Effaith Prifysgolion Cymru yn Gymdeithasol ac Economaidd

Mae adroddiad newydd a gomisiynwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru’n crynhoi effaith ymchwil prifysgolion Cymru er mwyn gallu ei ddefnyddio’n well i ddeall, hyrwyddo a chyfleu’r cyfraniad mae ymchwil o Gymru’n ei wneud i gymdeithas a’r economi ehangach yng Nghymru. Comisiynwyd Uned Polisi Coleg King’s Llundain i lunio’r adroddiad manwl fel rhan o genhadaeth y Gymdeithas i hybu dysg a chanlyniadau ymchwil academaidd yng Nghymru.

Bob blwyddyn, mae llawer o wledydd yn gwario symiau sylweddol o arian cyhoeddus ar ymchwil academaidd. Fel gyda phob gwariant cyhoeddus, mae’n bwysig ac yn angenrheidiol dangos effaith a buddiannau ymchwil a wneir gan Addysg Uwch. Bob pum mlynedd, mae’r DU yn ymgymryd â gwerthusiad systematig o ymchwil prifysgol – y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), sef yr ymarfer gwerthuso ymchwil mwyaf o’i fath unrhyw le yn y byd. Cyflwynodd REF 2014 effaith fel mesur i asesu ansawdd a gwerth ymchwil ar draws Prifysgolion y DU dros y cyfnod 2008- 2013. Cafodd effaith ei asesu drwy gyflwyno astudiaethau achos gyda dau faen prawf: cyrhaeddiad – dylanwad neu effaith ar y carfannau perthnasol, ac arwyddocâd – dwysedd y dylanwad neu effaith.

Yn REF 2014, cyflwynodd prifysgolion yng Nghymru 273 o astudiaethau achos. Er mai dim ond 4% o gyfanswm y DU oedd y rhain, barnwyd bod bron 50% o effeithiau Cymru ar draws yr holl gyflwyniadau yn 4* (eithriadol) o’i gymharu â chyfartaledd y DU, sef 44%. Am y tro cyntaf, bydd yr adroddiad newydd yn cwmpasu’r holl astudiaethau achos a gyflwynir gan un wlad, gan ddangos y gwerth mae prifysgolion Cymru’n ei gyflwyno gyda lefelau cymharol isel o gyllid ymchwil.

Mae’r dadansoddiadau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn unigryw gan eu bod yn cwmpasu pob astudiaeth effaith a gyflwynwyd gan wlad ddatganoledig, ac yn darparu ystyriaeth ddwys o’r mathau o effeithiau ymchwil sy’n codi ynddi, a datgelu’r ystod amrywiol o fuddiannau i’r economi, cymdeithas, diwylliant, polisi, iechyd, yr amgylchedd ac ansawdd bywyd, yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Mae’r prif uchafbwyntiau’n cynnwys:

  • Taeniad cymharol wastad o astudiaethau achos ar draws pedwar prif banel disgyblaethol y REF sef y Gwyddorau Bywyd, Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Celfyddydau a’r Dyniaethau.
  • Gwelwyd llawer o’r pynciau effaith amlycaf o Gymru hefyd yn y set gyflawn o astudiaethau achos y DU.
  • O’r astudiaethau achos yng Nghymru, y meysydd effaith mwyaf cyffredin oedd:
  • ‘Llywio polisi’r llywodraeth’
  • ‘Craffu ar y llywodraeth’
  • ‘Masnacheiddio technoleg’
  • ‘Y Cyfryngau’
  • ‘Ieithoedd Rhanbarthol Ynysoedd Prydain’
  • ‘Gwasanaethau Gofal Iechyd’
  • Yn ogystal â chyrhaeddiad rhyngwladol sylweddol mewn 102 o wledydd, dangosodd nifer sylweddol o astudiaethau achos effaith leol yn sectorau polisi, cymdeithas, diwylliant, treftadaeth ac addysg. Adroddodd 37% o’r astudiaethau achos effeithiau’n benodol yng Nghymru ac roedd y rhain yn dangos proffil arbennig gydag effeithiau ar bolisi a chymdeithas, diwylliant a threftadaeth y wlad, yr economi, addysg gyhoeddus a chydlyniad cymdeithasol.

Effeithiodd ymchwil o Gymru ar amrywiaeth eang o fuddiolwyr gan gynnwys:

  • Cwmnïau bach a chanolig gyda 63% o bob cyfeiriad at gwmnïau bach a chanolig yn ymwneud â chwmnïau yng Nghymru.
  • Roedd traean o’r astudiaethau achos a gyflwynwyd gan Sefydliadau Addysg Uwch yn disgrifio rhyw fath o fasnacheiddio.
  • Roedd rhyngweithio gyda gwneuthurwyr polisi’n amrywio o gyflenwi tystiolaeth i bwyllgorau dethol a briffio gwneuthurwyr polisi i ddrafftio polisïau a strategaethau, lobïo a llunio adroddiadau annibynnol.
  • Roedd busnesau bach a chanolig, gwneuthurwyr polisi, y trydydd sector, addysg a’r diwydiannau creadigol ymhlith buddiolwyr yr ymchwil Cymreig y nodwyd ei fod yn cael mwy o effaith yng Nghymru o’i gymharu â mannau eraill.

Wrth siarad am yr adroddiad, dywedodd yr Athro Peter Halligan, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru:

 “Gan ddefnyddio technegau cloddio testun a dadansoddi ansoddol newydd, mae’r dadansoddiad hwn o’r 273 o astudiaethau achos effaith o Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 yn cyflwyno crynodeb trawiadol ac ysbrydoledig sy’n dangos sut y gall ymchwil mewn gwlad fach arwain at newidiadau a buddion yn rhyngwladol ac yn rhanbarthol, gan effeithio ar ddiwylliant, diwydiant, cadw ieithoedd a pholisi lleol.”

Mae’r adroddiad i’w weld yma