Cynllun grant yn ariannu 21 prosiect newydd

Bydd prosiectau, sy’n amrywio o fepio ymhlith pobl ifanc i arweinyddiaeth menywod, dyfodol y sector animeiddio yng Nghymru ac effaith casineb ar-lein, i gyd yn elwa o’n dyfarniadau Cynllun Grant Gweithdy Ymchwil diweddaraf.

Mae’r cynllun grant wedi dod yn rhan bwysig o dirlun ymchwil Cymru. Mae wedi ariannu 94 o brosiectau ers iddo gael ei gyflwyno, gan ddarparu cyfanswm o bron i £95,000. Mae prosiectau llwyddiannus yn cael hyd at £1000 yr un i ariannu gweithdy neu gyfres o weithdai sy’n cefnogi gweithgarwch ymchwil arloesol a chydweithredol.

Mae’r 21 prosiect sydd wedi derbyn arian eleni yn dangos mor boblogaidd mae’r cynllun wedi dod o fewn cyfnod byr o amser.

Bu’r prosiectau canlynol yn llwyddiannus yn eu cais am gyllid ar draws y pedwar categori gwahanol hwn:

Teitl y ProsiectPrif GynigyddPrif Sefydliad
Astudiaethau Cymreig
Towards a sustainable future for Welsh animationElain PricePrifysgol Abertawe
MonkNetHarriett WebsterPrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Histories of Wales-Asia connections: new sources and perspectivesHelena LopesPrifysgol Caerdydd
Y Wladfa revisited: collaborative futures in Welsh Patagonian studiesLucy Trotter
Prifysgol Aberystwyth
The strange survival of quango WalesMarc Collinson
Prifysgol Bangor
Monitoring and inspecting Welsh language provision within prisonsRobert JonesPrifysgol Caerdydd
Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
Creating community collaborations: developing mutually respectful research relationshipsEsther MuddimanPrifysgol Caerdydd
Four nations law and humanities forum: early career research workshopLizzy WillmingtonPrifysgol Caerdydd
Co-creating inclusive pathways for women’s leadership in WalesShehla KhanPrifysgol De Cymru
Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar
Empowering early careers: Building the WIPAHS Research NetworkAmie RichardsPrifysgol Abertawe
Understanding school readiness: perspectives from parents and caregiversAlys ParkinsPrifysgol De Cymru
Can science support the inclusion of seagrass in international climate policyEmma Alice Ward
Prifysgol Bangor
Rubbish plasmonics – accelerating light-driven chemistry with electronic wasteIgor KowalecPrifysgol Caerdydd
Exploring immersive simulations for nature-based tourism, leisure and wellbeing researchJoseph BaldwinPrifysgol Metropolitan Caerdydd
Endometriosis management and promotion of wellbeing using evidence-based research (EMPOWER)Laura Elizabeth CowleyPrifysgol Abertawe
Exploring the practical and psychological concerns of animal sector professionalsShubha SreenivasPrifysgol Wrecsam
French and francophone philosophers and the development of LGBTQIA+ movementsThomas PayrePrifysgol Aberystwyth
Exploring Wales’ role in the sustainable urban air mobilityTiansheng YangPrifysgol De Cymru
Co-developing a study on social networks and young people’s vapingZahra Jorjoran ShushtariPrifysgol Bangor
Llwybrau at Heddwch
Caiff y ffrwd hon ei chynnal mewn partneriaeth ag Academi Heddwch Cymru. Mae hyd at £2000 ar gael i brosiectau sy’n cynnwys partner rhyngwladol.
Evanescent and emerging spaces: land struggles of Palestinians and GuaraniAntonio Augusto Rossotto IorisPrifysgol Caerdydd
Peace through language: measuring online hate’s impactPhoey Lee TehPrifysgol Wrecsam

“Mae’r cynllun grant yn dod yn fwy poblogaidd o flwyddyn i flwyddyn,” meddai Dr Rhian Powell, Swyddog Rhaglen ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr, Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

“Rydym bellach yn cael effaith gyson a sylweddol ar ymdrechion i wneud Cymru’n lle gwych i gynnal ymchwil ynddo.

“Un agwedd yn unig yw’r cynllun hwn ar yr hyn sy’n cael ei gynnig gennym drwy ein rhaglen datblygu ymchwilwyr, ochr yn ochr â’n Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, y gweminarau a’r sesiynau hyfforddiant rydym yn eu cynnal, ein Colocwiwm Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar blynyddol, a gwaith arall i gefnogi ymchwilwyr, gan gynnwys y cynllun grant Lleisiau Ymddiriedig newydd a fydd yn lansio yn 2026.”

Os hoffech wybod mwy am ein gwaith datblygu ymchwilwyr, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr misol.

yn ôl i'r brig