Cynghrair i Roi Hwb i Leisiau Celtaidd
- Yr Academïau Cenedlaethol yn uno o dan bartneriaeth Geltaidd newydd
- Y Gynghrair Academïau Celtaidd yn lansio partneriaeth ffurfiol i fynd i’r afael â heriau cyffredin
- Mae’r Gynghrair yn cynnig cyfle i gronni adnoddau ac arbenigedd Cymrodyr yr academïau.
Mae’r Gynghrair Academïau Celtaidd wedi cael ei ffurfio’n ffurfiol ar ôl i Gymdeithas Ddysgedig Cymru, Academi Frenhinol Iwerddon a Chymdeithas Frenhinol Caeredin lofnodi cytundeb partneriaeth bwysig yng Nghaerdydd. Mae’r llofnodi’n nodi ymrwymiad i’r Gynghrair gan y tair academi genedlaethol, ac i’w adduned o greu mwy o effaith gyda’i gilydd.
Ymunodd Llywyddion a Phrif Swyddogion Gweithredol y tair academi gyda chynrychiolwyr o’r sector addysg uwch, yn ogystal â llywodraethau Cymru, Iwerddon, a’r Alban, am ddiwrnod i ddathlu’r Gynghrair ac ystyried y cyfleoedd unigryw mae’r Gynghrair yn eu cynnig.
“Mae’r Gynghrair Academïau Celtaidd yn bartneriaeth brin rhwng Cymru, Iwerddon a’r Alban, ac mae’n berthynas flaenoriaeth i’n Hacademi. Mae ffurfioli’r cytundeb yn golygu y gallwn symud ymlaen gyda blaenoriaethau strategol a rennir sydd, yn y pen draw, o fudd i’n cenhedloedd.”
Yr Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Cynhaliwyd trafodaeth bord gron yn y prynhawn i ystyried sut gall y Gynghrair gyflawni canlyniadau ymarferol o ran sefydlu cysylltiadau ymchwil, sicrhau cyllid, a hyrwyddo diplomyddiaeth wyddonol.

Roedd blaenoriaethau newydd a rennir yn cynnwys arloesedd rhanbarthol a thwf economaidd, polisi ymchwil (gyda ffocws penodol ar brosesau cyllido ac ymchwilwyr gyrfa gynnar), a hwyluso ymchwil a gwybodaeth yn uniongyrchol o fewn ein cymunedau lleol.
“Mae’r Gynghrair hon yn adlewyrchu ein cred gyffredin mewn creu cynnydd gyda’n gilydd sy’n ymestyn ar draws ffiniau. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn gyfnewid gwybodaeth yn fwy effeithiol, adeiladu ar gryfderau ei gilydd, a sicrhau bod lleisiau Celtaidd yn cyfrannu’n ystyrlon at benderfyniadau polisi ar lefel y DU. Mae deall a chynnwys y gwledydd datganoledig mewn creu polisïau yn hanfodol er mwyn i lywodraeth y DU gyflawni ei nodau dymunol o fanteisio ar arloesedd, cynyddu cynhyrchiant, a meithrin twf economaidd.”
“Mae’r Gynghrair hon yn creu fforwm dibynadwy ar gyfer darparu cyngor annibynnol, dysgu ar y cyd, a deialog adeiladol, gan helpu llywodraethau i ystyried amgylchiadau ac anghenion gwahanol ein gwledydd yn llawn.”
Yr Athro Syr Anton Muscatelli, Llywydd, Cymdeithas Frenhinol Caeredin
Clywodd derbyniad diodydd prynhawn gan dri Llywydd yr Academïau, ynghyd â myfyrdodau gan yr Athro Claire Connolly (sy’n unigryw gan ei bod yn Gymrawd y tair academi) am yr ethos o gydweithredu a drafodwyd yn y sesiwn bord gron.
Mae’r Gynghrair, a gymerodd ei chamau cyntaf yn 2021, bellach yn mwynhau statws ffurfiol, a fydd yn caniatáu iddi gasglu adnoddau ac arbenigedd Cymrodyr yr academïau. Trwy gydweithrediad parhaus, mae’r Gynghrair yn gweithredu ar sail tri chategori sylfaenol: dyfarnu grantiau, rhannu adnoddau a phrofiad, a chyflwyno gweithgareddau cydweithredol gyda dylanwad mesuradwy. Bydd hyn yn sicrhau effaith barhaus a budd i bob academi a’r cymunedau y mae pob un yn rhan ohonynt.
Bydd digwyddiadau ac adroddiadau ar y cyd yn y dyfodol, ynghyd â gweithgareddau ymgysylltu â pholisi, yn cynyddu gwelededd o ran sut mae ymchwil o Gymru, Iwerddon a’r Alban yn cyfrannu at fynd i’r afael â heriau byd-eang a lleol.
“Mae’r Gynghrair yn gydweithrediad pwysig rhwng ein Gwledydd Celtaidd, ac yn caniatáu i Academi Frenhinol Iwerddon, fel corff ar draws yr ynys gyfan, gymryd rhan yn well mewn materion sy’n wynebu’r gwledydd datganoledig, a deall y materion hyn yn well. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n Cynghrair ac i gynyddu ei heffaith yn y dyfodol.”
Yr Athro Patrick Guiry, Llywydd Academi Frenhinol Iwerddon
Cafodd y digwyddiad ei wneud yn bosibl trwy gyllid gan Gymru Ystwyth, rhaglen Llywodraeth Cymru sy’n darparu cymorth ar gyfer gweithgareddau tramor a rhyngwladol i annog cydweithrediad economaidd.