Y Gymdeithas yn lansio cronfa fwrsariaeth teithio a threuliau ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar

Mae ymrwymiad parhaus Cymdeithas Ddysgedig Cymru i gefnogi datblygiad gyrfa ymchwilwyr gyrfa gynnar yn mynd gam ymhellach wrth lansio cronfa fwrsariaeth teithio a threuliau.

Sefydlwyd y gronfa oherwydd haelioni nifer fawr o Gymrodyr y Gymdeithas, a ymatebodd i alwad am roddion i helpu i sefydlu’r gronfa.

Bydd bwrsariaethau rhwng £100 – £1000 ar gael. Dyfernir yr arian yn dilyn adolygiad gan banel sy’n cynnwys aelodau o Grŵp Ymgynghorol Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr, oedd ynghlwm â llunio’r gronfa, ac a fydd yn parhau yn rhan o’i rheolaeth barhaus.

Gan mai proses gystadleuol yw hon, lluniwyd y gronfa i gefnogi ymgeiswyr a fydd yn elwa fwyaf o’r dyfarniad ac a all ddangos gwerth a pherthnasedd i ddatblygiad eu gyrfa drwy fynychu digwyddiad penodol.

Bydd angen i bob ymgeisydd am y bwrsariaethau fod yn “ymchwilydd gyrfa gynnar” yn gweithio yng Nghymru, er ddim o anghenraid mewn academia, ac yn aelod o Rwydwaith Ymchwilydd Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Yn ogystal, bydd angen iddynt ddangos sut y maent eisoes wedi chwilio am ffynonellau cyllid eraill.

Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr fydd yn siarad, cyflwyno neu, mewn ffyrdd eraill, yn cymryd rhan yn ffurfiol mewn digwyddiad, all gynnwys cynadleddau, paneli, trafodaethau bord gron, fforymau ac ymweliadau ymchwil. Bydd y bwrsariaethau yn talu costau trafnidiaeth gyhoeddus, llety safonol, ffïoedd cofrestru’r digwyddiad a chymorth rhesymol. Mae rhagor o fanylion ar gael yma.

“Rydym yn falch iawn o allu lansio’r gronfa fwrsariaeth hon,” meddai Dr Barbara Ibinarriaga Soltero, Rheolwr Rhaglen y Gymdeithas, Datblygu Ymchwilwyr.

“Wrth gwrs, mae’r ffaith ein bod yn gallu cefnogi datblygiad gyrfa ymchwilwyr unigol yn elfen wych ynddo’i hun.

“Fodd bynnag, mae’n gyffrous iawn ein bod yn gallu gwneud hyn diolch i haelioni ein Cymrodyr, a ymatebodd mor arbennig i’n galwad am roddion, yn ogystal â datblygu’r polisi mewn cydweithrediad â’n Grŵp Ymgynghorol ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr.

“Mae gallu dod â rhannau cyfansoddol gwahanol y gymdeithas ynghyd yn y modd hwn yn dangos ein hymdrechion i greu amgylchedd cadarnhaol sy’n ymgorffori pob elfen o sector ymchwil Cymru.”

yn ôl i'r brig