Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn Eisteddfod 2025

Bydd gennym bresenoldeb cryf yn yr Eisteddfod yn Wrecsam eleni. Dyma’r digwyddiadau yr ydym yn eu cynnal ac yn cymryd rhan ynddynt.

Dydd Mercher 6 Awst

  • 11:30 Pam fod Cymru werth ei hastudio? 

Trefnwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Pabell Prifysgol Wrecsam.

Yr Athro Rhys Jones, Prifysgol Aberystwyth 

Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd 

Panelwyr eraill i’w gadarnhau 

Ymchwil am Gymru, i Gymru yw Astudiaethau Cymreig. Mae’n faes rhyngddisgyblaethol ac yn cwmpasu’r holl adrannau ymchwil – ein hiaith, ein diwylliant, ein daearyddiaeth, ein pobl, a mwy.  

Sut y gall Astudiaethau Cymreig wasanaethu Cymru orau? Pam ei bod mor bwysig ein bod yn astudio Cymru? Pa fath o ymchwil sydd wedi’i gynnwys mewn Astudiaethau Cymreig? A oes yna le i Astudiaethau Cymreig y tu allan i Gymru? Pa gwestiynau ymchwil yw’r rhai mwyaf dybryd mewn Astudiaethau Cymreig heddiw? Bydd y panel hwn yn mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn a mwy, gan dynnu ar ystod o feysydd ysgolheictod.  

Bydd y sesiwn hefyd yn cynnig cyfleoedd i’r gynulleidfa gymryd rhan yn y drafodaeth ar gyfer llywio dyfodol y maes, ac i ymgysylltu â’r fenter Astudiaethau Cymreig wrth symud ymlaen. 

  • 13:00-14:00 Anabledd yng Nghymru: Iaith, Addysg a Chyfathrebu – a drefnwyd gyda Phrifysgol Wrecsam.

Trefnwyd gan Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar y Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Pabell Prifysgol Wrecsam.  

Yr Athro Sara Elin Roberts FLSW, Ysgolhaig Annibynnol ac Athro Anrhydeddus yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor 

Dr Emily Lowthian, Prifysgol Abertawe 

Marjorie Thomas, Prifysgol Metropolitan Caerdydd 

Rebecca Day, Prifysgol Bangor 

Bydd y sesiwn yn trafod gwahanol agweddau ar anabledd yng Nghymru, gyda ffocws ar yr hyn sy’n cael ei wneud i gydnabod yr heriau a wynebir gan blant a phobl gyda gwahanol anableddau, a’r gwaith sy’n cael ei wneud i sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys yn y system addysg a’r byd cyfrwng Cymraeg. Mae’r tri siaradwr yn arbenigwyr mewn gwahanol feysydd ymchwil gyda’r ddolen gyswllt eu bod yn gweithio ar agweddau o gyfathrebu a darparu cyfleoedd cyfartal i bawb ym myd addysg. 


Dydd Iau 7 Awst

  • 11.30-12:30: Cwrdd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru

Ymunwch â Chymdeithas Ddysgedig Cymru yn yr Eisteddfod!

Ydych chi’n bwriadu ymweld â’r Eisteddfod yn Wrecsam ym mis Awst? Fe’ch gwahoddir yn gynnes i ymuno â ni yn ein digwyddiad galw heibio ‘Cwrdd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru’ yn y Lloeren yn y Pentref Gwyddoniaeth rhwng 11:30am-12:30pm.

Bydd y digwyddiad anffurfiol yn gyfle i gwrdd â staff a Chymrodyr CDdC ynghyd ag unigolion a sefydliadau eraill sy’n ymddiddori mewn ymchwil a’i dylanwad yng Nghymru.

Sesiwn galw heibio yw hon ac nid oes unrhyw reidrwydd i gofrestru. Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi cael syniad o’r niferoedd ar gyfer lluniaeth. Mwy o wybodaeth a chofrestri yma.

  • 13.30-14:30: Darlith Eisteddfod Cymdeithas Ddysgedig Cymru – Yr Athro Gareth Wyn Jones FLSW

Mae ein darlith flynyddol yn cael ei chyflwyno gan yr Athro Gareth Wyn Jones FLSW yn y Sfferen, Y Pentref Gwyddoniaeth.

Dilema Ynni: Ein Blaenoriaethau Croes

Heb ynni ‘llithro i’r llonyddwch mawr yn ôl’ yw ffawd bod pob creadur a phob gwareiddiad.

Yn sylfaenol i hanes dynoliaeth yw’n hymdrechion i sicrhau mwy o ynni i gynnal ein holl weithgareddau gan gynnwys prosesu gwybodaeth yn ein hymennydd a’n dyfeisiadau a’n bwydo.

Ers y Chwyldro Diwydiannol a’n gallu i ffrwyno’r ynni mewn tanwydd ffosil, gwelwyd cyflymu rhyfeddol yn ein gweithgaredd a’n pŵer ac yn safon byw canran sylweddol.

All hyn barhau? Beth yw ei oblygiadau? A oes ‘drwg yn y caws’?

Ystyriaf yr heriau yn fy nghyflwyniad.

  • 15:00-16:00: Cystadleuaeth Ymchwil Tri Munud – a drefnwyd gyda’r Coleg Cymraeg

Fedri di esbonio dy ymchwil i’r cyhoedd mewn llai na thri munud? Fedri di wneud hynny gyda dim ond UN sleid? Rho gynnig arni yn ein cystadleuaeth Traethawd Tri Munud!

Trefnir y gystadleuaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac fe’i cynhelir yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Iau, 7 Awst am 3pm ar stondin y Coleg Cymraeg.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw fyfyriwr israddedig, ôl-raddedig neu ymchwilydd gyrfa gynnar sydd wedi cwblhau, neu sy’n gweithio ar, brosiect neu draethawd ymchwil. Mwy o wybodaeth yma.

yn ôl i'r brig