Swydd Wag: Swyddog Rhaglen – Datblygu Ymchwilwyr

Rydym yn awyddus i benodi Swyddog Rhaglen proffesiynol a llawn cymhelliant ar gontract amser llawn, dros gyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2027.

Bydd rôl y Swyddog Rhaglen yn cynorthwyo i ymestyn ein Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr, gan weithio’n agos gyda’r Rheolwr Rhaglen. Byddant yn helpu i gyflawni un o blith pedair blaenoriaeth yn ein strategaeth bum mlynedd, sef “creu amgylchedd sy’n cefnogi arbenigwyr y presennol a dyfodol Cymru”.

Dyma gyfle cyffrous i gyfrannu mewn modd ystyrlon at ddyfodol ymchwil yng Nghymru trwy hyrwyddo cyfleoedd hyfforddi a rhwydweithio ymhlith ymchwilwyr sydd ar ddechrau ac ar ganol eu gyrfaoedd.

Bydd y rôl yn adeiladu ar ein partneriaeth gyda Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Byddai’n gweddu i rywun sy’n meddu ar y cymhelliant i siapio a chyfathrebu effaith un o’n prif raglenni, a rhywun sy’n mwynhau gweithio’n hyblyg gyda thîm cefnogol a dynamig.

  • Cyflog: £27,319-£32,080 y flwyddyn, yn dibynnu ar brofiad.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg yn arbennig. Nid yw rhuglder yn y Gymraeg yn un o ofynion y swydd hon, ond mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol, ac mae parodrwydd i ddysgu yn hanfodol.

  • I wneud cais, cyflwynwch CV a llythyr eglurhaol i applications@lsw.wales.ac.uk. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n arbed y dogfennau terfynol mewn fformat Word neu PDF.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ydy hanner nos, 30 Tachwedd 2025.

Mae cyfweliadau wedi’u trefnu i gael eu cynnal rhwng 9am a 5pm ar Dydd Iau 11 Rhagfyr 2025.

Os hoffech ragor o wybodaeth cyn penderfynu gwneud cais, cysylltwch â Dr Barbara Ibinarriaga Soltero (applications@lsw.wales.ac.uk) i drefnu trafodaeth anffurfiol gyda’r Rheolwr Rhaglen.

yn ôl i'r brig