Enillydd Blaenorol
2022: Mae’r Athro Kenneth Morgan yn ennill Medal Menelaus 2022 am ei waith ar fodelau cyfrifiadurol ar gyfer dadansoddi ym maes peirianneg.
2021: Dr. Drew Nelson yw enillydd ein Medal Menelaus am ei waith yn sefydlu De Cymru fel canolbwynt byd-eang ar gyfer technoleg a gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion.
2020: Yr Athro Nidal Hilal, deiliad Cadair Peirianneg Prosesu Dŵr ym Mhrifysgol Abertawe, yw enillydd Medal Menelaus 2020 Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a ddyfernir i ddathlu rhagoriaeth mewn peirianneg a thechnoleg.
2019: Yn 2019 dyfarnwyd y fedal i’r Athro Roger Owen FREng FRS FLSW, Athro Ymchwil Peirianneg, Prifysgol Abertawe.
2016: Yr Athro Hagan Bayley FLSW FRS oedd y pedwerydd unigolyn i dderbyn Medal Menelaus y Gymdeithas.
2015: Mae’n bleser gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru gyhoeddi mai’r gwyddonydd nodedig o Gymru yr Athro Syr John Meurig Thomas FLSW Hon.FRSE Hon.FREng FRS fydd y trydydd i dderbyn Medal Menelaus y Gymdeithas.
2014: Yn 2014 dyfarnwyd y fedal i’r Syr John Cadogan CBE DSc FRSE FRSC MAE FLSW FRS.
2013: Yn 2013 dyfarnwyd y fedal i’r Sir Terry Matthews Kt OBE PEng FIEE FREng.