Un o Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n Mynegi Llais Cymru mewn Pwyllgor Moeseg Ewropeaidd
Bydd Dr Emma Yhnell FLSW yn eistedd ar y Cyngor Moeseg ac Uniondeb Ymchwil (REIC), yn ALLEA, (Ffederasiwn Academïau Gwyddorau a Dyniaethau Ewrop), yn dilyn ei henwebiad ar gyfer y rôl gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
Diben y Cyngor, medd ALLEA, yw atgyfnerthu ei rôl arwain ei hun wrth i’r tirlun ymchwil fynd drwy newid cyflym. Mae’r Cyngor yn gwneud hyn drwy oruchwylio a diweddaru cyhoeddiad blaenllaw ALLEA, yr European Code of Conduct for Research Integrity, sef y ddogfen gyfeirio ar gyfer pob ymchwil a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Cyngor hefyd yn cynghori ALLEA ar yr heriau ‘moesegol ac uniondeb a achosir gan dechnolegau newydd ac sy’n datblygu megis deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, normau newidiol o ran asesu ymchwil, a bygythiadau i ryddid academaidd’.
Dywedodd Emma, sydd ar hyn o bryd yn Ddarllenydd a Deon Cyswllt ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’n fraint o’r mwyaf cael fy mhenodi i’r Cyngor yn dilyn fy enwebiad gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.
“Drwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi gweld sut mae arferion ymchwil cyfrifol, cynhwysol a thryloyw yn sail i hyder cyhoeddus, yn ysbrydoli dysgu ac addysgu, ac yn cyflawni effaith ystyrlon.
“Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar i gyfrannu at waith ALLEA i atgyfnerthu diwylliannau ymchwil foesegol ledled Ewrop a thu hwnt.”
Bydd y Cyngor yn gyfrifol am gynnal ymchwil mewn ffordd gyfrifol, addysg foeseg, a rôl pwyllgorau moeseg, ymhlith pethau eraill.
“Rydym yn falch iawn o fod wedi enwebu Emma ar gyfer y Cyngor,” meddai Dr Fiona Dakin, Pennaeth Polisi Cyhoeddus yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru.
“Mae’n wych y bydd gan Gymru lais mor gryf ar y fforwm hanfodol hwn. Bydd dirnadaeth Emma hefyd yn amhrisiadwy i ni wrth i ni barhau â’n hymdrechion tuag at ddiwylliant ymchwil cadarn yng Nghymru a’r tu hwnt.”