Newyddion

The latest news from the Learned Society of Wales

Cyhoeddi Prif Weithredwr newydd y Gymdeithas Ddysgedig

Mae’n bleser gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru gyhoeddi bod Martin Pollard wedi’i benodi’n Brif Weithredwr newydd, gan ymgymryd â’r gwaith ar 1 Gorffennaf 2018. Ar hyn o bryd, Martin yw Prif Weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac ers 2010 mae wedi arwain yr elusen drwy gyfnod o ddatblygu strategol a... Read More

Y Gymdeithas Ddysgedig yn croesawu 42 Cymrawd Newydd

  Gwyddonwyr rhagorol, academyddion blaenllaw a gweithwyr proffesiynol nodedig yn ymuno ag Academi Genedlaethol Cymru Mae’n bleser gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru gyhoeddi canlyniad etholiad Cymrodyr newydd 2018 sy’n rhychwantu sectorau’r celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau a gwasanaeth cyhoeddus. Ma... Read More

Nodyn gan y Llywydd

Penodiad newydd yr Athro Peter Halligan, Brexit yn parhau’n brif bwnc trafod, a'r diweddaraf ar yr academïau cenedlaethol Rwyf i wrth fy modd gyda phenodiad Peter Halligan yn Brif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru. Bydd yn dod â chyfoeth o brofiad perthnasol a gwerthfawrogiad miniog o gyflwr presennol ymchwil... Read More

Penodi’r Athro Peter Halligan yn Brif Gynghorydd Gwyddonol newydd i Gymru

Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi penodi Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru i gynghori ar faterion gwyddonol ar draws adrannau. Bydd yr Athro Halligan yn rhoi cyngor gwyddonol annibynnol i'r Prif Weinidog ac yn arwain y gwaith o ddatblygu polisi gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru. Bydd hefyd yn gweithio i h... Read More

Adolygiad o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad yn y Gymdeithas

Cefndir Yn 2014, cymeradwyodd Cyngor Cymdeithas Ddysgedig Cymru Adroddiad ac Argymhellion y Gweithgor Cydbwysedd Rhywedd dan Arweiniad y Fonesig Athro Teresa Rees. Cyhoeddwyd yr adroddiad ac argymhellion ar gydraddoldeb yma. Mewn ymateb i hyn gwnaed newidiadau, gan gynnwys gwneud y broses ethol yn fwy gweladwy, ... Read More

Effaith Prifysgolion Cymru yn Gymdeithasol ac Economaidd

Mae adroddiad newydd a gomisiynwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru’n crynhoi effaith ymchwil prifysgolion Cymru er mwyn gallu ei ddefnyddio’n well i ddeall, hyrwyddo a chyfleu’r cyfraniad mae ymchwil o Gymru’n ei wneud i gymdeithas a’r economi ehangach yng Nghymru. Comisiynwyd Uned Polisi Coleg King’s Llunda... Read More

Dathlu talent ymchwil rhagorol o Gymru

Neithiwr cyflwynwyd medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru mewn seremoni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Mae cydnabod teilyngdod yn agwedd sylweddol o waith academi genedlaethol Cymru. Mae dathlu llwyddiant yn bwysig i’r unigolion a anrhydeddir, i’r sector academaidd, o brifysgolion i ysgol... Read More

Brexit : Ymgysylltu ac ymatebion y Gymdeithas (2016-17)

Mae ymatebion ymgynghoriadau ac ymholiadau diweddar, ynghyd â darnau sylwebaeth a gweithgaredd perthnasol arall gan y Gymdeithas yn gysylltiedig â phenderfyniad y DU i adael yr UE wedi’u crynhoi mewn un ddogfen. Mae’r ddogfen i’w gweld yma. Read More

Cyfnewid syniadau gyda’r Cynulliad Cenedlaethol

Mae Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad wedi ymuno â Chymdeithas Ddysgedig Cymru i ddatblygu cyfres newydd o seminarau i hybu polisi ar sail tystiolaeth a chynnig cyfle i Aelodau Cynulliad ddysgu, cyfnewid a thrafod syniadau newydd gydag arbenigwyr academaidd blaenllaw. Mae’r Gyfres Seminarau Cyfnewid Syniadau yn gyfr... Read More