’r meysydd canlynol:
    1. Gwrthdaro buddiannau a sut caiff ei reoli,
    2. Dyrannu amser cytbwys i bob enwebiad,
    3. Yr iaith a ddefnyddir ac unrhyw ragfarn ddiarwybod a allai godi,
    4. Sicrhau y rhoddir cydnabyddiaeth briodol i enwebeion sydd wedi datgan amgylchiadau unigol,
    5. Cysondeb o ran dull,
    6. Unrhyw feirniadaeth neu benderfyniadau nad ydynt yn seiliedig ar dystiolaeth,
    7. Unrhyw dystiolaeth newydd a drafodir yn seiliedig ar brofiad yn hytrach na’r ffurflenni enwebu,
    8. Unrhyw benderfyniadau sy’n dibynnu’n llwyr ar y wybodaeth a ysgrifennwyd yn y ffurflenni,
    9. Ansawdd a manylder yr adborth a gesglir ar gyfer unrhyw enwebeion nas argymhellwyd ar gyfer Cymrodoriaeth.
  6. Gofynnir i’r pwyllgorau lunio dwy restr yn ystod y cyfarfod:
    1. Rhestr o enwebeion sy’n bodloni’r holl feini prawf rhagoriaeth ac felly’n cael eu hargymell ar gyfer etholiad, a
    2. Rhestr o unigolion nad ydynt yn bodloni’r meini prawf rhagoriaeth.
  7. Ar ddiwedd y cyfarfod craffu, bydd y cadeirydd a’r aelod annibynnol yn unig yn cwblhau eu hadroddiadau byr ar gyfer yr is-lywyddion. Bydd is-lywyddion yn defnyddio’r wybodaeth hon i roi gwybodaeth i’r Cyngor Arbennig er mwyn rhoi goruchwyliaeth a hyder iddynt yn y broses. 
  8. Bydd is-lywyddion yn cynnal cyfarfod ôl-graffu gyda’r holl gadeiryddion ac aelodau annibynnol i drafod y broses, unrhyw bryderon a gododd, alinio eu trafodaethau i sicrhau cysondeb a thrafod rhestrau o enwebeion i’w cyflwyno i’r Cyngor. Gwneir hyn mewn tair cyfarfod ar wahân, un ar gyfer ICAP, HASS a STEMM.
  9.  Bydd Cyngor y Gymdeithas yn derbyn argymhellion y pwyllgorau craffu yn ei gyfarfod Cyngor Arbennig ym mis Mawrth. Yna caiff y rhestr gymeradwy o enwebeion ei chyflwyno i bleidlais ffurfiol y Gymrodoriaeth.
  10. Tybir y bydd y Cyngor fel arfer yn cymeradwyo cynnwys yr holl enwebeion a argymhellir ar gyfer etholiad ar y rhestr.
  11. Nid oes terfyn pendant i nifer y Cymrodyr newydd sy’n cael eu hethol bob blwyddyn.
  12. Rhaid trin y rhestrau y mae’r pwyllgorau craffu a’r is-lywyddion yn eu llunio’n gwbl gyfrinachol.

Dylai aelodau pwyllgorau craffu fynegi unrhyw bryderon yn ystod y cyfarfod er mwyn galluogi trafodaeth a datrysiad. Os na chaiff pryderon eu datrys mewn modd boddhaol yn y cyfarfod craffu, 

  • dylai aelodau cyffredin ac is-gadeiryddion ysgrifennu at gadeirydd eu pwyllgor, a 
  • dylai cadeiryddion ac aelodau annibynnol ysgrifennu at un neu’r ddau is-lywydd.

Ym mhob un o’r achosion hyn, bydd aelodau’n cynnwys y swyddog Cymrodoriaeth yn eu negeseuon e-bost. Bydd pryderon a fynegir yn y modd hwn yn cael eu trafod mewn cyfarfodydd ôl-graffu priodol rhwng is-lywyddion gyda chadeiryddion ac aelodau annibynnol. -scrutiny meetings of vice-presidents with chairs and independent members. 

  1. Ym mhob cyfarfod o’r pwyllgor craffu, dylid casglu adborth ar gyfer pob enwebai.
  2. Er mwyn sicrhau bod adborth yn cael ei gasglu mewn modd cyson sy’n seiliedig ar dystiolaeth, bydd cadeirydd y pwyllgor yn cwblhau ffurflen adroddiad fer. Yna bydd y tîm staff yn cadw’r ffurflen at ddefnydd yr is-lywyddion.
  3. Bydd cynigwyr enwebeion nad ydynt yn cael eu hargymell ar gyfer etholiad yn cael gwybod am y canlyniad gan y Llywydd neu’r Prif Weithredwr cyn y bleidlais Gymrodoriaeth a gofynnir iddynt gadw’r wybodaeth hon yn gyfrinachol tan ddiwedd y bleidlais.  
  4. Bydd cynigwyr enwebeion llwyddiannus yn cael eu cynnwys yn y cyfathrebiadau gan y Llywydd at yr enwebai yn eu hysbysu o’u hetholiad yn dilyn y bleidlais. 
  5. Bydd enwebeion nad ydynt wedi’u hethol yn cael eu hysbysu o’r canlyniad gan y Llywydd pan ddaw etholiad y Gymrodoriaeth i ben. Bydd eu Cynigydd yn cael eu cynnwys fel eu bod yn ymwybodol bod eu henwebai wedi cael gwybod. Bydd enwebeion yn cael eu hannog i geisio adborth ar eu cais.   
  6. Dim ond yr is-lywydd a gaiff roi adborth i enwebeion aflwyddiannus. Caiff adborth ei roi’n uniongyrchol i enwebeion, i osgoi negeseuon ail-law ac anghysondeb o ran trosglwyddo materion sy’n aml yn sensitif ac weithiau’n gyfrinachol.

Yn ôl i ben y dudalen

yn ôl i'r brig