Enillwyr medalau newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn dangos cryfder diwylliant ymchwil Cymru

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi enwi’r chwech o bobl ddiweddaraf i dderbyn ei medalau, sydd yn cael eu dyfarnu i gydnabod ymchwil ac ysgolheictod rhagorol.

Mae’r medalau’n dathlu llwyddiannau’r unigolion sydd yn cael eu cael eu hanrhydeddu a chryfder diwylliant academaidd Cymru, o’i phrifysgolion i’w hysgolion.

Yr enillwyr eleni ydy:

  • Yr Athro Dianne Edwards, Athro Ymchwil Nodedig mewn Paleobotaneg, Prifysgol Caerdydd

Mae’r Athro Edwards yn arbenigo mewn hanes planhigion tir ar y Ddaear, ac mae ei hymchwil yn dangos mewnwelediad i’r broses esblygol lle cytrefwyd y tir gan blanhigion. Mae ei gwaith ar gofnodion ffosil wedi arwain at adnabod rhywfaint o rywogaethau planhigion tir oedd yn bodoli mwy na 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae hi’n gyfrifol am enwi llawer o rywogaethau a genera. Mae hi’n derbyn y fedal Frances Hoggan, sy’n anrhydeddu cyfraniad eithriadol menywod i feysydd STEMM.

  • Yr Athro EJ Renold, Athro, Astudiaethau Plentyndod, Prifysgol Caerdydd

Mae’r Athro Renold, sydd wedi derbyn medal Hugh Owen am ymchwil addysgol rhagorol yng Nghymru, yn gweithio ar addysg rhyw a rhywioldeb. Mae hyn wedi helpu plant a phobl ifanc i siarad am eu profiadau, o aflonyddu rhywiol mewn ysgolion cynradd i LGBTQ+, cydraddoldeb a hawliau ieuenctid. Mae’r Athro Renold wedi chwarae rhan bwysig mewn datblygu cwricwlwm Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb statudol newydd ar gyfer Cymru.

  • Dr Drew Nelson, Llywydd, Grŵp IQE

Mae Dr Nelson wedi derbyn y Fedal Menelaus, sydd yn cael ei dyfarnu i ddathlu rhagoriaeth mewn peirianneg a thechnoleg. Mae’n gyd-sylfaenydd ac yn llywydd IQE, sydd wedi bod ar flaen y gad o ran sefydlu De Cymru fel canolbwynt ar gyfer technoleg a gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion. Mae ei weledigaeth wedi dwyn ynghyd y llywodraeth, y byd academaidd a’r sector preifat i ddatblygu’r rhanbarth fel ‘Clwstwr o Ragoriaeth’.

Mae’r fedal Dillwyn wedi cael ei dyfarnu i dri academydd arall, i gydnabod rhagoriaeth ym maes ymchwil gyrfa gynnar.

    • Mae Dr Emrys Evans, Cymrawd Ymchwil y Brifysgol mewn Cemeg o’r Gymdeithas Frenhinol, yn gweithio ym maes lled-ddargludyddion organig, yn astudio dosbarth newydd o ddeunyddiau gyda rhaglenni posib yn amrywio o optoelectroneg i wyddoniaeth gwybodaeth gwantwm.
    • Mae Dr Annie Tubadji, Uwch Ddarlithydd mewn Economeg, Prifysgol Abertawe, yn derbyn medal Dillwyn am ei gwaith ar duedd ddiwylliannol, anghydraddoldeb a gwahaniaethu. Yn fwyaf diweddar, mae hi wedi canolbwyntio ar anghydraddoldeb, iechyd meddwl a pholareiddio yn ystod yr argyfwng COVID-19, gwaith sydd wedi cael sylw’n rhyngwladol. Roedd Dr Rhiannon Pugh (Lund University) a Dr Thomas Leahy (Prifysgol Caerdydd) hefyd wedi eu canmol gan Bwyllgor y Fedal.
    • Mae Dr Ben Guy yn Gymrawd Coleg Robinson ac yn Addysgwr Cyswllt ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae ei ymchwil yn archwilio diwylliant ysgrifenedig Cymru yn y Canol Oesoedd.  Mae’n gweithio ar achyddiaeth Cymru yn y Canol Oesoedd,  a’i pherthynas â diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru, ac mae’n addysgu hanes Prydain ac Iwerddon yn y Canol Oesoedd cynnar. Roedd Dr Sharon Thompson a Dr Joey Whitfield (y ddau o Brifysgol Caerdydd) hefyd wedi eu canmol gan Bwyllgor y Fedal.