Cynghrair yr Academïau Celtaidd: Symposiwm Ieithoedd
Bydd iechyd ieithoedd Celtaidd, cyflwr addysg ieithoedd modern, ac ymchwil a pholisi ar ieithoedd ac anabledd ar yr agenda cyn bo hir mewn symposiwm ieiithoedd gan Gynghrair yr Academïau Celtaidd.
Bydd y digwyddiad hybrid diwrnod o hyd sydd yn cael ei gynnal gennym ym Mhrifysgol Wrecsam ar 29 Ebrill, yn dangos pa mor effeithiol y gall Cynghrair yr Academïau Celtaidd fod mewn dod ag arbenigedd o ar draws y cenhedloedd Celtaidd at ei gilydd i fynd i’r afael â heriau byd-eang a lleol.
Bydd y symposiwm yn cynnwys sesiynau panel ar ieithoedd Celtaidd, ieithoedd y byd, iaith ac anabledd ac ieithoedd a diwylliant.
Bydd y paneli yn cynnwys canolbwyntio ar bolisi, fel rhan o ymrwymiad Cynghrair yr Academïau Celtaidd i weithredu fel pont rhwng y byd ymchwil a’r llywodraeth. Mae hwn yn egwyddor sylfaenol Cynghrair yr Academïau Celtaidd. Fel y dywedodd yr Athro Syr Anton Muscatelli, Llywydd Cymdeithas Frenhinol Caeredin, yn lansiad ffurfiol y Gynghrair ym mis Rhagfyr 2025:
“Mae’r Gynghrair hon yn creu fforwm dibynadwy ar gyfer darparu cyngor annibynnol, dysgu a rennir, a thrafodaeth adeiladol, ac yn helpu llywodraethau i ystyried amgylchiadau ac anghenion pob gwlad yn llawn.”