Adolygiad o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad yn y Gymdeithas

Cefndir

Yn 2014, cymeradwyodd Cyngor Cymdeithas Ddysgedig Cymru Adroddiad ac Argymhellion y Gweithgor Cydbwysedd Rhywedd dan Arweiniad y Fonesig Athro Teresa Rees.

Cyhoeddwyd yr adroddiad ac argymhellion ar gydraddoldeb yma. Mewn ymateb i hyn gwnaed newidiadau, gan gynnwys gwneud y broses ethol yn fwy gweladwy, eithrio’r cap (o dri) ar y nifer o enwebiadau y gall Cymrawd ei wneud mewn un flwyddyn yn achos ymgeiswyr benywaidd, darparu arweinad ysgrifenedig i Gadeiryddion Pwyllgorau Craffu a chynyddu gwelededd Cymrodyr benywaidd. Ers hynny mae’r gyfran o fenywod a etholwyd wedi codi i 35% dros y ddau gylch etholiad diwethaf, sy’n golygu bod cynrychiolaeth fenywaidd yn y gymdeithas bellach yn 18%.

Adolygiad o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad 2017-18

Mae Cyngor y Gymdeithas wedi cymeradwyo cylch gorchwyl adolygiad newydd â’r teitl Adolygiad o Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad yn y Gymdeithas dan arweiniad yr Athro Terry Threadgold. Mae’r cylch gorchwyl i’w weld yma.

Yn gryno nod yr Adolygiad yw:

  1. ystyried amrywiaeth fel y’i diffinnir yn nhermau Deddf Cydraddoldeb 2010, gan roi ystyriaeth i ddaearyddiaeth a natur benodol Sefydliadau Addysg Uwch Cymru;
  2. ystyried wyneb allanol y Gymdeithas (gan gynnwys y cyfansoddiad a rôl/au ei Chymrodoriaeth, ei rhyngweithio a’i chefnogaeth i randdeiliaid eraill a’i chyfraniad i Brifysgolion Cymru ac i Gymru);
  3. ystyried unrhyw rai o strwythurau, prosesau ac arferion mewnol y gymdeithas sy’n effeithio ar amrywiaeth y gymrodoriaeth.

Grŵp Llywio

Bydd grŵp llywio’n cefnogi gwaith yr adolygiad, gan gynnwys aelodaeth eang o’r Cyngor, Pwyllgorau Craffu, y Gymrodoriaeth ac aelodau allanol gydag arbenigedd perthnasol:

Cadeirydd: Emerita Professor Terry Threadgold, Cardiff University, Communications and Cultural Studies.

Staff Ysgrifenyddiaeth: Amanda Kirk (Clerk to Council), Philip Jones (Fellowship & Engagement Officer)

Aelodau o’r Cyngor

Professor David Boucher, Cardiff University, Political Philosophy and International Relations

Professor Ole Peterson, Cardiff University, Biosciences

Professor Nancy Edwards, Bangor University, Medieval Archaeology

Professor, Helen Fulton, University of Bristol, Head of English – Medieval Literature (including Welsh).

Cadeiryddion Craffu

Professor Alessandra Tanessini, Cardiff University, Philosophy

Professor Rob Beynon, Liverpool University, Biosciences

Professor Gareth Rees, Cardiff University, Social Sciences

Professor Ieuan Hughes, University of Cambridge, Paediatrics

Cymrodyr

Professor Diane Kelly, Swansea University, Medicine

Emeritus Professor Richard Rathbone, SOAS and Aberystwyth University, Modern African History

Professor Maria Goddard, University of York, Health Economics

Professor Claire Gorrara, Cardiff University, French/Modern Languages

Professor Urfan Khaliq, Cardiff University, Public and International Law

Robert Humphreys, Director Open University in Wales

Professor John Collier, Director, the STFC Central Laser Facility, the Rutherford Appleton Laboratory

Aelodau Allanol

Karen Cooke, Cardiff University, Organisational and Staff Development Manager

Abyd Quinn-Aziz, Cardiff University,  Senior Lecturer, Social Work