Newyddion

Y newyddion diweddaraf gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru

Medalau 2019

Dyfarnwyd medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru neithiwr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru mewn seremoni’n dathlu llwyddiant yn y byd academaidd. Mae medalau academi genedlaethol Cymru’n cydnabod cyfraniadau rhagorol mewn ymchwil ac ysgolheictod, gan ddathlu llwyddiant yr unigolion a anrhydeddir, a’r sect... Darllen rhagor

Anthropolegau Cymdeithasol y Cymry: Y Gorffennol a’r Presennol

Cynhaliodd WISERD ddarlith gyda'r nos a symposiwm undydd ym Mhrifysgol Caerdydd yr wythnos hon. Trefnwyd y digwyddiad ar y cyd gyda'r Sefydliad Anthropolegol Brenhinol, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Chymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion. Roedd Anthropolegau Cymdeithasol y Cymry: Y Gorffennol a'r Presennol yn edrych ... Darllen rhagor

Y Gymdeithas Ddysgedig yn croesawu 48 Cymrawd Newydd

Mae deugain ac wyth o unigolion wedi ymuno â ni yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru yn Gymrodyr etholedig newydd. Mae ein Cymrodyr newydd wedi cyfrannu at fyd dysg fel ymchwilwyr, academyddion a phobl broffesiynol - ac mae gan bob un gyswllt cryf â Chymru. Fel Academi Genedlaethol Cymru, mae’n bleser gennym yng Ngh... Darllen rhagor

Cyfrannu at Strategaeth Ryngwladol Cymru

Mae’r Gymdeithas Ddysgedig a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru wedi llunio set o argymhellion a myfyrdodau ar gyfer Strategaeth Ryngwladol ddatblygol Llywodraeth Cymru. Mewn ymateb i wahoddiad gan y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Gymraeg, cawsom gynulliad o gynrychiolwyr o rwydweithiau cymdeithas sifil ... Darllen rhagor

Datganiad ALLEA, EUA a Science Europe

Cyhoeddodd Ffederasiwn Academïau’r Gwyddorau a’r Dyniaethau Ewrop (ALLEA), Cymdeithas Prifysgolion Ewrop (EUA) a Science Europe ddatganiad ar y cyd ar 10 Ebrill ar yr angen brys i gefnogi ymrwymiadau i ryddid academaidd ac ymreolaeth prifysgolion gyda gweithredu cadarn. Yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru rydym ni... Darllen rhagor

Dyfodol Ein Hiechyd – cyfres darlithoedd y Gymdeithas yn 2019

Gyda’r GIG yn dathlu 70 o flynyddoedd, mae’n bleser gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru gyhoeddi cyfres nodedig o ddarlithoedd ar iechyd yng Nghymru a thu hwnt. Caiff y gyfres ei lansio yng Nghaerdydd ar 17 Ionawr 2019 gyda darlith bwysig gan Syr Leszek Borysiewicz, yn edrych ar yr hyn fydd gan y 70 mlynedd nesaf... Darllen rhagor

2018 Symposiwm Rhyngwladol

Roeddem ni’n falch iawn i gynnal trydydd Symposiwm Rhyngwladol Cymdeithas Ddysgedig Cymru yng Ngholeg Magdalene, Caergrawnt rhwng 11 a 13 Medi. Gan ganolbwyntio ar Foeseg Llewyrch Cynaliadwy i Bawb, daeth 57 o gyfranogwyr i’r digwyddiad, gan gynnwys 11 o Gymrodyr a gwesteion rhyngwladol o Dde Affrica, Awstralia, yr... Darllen rhagor

Arolwg Sgiliau ac Amrywiaeth

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n cydnabod ac yn rhoi gwerth ar amrywiaeth a’r safbwyntiau gwahanol y mae pobl o wahanol gefndiroedd yn dod gyda nhw i’w gwaith a’i chyfraniad i Gymru. Ym mis Mehefin 2017, argymhellodd y Pwyllgor Penodiadau, Llywodraethu ac Enwebiadau y dylid comisiynu adolygiad eang o waith y... Darllen rhagor