Nodyn gan y Llywydd

Penodiad newydd yr Athro Peter Halligan, Brexit yn parhau’n brif bwnc trafod, a’r diweddaraf ar yr academïau cenedlaethol

Rwyf i wrth fy modd gyda phenodiad Peter Halligan yn Brif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru. Bydd yn dod â chyfoeth o brofiad perthnasol a gwerthfawrogiad miniog o gyflwr presennol ymchwil yng Nghymru a’r polisïau esblygol y mae wedi helpu i’w datblygu. Yn ei dair blynedd yn Brif Weithredwr i ni, mae Peter wedi cydweithio’n agos â’r Athro Julie Williams oedd yn ei ragflaenu. Rwyf i’n hyderus y bydd y berthynas bwysig hon yn cryfhau ymhellach.

Wrth gwrs byddwn yn gweld eisiau cyfraniad enfawr Peter yn helpu’r Gymdeithas i gryfhau ac ehangu ei gwaith. Mae’n ein gadael gyda’n diolch a’n dymuniadau gorau. Mae’r Cyngor wedi trafod rôl y Prif Weithredwr a bydd hysbysebion yn ymddangos yn fuan. Bydd hefyd ar wefan y Gymdeithas. Os gŵyr cydweithwyr am unrhyw ymgeiswyr posibl a allai fod â diddordeb, anogwch nhw i edrych yno am yr hysbyseb a manylion y swydd.

Mae Brexit yn parhau’n brif bwnc ar yr agenda gwleidyddol. Mae gwir fuddiannau yn y fantol ym maes addysg uwch ac ymchwil. Mae symud staff a myfyrwyr wrth galon profiad prifysgol gyda cydweithio rhyngwladol yn ddimensiwn hanfodol i ymchwilwyr ein hoes. Mae cyfranogi yn rhaglenni’r UE wedi dod yn hanfodol i ymchwilwyr o Gymru. Rydym ni felly wedi bod yn gweithio gyda chwaer academïau i bwyso ar Lywodraeth Prydain i gynnwys cyfranogiad parhaus y DU mewn rhaglenni ymchwil cyfredol yr UE ac yn y dyfodol fel elfen hanfodol o berthynas y DU yn y dyfodol gyda’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r academïau hefyd yn gweithio gydag academïau cyfandirol i sefydlu buddiant cyffredin yn yr ymwneud parhaus hwnnw.

Roedd cinio Teirblwydd Cymdeithas Frenhinol Caeredin a’r cyfarfod dilynol o gynrychiolwyr yr academïau cenedlaethol yn gyfle i drafod y materion hyn ac yn fwy cyffredinol sut y gall academïau cenedlaethol a’u Cymrodyr ymgysylltu’n well â heriau byd-eang. Roedd yn drawiadol gweld mor gyffredin oedd ein buddiannau fel oedd y casgliad amlwg ei bod yn well ymdrin â’r mwyafrif mewn modd amlochrog. Siaradodd llawer am anhawster o ran cyfleu cyngor arbenigol i wneuthurwyr polisi, a’u cael hwythau i’w ystyried. Dim newid felly.

Ar 29 Ionawr bûm i gyda Mark Drakeford a’r aelod o Lywodraeth yr Alban sy’n cyfateb iddo mewn cyfarfod yn Nhŷ’r Arglwyddi. Eglurom ni rai o oblygiadau’r Bil Ymadael i weinyddiaethau datganoledig ac i rai polisïau unigol.