Penodi’r Athro Peter Halligan yn Brif Gynghorydd Gwyddonol newydd i Gymru

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi penodi Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru i gynghori ar faterion gwyddonol ar draws adrannau.

Bydd yr Athro Halligan yn rhoi cyngor gwyddonol annibynnol i’r Prif Weinidog ac yn arwain y gwaith o ddatblygu polisi gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru. Bydd hefyd yn gweithio i hybu astudio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth i helpu i ddatblygu sylfaen wyddoniaeth gref yng Nghymru.

Bydd yr Athro Halligan yn ymgymryd â’i swydd newydd ym mis Mawrth. Mae wedi bod gyda’r Gymdeithas ers tair blynedd a bu’n arwain ar hyrwyddo ansawdd ymchwil yng Nghymru a chyfathrebu llwyddiant ein hysgolheictod yn eang.

Cyn dod yn Brif Weithredwr y Gymdeithas Ddysgedig, bu’r Athro Halligan yn rhan allweddol o nifer o ddatblygiadau arloesol gan gynnwys sefydlu Canolfan Delweddu Prifysgol Caerdydd er Ymchwil yr Ymennydd (CUBRIC), Canolfan Delweddu Tomograffeg Gollwng Positronau Cymru at ddibenion Ymchwil a Diagnostig (PETIC), Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol Cymru (WICN), Cyfres o Ddarlithoedd Anrhydeddus Haydn Ellis a Sefydliadau Ymchwil Prifysgol Caerdydd.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

“Mae’r Athro Peter Halligan yn wyddonydd rhagorol ac yn seicolegydd a niwrowyddonydd byd-enwog, ac mae ei ymchwil wedi ennyn clod a pharch ar lefel ryngwladol. Mae’r penodiad yn hwb mawr i sector gwyddoniaeth ac ymchwil cynyddol Cymru.”

Caiff swydd wag y Prif Weithredwr ei hysbysebu maes o law.