Y Gymdeithas Ddysgedig yn croesawu 42 Cymrawd Newydd

 

Gwyddonwyr rhagorol, academyddion blaenllaw a gweithwyr proffesiynol nodedig yn ymuno ag Academi Genedlaethol Cymru

Mae’n bleser gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru gyhoeddi canlyniad etholiad Cymrodyr newydd 2018 sy’n rhychwantu sectorau’r celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau a gwasanaeth cyhoeddus. Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd, a cheir cystadlu brwd i ymuno. Etholir Cymrodyr yn dilyn asesiad trylwyr o’u cyflawniadau yn eu meysydd perthnasol.

Mae’r etholiad hwn yn cryfhau Cymrodoriaeth y Gymdeithas ymhellach drwy ychwanegu 42 o Gymrodyr newydd i’w rhengoedd, gan gynnwys dau Gymrawd er Anrhydedd, yr Athro y Fonesig Marilyn Strathern a’r Athro Syr Vaughan Jones. Erbyn hyn mae gan y Gymdeithas yn agos i 500 o Gymrodyr, yn ddynion a menywod nodedig o bob cangen dysg, sy’n ffigurau blaenllaw yn eu disgyblaethau academaidd neu broffesiynau penodol. Eleni mae 35% o’r Cymrodyr newydd yn fenywod.

Gellir gweld y rhestr lawn o Gymrodyr newydd yma.

Drwy ddod â’r Cymrodyr mwyaf llwyddiannus a thalentog sy’n gysylltiedig â Chymru at ei gilydd, mae’r Gymdeithas Ddysgedig yn cyfrannu at ddatblygu a hyrwyddo rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd gan ddarparu cyngor arbenigol ac annibynnol i’r Llywodraeth.

Mae llawer o’r Cymrodyr newydd yn nodedig nid yn unig am eu llwyddiannau unigol, ond hefyd fel ffigurau sy’n ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol. Mae’r rhain yn cynnwys: y Cymrawd er Anrhydedd newydd yr Athro y Fonesig Marilyn Strathern sy’n Anthropolegydd Cymdeithasol blaenllaw y mae ei henw da rhyngwladol eang yn seiliedig ar ei hymchwil maes helaeth a ddechreuodd yn agos i 50 mlynedd yn ôl yn Papua Guinea Newydd ym Melanesia. Hefyd yn ymuno fel Cymrawd er Anrhydedd mae’r Athro Syr Vaughan FR Jones, mathemategydd chwyldroadol, sy’n adnabyddus am ei waith ar algebrâu von Neumann a pholynomialau cwlwm. Mae ei ddarganfyddiadau wedi agor meysydd ymchwil enfawr newydd mewn meysydd mathemategol eang mewn dadansoddi, algebra, geometreg a thopoleg. Dyfarnwyd iddo Fedal Fields yn 1990.

Ymhlith y Cymrodyr newydd sy’n gweithio ym maes diwylliant Cymraeg mae’r Athro Menna Elfyn, sydd wedi bod yn gweithio ym maes cyhoeddi ers pum degawd ac sydd wedi creu enw rhyngwladol i’w barddoniaeth yn Gymraeg a Saesneg, gan deithio’r byd gyda darlleniadau a chynyrchiadau theatrig. Mae’r Athro Paul O’Leary yn ysgolhaig nodedig ym maes hanes Cymru, gyda’i gyfraniadau i’r maes yn trawsnewid ein dealltwriaeth o fudo o Iwerddon i Gymru, Cymru ac amlddiwylliant a Chymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn y gwyddorau, mae’r Cymrawd newydd yr Athro Shareen Doak yn wyddonydd Cymreig ifanc gyda llwybr gyrfa rhagorol. Ers cael ei phenodi yn 2014 i gadair bersonol mewn Genotocsicoleg a Chanser yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Abertawe mae wedi llwyddo i ddenu grantiau UE mawr werth dros £27 miliwn i’r rhanbarth. Mae’r Athro Deri Tomos yn fyd-enwog am ei ymchwil mewn Biocemeg, Bioffiseg a Bioleg Foleciwlar ac mae’n llais ac yn wyneb cyfarwydd ar Radio Cymru ac S4C. Fe’i hanrhydeddwyd eleni gyda Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn am ei gyfraniad oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.  Yr Athro Ron Pethig yw’r arbenigwr blaenllaw ar Bio-electroneg ac mae ei astudiaethau o gelloedd wedi’u defnyddio i gynllunio cyffuriau gwrth-ganser.

Mae’r Gymrodoriaeth hefyd yn cydnabod gwasanaeth cyhoeddus rhagorol; yr Athro Cara Aitchison yw Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd gyda 30 mlynedd o brofiad mewn addysg uwch. Mae wedi arwain rhaglenni gwella, twf a rheoli newid mawr mewn chwe phrifysgol yn y DU gan ddatblygu maint, ansawdd ac effaith addysg ac ymchwil. Roedd Robert Rogers, Arglwydd Llys-faen, yn swyddog nodedig yn Nhŷ’r Cyffredin am dros 40 mlynedd. Gwnaeth gyfraniad i ddatblygiad cadarnhaol gweithdrefnau Tŷ’r Cyffredin, i rôl fodern y Pwyllgorau Dethol ac mae’n un o dri Chlerc Tŷ’r Cyffredin yn unig i’w dyrchafu i Dŷ’r Arglwyddi.

Etholiad 2018 yw’r seithfed mewn proses dreigl at adeiladu Cymrodoriaeth gref, gynrychioliadol. Bydd ffocws parhaus y Gymdeithas ar ragoriaeth a chyflawniad yn sicrhau bod y Gymrodoriaeth yn cynrychioli’r gorau yn y prif ddisgyblaethau academaidd.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas:

“Rwyf i wrth fy modd yn croesawu amrywiaeth mor eang o unigolion rhagorol i’r Gymrodoriaeth eleni. Mae cael eu hethol yn gydnabyddiaeth o ragoriaeth a chyflawniad. Maen nhw a’u gwaith yn ysbrydoliaeth i’r genedl. Caiff Cymrodyr eu hethol ar sail teilyngdod, ac unwaith eto mae’r nifer o Gymrodyr benywaidd yn cynyddu.”

Gellir gweld y rhestr lawn o Gymrodyr newydd yma.