Cyhoeddi Prif Weithredwr newydd y Gymdeithas Ddysgedig

Mae’n bleser gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru gyhoeddi bod Martin Pollard wedi’i benodi’n Brif Weithredwr newydd, gan ymgymryd â’r gwaith ar 1 Gorffennaf 2018.

Ar hyn o bryd, Martin yw Prif Weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac ers 2010 mae wedi arwain yr elusen drwy gyfnod o ddatblygu strategol a thwf na welwyd ei debyg. Mae hyn wedi cynnwys sefydlu rhaglenni Cymru dros Heddwch a Hub Cymru Africa, yn ogystal â chydlynu gwaith ysgolion a digwyddiadau cyhoeddus y Ganolfan. Mae ganddo brofiad sylweddol yn datblygu prosiectau a phartneriaethau newydd ar draws y trydydd sector, ysgolion a sefydliadau addysg uwch.

Ar ôl cymhwyso’n wreiddiol fel athro, mae gan Martin gefndir addysgol cryf ac mae wedi gweithio’n uniongyrchol gyda miloedd o athrawon a dysgwyr. Mae’n Gadeirydd Cynghrair Addysg Fyd-eang Cymru ac yn arbenigwr ar y dull Athroniaeth i Blant, ac wedi cynrychioli’r sector rhyngwladol ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector Llywodraeth Cymru. Mae ei benodiadau blaenorol yn cynnwys ymddiriedolwr WCVA, aelod o Gomisiwn Newid Hinsawdd Cymru a chadeirydd panel grantiau Cyswllt Cymunedau Cymru Affrica.

Dywedodd Llywydd y Gymdeithas, Syr Emyr Jones Parry ‘Rwy’n falch iawn i groesawu Martin Pollard yn Brif Weithredwr newydd y Gymdeithas. Mae’n dod â chyfoeth o brofiad yn ei sgil a dymunwn yn dda iddo yn y swydd bwysig hon’

Dywedodd Martin “Rwyf i wrth fy modd yn ymuno â Chymdeithas Ddysgedig Cymru ar adeg mor allweddol yn ei datblygiad. Mae rhagoriaeth academaidd yn elfen hanfodol o fywyd cyhoeddus Cymru, ac rwyf i’n edrych ymlaen at y cyfle i ledaenu’r ddysg hon gartref ac ar y llwyfan byd-eang.”