Adeiladu Dyfodol i Ferched mewn Gwyddoniaeth
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, fel rhan o’n rôl strategol ‘i ddathlu gwerth ymchwil rhagorol a chyfraniadau amrywiol’, rydym yn arddangos gwaith ein Cymrodyr benywaidd a etholwyd yn fwyaf diweddar sy’n gweithio ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth a mathemateg.
Teimlir eu heffaith nid yn unig yn ansawdd eu gwaith a’u hymchwil, ond hefyd yn y ffordd y mae cynifer ohonynt yn cefnogi cydweithwyr sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd.
Yr Athro Alka Ahuja, MBE FRCPsych FLSW

Seiciatrydd Plant a Phobl Ifanc Ymgynghorol, ac Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Mae Alka Ahuja MBE yn seiciatrydd Plant a Phobl Ifanc Ymgynghorol, ac mae ganddi rolau gyda Technology Enabled Care Cymru, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Mae ei diddordebau yn cynnwys ymchwil ansoddol, anhwylderau niwroddatblygiadol, a chyd-gynhyrchu mewn gofal iechyd ac iechyd digidol. Mae hi wedi cyhoeddi mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid, a dyfarnwyd MBE iddi am ei gwasanaethau i’r GIG yn ystod y pandemig.
Dr Seema Arif, MBE FRCR FLSW

Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Mae Dr Seema Arif yn arbenigo mewn radiotherapi, cemotherapi ac imiwnotherapi. Mae hi’n arbenigwr mewn technegau radiotherapi uwch, ac mae hi wedi bod yn rhan o dreialon clinigol cenedlaethol a rhyngwladol. Gweithredodd driniaeth radiotherapi stereotactig abladol y corff cyntaf yr afu (union dargedu therapi ymbelydredd) yng Nghymru, lle mae hi hefyd yn gweithredu fel arweinydd ym maes canser y colon a’r rhefr. Derbyniodd MBE yn 2022 am ei gwasanaethau i ofal iechyd ymhlith y cymunedau Duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Yr Athro Erminia Calabrese, FLSW

Athro a Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil, Canolfan Caerdydd ar gyfer Ymchwil a Thechnoleg Astroffiseg, Prifysgol Caerdydd
Mae’r Athro Calabrese yn gosmolegydd arsylwadol. Mae hi’n arbenigwr mewn defnyddio golau’r creiriau o’r Big Bang, yr ymbelydredd hynafol, gwan a adawyd drosodd o gamau cynnar y Bydysawd, i archwilio ffiseg ac esblygiad y Bydysawd. Symudodd i Gymru yn 2017, a sefydlodd dîm cosmoleg yn Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Caerdydd. Mae’r tîm hwn ar flaen y gad ym maes gwyddoniaeth cefndir microdon cosmig, ac mae hi’n chwarae rolau blaenllaw mewn datblygu’r map ffordd ar gyfer darganfyddiadau cosmolegol newydd.
Yr Athro Angharad Davies, FRCPath FRCP PFHEA FLSW

Athro Clinigol a Microbiolegydd Meddygol Ymgynghorol Anrhydeddus, Prifysgol Abertawe
Mae’r Athro Davies yn academydd clinigol, yn ficrobiolegydd meddygol ymgynghorol anrhydeddus, ac yn Is-lywydd Dysgu gyda Choleg Brenhinol y Patholegwyr (2020 – 2023). Mae hi’n goruchwylio hyfforddiant clinigol ac arholiadau ôl-raddedig yn y DU ym mhob un o’r ddwy ar bymtheg o arbenigeddau patholeg, gan wneud cyfraniad mawr i waith y Coleg a’i harbenigedd clinigol.
Yr Athro Indu Deglurkar, FRCS FRCS(CTh) FLSW

Llawfeddyg Cardiothorasig Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Athro Gwadd Anrhydeddus, Sefydliad Gwyddorau Meddygol Sri Venkateswara Prifysgol (SVIMS) Tirupati, India
Mae’r Athro Deglurkar yn Llawfeddyg Cardiothorasig Ymgynghorol, sydd â diddordeb arbennig mewn llawfeddygaeth aortig a llawfeddygaeth risg uchel mewn octogenariaid. Mae hi wedi perfformio dros 2000 o lawdriniaethau calon agored, gyda chanlyniadau gwych.
Mae gan yr Athro Deglurkar Gymrodoriaeth Arweinyddiaeth Uwch ar gyfer Uwch Weithredwyr o Ysgol Fusnes Harvard, a nifer o rolau arweinyddiaeth ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, gyda’r nod o wella gofal cleifion, tegwch mynediad a lles staff.
Yr Athro Sandra Esteves, FLSW

