Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cefnogi galwadau i amddiffyn cyd-Academi rhag toriad i’w chyllid

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi ychwanegu ei henw at alwadau i lywodraeth Fflandrys wrthdroi ei phenderfyniad i ddadariannu Academi Frenhinol Fflemaidd Gwlad Belg ar gyfer y Gwyddorau a’r Celfyddydau (KVAB).

Mae Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yr Athro Hywel Thomas, wedi llofnodi llythyr agored, wedi’i gefnogi gan ALLEA, Ffederasiwn Academïau Gwyddorau a Dyniaethau Ewrop, sy’n dadlau o blaid parhau i gyllido academïau annibynnol.

Mae’r cyllid yn cefnogi eu gwaith hollbwysig o hybu rhagoriaeth wyddonol, cefnogi cysylltiadau rhwng y gwyddorau a’r celfyddydau, a chynnig sail i drafodaeth gyhoeddus.

Mae’r llythyr at lywodraeth Fflandrys gan y KVAB, a sefydlwyd ym 1772, yn dadlau bod academïau’n chwarae rhan anhepgor mewn ‘byd geowleidyddol ansefydlog, lle mae gwerthoedd traddodiadol, megis rhyddid ac annibyniaeth academaidd, dan bwysau enfawr’.

yn ôl i'r brig