Ymunwch â ni i lunio dyfodol Astudiaethau Cymreig
Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn llunio dyfodol Astudiaethau Cymreig drwy rwydwaith newydd.
I hyrwyddo Cymru mewn cyd-destun byd-eang, rhaid inni ei hadnabod yn gyntaf. Mae Astudiaethau Cymreig yn cwmpasu pob maes ymholi sy’n archwilio nodweddion diwylliannol, cymdeithasol a ffisegol Cymru. Mae’n ymchwil am Gymru, o Gymru, i Gymru.
Chwe mis ar ôl ein digwyddiad Astudiaethau Cymreig yn Aberystwyth, rydym wedi gwneud cynnydd cyflym yn unol â’n hymrwymiad i hyrwyddo’r maes ymchwil ffyniannus hwn. Mae cerrig milltir penodol yn cynnwys digwyddiadau yn Eisteddfod 2025 yn Wrecsam, ein panel yng Nghynhadledd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn 2025, ffrwd Astudiaethau Cymreig o fewn ein Cynllun Grantiau Gweithdy Ymchwil, a sefydlu ein Rhwydwaith Astudiaethau Cymreig. Mae’r Rhwydwaith yn gyfle cyffrous i ymchwilwyr ac arbenigwyr gysylltu, cydweithio a hyrwyddo Astudiaethau Cymreig.
Bydd y rhwydwaith yn canolbwyntio yn gyntaf ar adeiladu ein cymuned drwy gyrraedd gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes Astudiaethau Cymreig. Rydym wedi sefydlu grŵp LinkedIn i gefnogi rhwydweithio a chydweithio. Cofrestrwch, yna gwahoddwch gyfoedion a chydweithwyr sy’n gweithio ym maes Astudiaethau Cymreig i ymuno â’r grŵp. Gall y rhai nad ydynt ar LinkedIn gael y wybodaeth ddiweddaraf trwy ein cylchlythyr Astudiaethau Cymreig pwrpasol (cofrestrwch yma).
Yn olaf, er mwyn hyrwyddo ein gwaith i sicrhau cynnydd, rydym yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb i ffurfio grŵp arweinyddiaeth cyntaf y Rhwydwaith. Bydd y grŵp arweinyddiaeth yn cynnwys cadeirydd neu gyd-gadeiryddion, ynghyd ag arweinwyr gweithgorau sydd â chyfrifoldeb am y meysydd canlynol:
- Rhyngwladol
- Addysg
- Ymgyrchoedd Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Chyfathrebu
- Ymgysylltu â Pholisi a Materion Cyhoeddus
- Ymchwil (ymchwilwyr gyrfa gynnar; tirwedd ymchwil; astudiaethau achos)
- Codi arian
Gellir dod o hyd i gylch gorchwyl yma. Llenwch y ffurflen fer hon i fynegi diddordeb mewn dod yn gadeirydd [dyddiad cau: Dydd Gwener 10 Hydref] a/neu’r ffurflen fer hon ar gyfer rolau arweinwyr y gweithgorau [dyddiad cau: Dydd Gwener 31 Hydref]. Yna cynhelir etholiadau ym mis Hydref 2025: yn gyntaf ar gyfer y cadeirydd, yna bydd y cadeirydd yn goruchwylio ethol arweinwyr y gweithgorau. Unwaith y bydd y grŵp arweinyddiaeth wedi’i ffurfio, bydd cyfle gan aelodau’r rhwydwaith i ymuno â gweithgorau i lunio a gyrru’r meysydd gwaith hyn ymlaen.
Yn y cyfamser, rydym yn gwahodd pawb i gysylltu ar LinkedIn a chyfrannu at y gofod cydweithredol cyffrous hwn ar gyfer Astudiaethau Cymreig. Cyfeiriwch at reolau’r grŵp cyn postio!