Athro mewn Technoleg Biobroses ar gyfer Casglu Adnoddau: Ynni a Deunyddiau a Chyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Cymru ar gyfer Treulio Anerobig, Prifysgol De Cymru
Mae gan yr Athro Esteves dros 23 mlynedd o brofiad mewn ymchwil, datblygu a defnyddio biotechnoleg. Mae hi wedi cyfarwyddo prosiectau ymchwil a datblygu gyda dros £15m o gyllid gan y sectorau gwladol a phreifat. Yn ddyfeisiwr dau batent ac wyth o nodau masnach, cyrhaeddodd yr Athro Esteves rownd derfynol Arloeswr y Flwyddyn BBSRC yn 2019. Mae hi hefyd yn cefnogi datblygu seilwaith fiolegol ar raddfa lawn ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
Professor Amira Guirguis, FRPharmS SFHEA FLSW

Athro (Fferylliaeth), Cyfarwyddwr Rhaglen MPharm a Phennaeth Ymarfer Fferylliaeth, Prifysgol Abertawe
Mae’r Athro Guirguis yn fferyllydd-ymchwilydd rhyngwladol mewn ‘camddefnyddio sylweddau’, y mae ei waith arloesol yn cynnwys arwain y gwasanaeth gwirio cyffuriau trwyddedig cyntaf gan Swyddfa Gartref y DU. Mae ei chyfraniadau helaeth yn y maes yn cael eu dangos gan dros 100 o gyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid. Mae cymryd rhan mewn mentoriaeth, cydweithrediadau ymchwil byd-eang, sy’n dylanwadu ar Asiantaeth Meddyginiaethau Ewrop a’r Cyngor Cynghori ar Gamddefnyddio Cyffuriau, yn ogystal â rolau tyst arbenigol yn y llys i gyd yn adlewyrchu effaith ei harbenigedd. Mae’r cyflawniadau hyn yn amlygu gyrfa sy’n ymroddedig i hyrwyddo iechyd y cyhoedd a diogelwch cyffuriau yng Nghymru.
Professor Yueng-Djern Lenn, FLSW

Athro Eigioneg Ffisegol, Prifysgol Bangor
Mae ymchwil yr Athro Lenn yn canolbwyntio ar effaith gwres a gludir gan y cefnforoedd pegynol ar iâ’r môr a’r hinsawdd. Datgelodd fanylion newydd ynghylch sut mae trolifau Cefnfor y De yn rhan allweddol o gydbwysedd ynni Cerrynt Ambegynol yr Antarctig mawr; mae’r trolifau hyn ar yr un pryd yn symud gwres tuag at gyfandir rhewllyd yr Antarctig. Yn yr Arctig, mae hi wedi cofnodi drwy ei gwaith pa mor gyflym y mae dynameg y rhanbarth hwn yn ymateb i’r newid hinsawdd, gan ddatgan bod yr Arctig yn cael ei ‘Atlantigeiddio’ – pwnc sy’n dal i dderbyn cryn sylw.
Professor Aimee Morgans, FREng FLSW

Athro Thermohylifau, Coleg Imperial Llundain
Mae’r Athro Morgans yn ymchwilio i ddynameg hylif, aeroacwsteg a hylosgiad. Enillodd raddau MEng a Doethuriaeth mewn Peirianneg ym Mhrifysgol Caergrawnt, cyn ymuno â Choleg Imperial Llundain yn 2007, lle daeth yn Athro llawn yn 2017. Mae hi wedi dal grantiau ‘Cychwyn a Chyfnerthu’ y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd, cafodd ei hethol yn FREng yn 2021, a dyfarnwyd Medel Menelaus Cymdeithas Ddysgedig Cymru 2023 iddi am ei gwaith ar yr ansefydlogrwydd sy’n bygwth strwythur aero-injanau tyrbin nwy.