Cyfnewid syniadau gyda’r Cynulliad Cenedlaethol

Mae Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad wedi ymuno â Chymdeithas Ddysgedig Cymru i ddatblygu cyfres newydd o seminarau i hybu polisi ar sail tystiolaeth a chynnig cyfle i Aelodau Cynulliad ddysgu, cyfnewid a thrafod syniadau newydd gydag arbenigwyr academaidd blaenllaw.

Mae’r Gyfres Seminarau Cyfnewid Syniadau yn gyfres beilot o 3 seminar yn trafod pa mor uchelgeisiol y dylai polisi Llywodraeth Cymru fod yn y meysydd canlynol:

  • Strategaeth economaidd, cyllid a seilwaith
  • Tyfu ac amrywio cymdeithas sifil yng Nghymru
  • Dyfodol ynni clyfrach i Gymru

Mae’r seminarau’n fforwm ar gyfer cyflwyno a lledaenu canfyddiadau ymchwil mewn modd uniongyrchol, ar faterion sy’n berthnasol i raglen busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru.