Dathlu talent ymchwil rhagorol o Gymru
Neithiwr cyflwynwyd medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru mewn seremoni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.
Mae cydnabod teilyngdod yn agwedd sylweddol o waith academi genedlaethol Cymru. Mae dathlu llwyddiant yn bwysig i’r unigolion a anrhydeddir, i’r sector academaidd, o brifysgolion i ysgolion, ac i Gymru.
Eleni am y tro cyntaf dyfarnodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru chwe medal mewn pedwar categori gwahanol, gyda phob un wedi’i enwi er anrhydedd i ffigurau arwyddocaol yn hanes nodedig Cymru.
Crëwyd y medalau i ysbrydoli a chydnabod gwaddol hir cyflawniad y Cymry, a gaiff ei anwybyddu’n aml, ac ar yr un pryd er mwyn dathlu ymchwilwyr eithriadol ein hoes. Yn y flwyddyn hon, ‘blwyddyn y chwedlau’ mae’r medalau’n amlygu gwaith ymchwilwyr Cymru heddiw, ac yn eu tro byddant yn ysbrydoli ymchwilwyr y dyfodol.
Mae medal Frances Hoggan yn cydnabod cyfraniad ymchwilwyr benywaidd rhagorol mewn STEMM sydd â chysylltiad â Chymru. Eleni dyfarnwyd i fedal i’r Athro Anita Thapar CBE, o Brifysgol Caerdydd am ei hymchwil mewn seiciatreg plant a glasoed. “Mae derbyn y dyfarniad hwn yn anrhydedd enfawr” dywedodd yr Athro Thapar. “Mae fy ngwaith gwyddonol wedi elwa’n fawr iawn dros y blynyddoedd o gydweithio gyda chydweithwyr rhagorol. Mae llawer o’r rhain wedi bod yn wyddonwyr benywaidd ifanc – felly gobeithio y bydd y wobr hon yn ysbrydoliaeth iddyn nhw.”
Dyfernir medal Menelaus am ragoriaeth mewn unrhyw faes peirianneg a thechnoleg i ymchwilydd sydd â chysylltiad â Chymru; ymhlith yr enillwyr blaenorol mae Syr Terry Matthews, Syr John Cadogan a Syr John Meurig Thomas. Enillydd eleni yw’r Athro Graham Hutchings, Athro Regius Cemeg Ffisegol ym Mhrifysgol Caerdydd. “Mae’n anrhydedd i mi dderbyn Medal Menelaus y Gymdeithas Ddysgedig” dywedodd. “Mae fy ngwaith ym maes catalysis wedi’i anelu’n bennaf at gynllunio technolegau newydd mewn cydweithrediad â diwydiant. Yn ddiweddar galluogodd ein gwaith i aur gael ei ddefnyddio fel catalydd newydd yn lle catalydd arian byw sy’n llygru mewn gweithgynhyrchu finyl clorid ac rwy’n gobeithio y bydd buddiannau i gymdeithas yn gyffredinol yn deillio o hyn”.
Dyfarnwyd Medal Hugh Owen, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, i’r Athro Chris Taylor o Brifysgol Caerdydd, i gydnabod ei gyfraniad eithriadol i ymchwil addysgol – ymchwil sydd nid yn unig yn arloesol yn fethodolegol ond sydd hefyd wedi llywio datblygiad polisïau addysg allweddol yng Nghymru. Dywedodd yr Athro Taylor “Mae’n anrhydedd cael derbyn y Fedal Hugh Owen gyntaf gan y Gymdeithas Ddysgedig. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod pwysigrwydd ymchwil yn system addysg Cymru. Heb hyn ni allwn fod yn hyderus bod ein polisiau a’n harferion yn mynd i’r afael â’r materion cywir neu’n sicrhau canlyniadau effeithiol.”
Wrth ddyfarnu’r fedal, dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas “Dylai addysg gynnig cyfle i bawb ddatblygu eu talentau, dysgu a chael eu hamlygu i syniadau. Mae angen i ni i gyd wneud yn well, a gall ymchwil ymarferol rhagorol helpu i ffurfio polisïau mwy effeithiol.”
Yn unigryw ymhlith gwobrwyon a gynigir gan academïau eraill yn y DU, dyfernir medalau Dillwyn i gydnabod ymchwil gyrfa gynnar mewn tri maes academaidd:
- STEMM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth)
- Y Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes,
- Y Celfyddydau Creadigol a’r Dyniaethau
Dyfarnwyd medal STEMM Dillwyn i Dr Rachel Evans, darlithydd yn Adran Gwyddorau Deunyddiau a Meteleg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Defnyddir y deunyddiau ffotoweithredol newydd a gynllunnir yn ei labordy i wella effeithiolrwydd celloedd solar, datblygu llwyfannau synhwyro clyfar ar gyfer bio-ddiagnosteg a sicrhau diogelwch bwyd, a datblygu meinweoedd ymatebol i wella ansawdd dŵr a thynnu llygryddion, gan gyflenwi buddion cadarnhaol i gymdeithas drwy ddatblygiadau technolegol.
Dyfarnwyd Medal Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes Dillwyn i Dr Rhiannon Evans, Uwch-ddarlithydd yng Nghanolfan DECIPHer, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys iechyd a lles meddyliol plant a phobl ifanc, gan gynnwys hunan-anafu ac atal hunanladdiad.
Enillydd Medal y Celfyddydau Creadigol a’r Dyniaethau Dillwyn oedd Dr Amanda Rogers, Uwch-ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n ymchwilio i’r celfyddydau perfformio, yn benodol y theatr. Mae ei gwaith hyd yma wedi edrych ar faterion yn ymwneud ag amrywiaeth a chydraddoldeb, gan ddadansoddi mudo perfformwyr yn rhyngwladol. Mae ei hymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar adfywio celfyddydau Cambodia ar ôl hil-laddiad y Khmer Rouge.
Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas “On’d yw hi’n beth da gweld y fath dalent o Gymru? Gadewch i ni groesawu’r gydnabyddiaeth a llongyfarch yr enillwyr. Mae’n wych gweld ymchwilwyr gyrfa gynnar benywaidd yn cael cydnabyddiaeth gyda’n Medalau Dillwyn, sy’n briodol iawn o ystyried arloesedd Mary, Thereza ac Amy Dillwyn.”