Llongyfarchiadau i enillwyr medalau newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi cyhoeddi enwau ei medalwyr yn 2023, mewn seremoni a fynychwyd gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, a’r Athro Dame Sue Ion, un o’i Gymrodyr er Anrhydedd a Chadeirydd, Bwrdd Cynghori ar Ymchwil Arloesedd Niwclear y DU.

Mae’r medalau yn cael eu dyfarnu bob blwyddyn i ddathlu’r ymchwil ragorol sy’n dod o Gymru.  

Mae arbenigedd pwnc yr enillwyr yn amrywio o addysg ar wyddoniaeth i ddylunio peiriannau awyrennau, a newid yn yr hinsawdd i realiti rhithwir. 

Derbynwyr medalau’r flwyddyn hon yw:

Medal Menelaus

Yr Athro Aimee Morgans, Coleg Imperial Llundain 

Professor Aimee Morgans

Mae’r Athro Morgans, a fagwyd ac a addysgwyd yng Nghasnewydd, yn enwog am ei gwaith ar yr ansefydlogrwydd sy’n bygwth strwythur peiriannau tyrbinau nwy awyrennau. Mae hyn wedi ei gweld yn gweithio gyda llawer o gwmnïau peirianneg mwyaf blaenllaw’r byd. Hi oedd y fenyw gyntaf i ddod yn Athro yn adran Peirianneg Fecanyddol Coleg Imperial, ac mae hi’n arwain ar nifer o fentrau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mwy o fanylion


Medal Hoggan

Yr Athro Siwan Davies, Prifysgol Abertawe 

Professor Siwan Davies

Mae’r Athro Davies yn ddaearyddwr ffisegol a darlledwr gwyddoniaeth, ac yn enillydd sawl gwobr am ei hymchwil. Mae’r ymchwil hwnnw’n eang, ac yn cynnwys gwaith a gydnabyddir yn rhyngwladol ar ddadansoddi gronynnau lludw folcanaidd microsgopig, a allai helpu i ail-greu cyfnodau o newid yn yr hinsawdd yn y gorffennol i ddarparu cliwiau am y newid sydd yn digwydd ar hyn o bryd. Mwy o fanylion


Medal Hugh Owen

Yr Athro Tom Crick, Prifysgol Abertawe 

Enwir y fedal sy’n dathlu ymchwil addysgol eithriadol yng Nghymru er anrhydedd i Syr Hugh Owen (1804-1881). 

Professor Tom Crick

Mae’r Athro Crick yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am arwain diwygiadau Cymreig ar addysg STEM. Cyfrannodd gwaith arall ar addysg cyfrifiadureg a pholisi sgiliau digidol iddo dderbyn MBE yn 2017 am “wasanaethau i gyfrifiadureg a hyrwyddo addysg cyfrifiadureg”. Mwy o fanylion


Medalau Dillwyn

Mae’r tair Medal gyrfa gynnar a wobrwyir wedi’u henwi er anrhydedd i deulu nodedig Dillwyn o Abertawe a gyflawnodd arbenigedd eithriadol ar draws sawl maes gweithgaredd deallusol yn y celfyddydau a’r gwyddorau.

Y Dyniaethau a’r Celfyddydau Creadigol

Dr Rebecca Thomas, Prifysgol Caerdydd 

Dr Rebecca Thomas

Mae Dr Thomas yn arbenigo mewn hanes, diwylliant a llenyddiaeth Cymru Ganoloesol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn darllen testunau ffynhonnell yn agos, yn aml ar lefel gair a brawddeg, i edrych ar ddylanwadau Prydain ac Ewrop ar hunaniaethau Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol. Mae hi hefyd wedi cyhoeddi dwy nofel hanesyddol o’r oesoedd canol i oedolion ifanc.
Mwy o fanylion


Y Gwyddorau, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Dr Iestyn Woolway, Prifysgol Bangor

Dr Iestyn Woolway

Mae Dr Woolway yn wyddonydd hinsawdd, sy’n ymchwilio i effaith newid hinsawdd ar lynnoedd a’u hecosystemau. Mae’r gwaith hwn yn amhrisiadwy ar gyfer helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau sy’n gweithio i warchod ecosystemau bregus. Mwy o fanylion


Y Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes

Dr Leighton Evans, Prifysgol Abertawe 

Dr Leighton Evans

Mae cefndir yr Athro Evans yn athroniaeth technoleg a’r cyfryngau newydd, ac arweiniodd at waith arloesol ar realiti rhithwir a’r metafyd. Mae ei waith yn nodedig am ei ansawdd rhyngddisgyblaethol, sy’n cyfuno syniadau o astudiaethau’r cyfryngau, athroniaeth a’r gwyddorau cymdeithasol. Mwy o fanylion