Mae ein Colocwiwm Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar yn dychwelyd ar gyfer 2026

Mae cynlluniau ar gyfer Pedwerydd Colocwiwm Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar CDdC eisoes ar y gweill, gyda dyddiad a lleoliad wedi’u trefnu.

Bydd dau ddiwrnod o hyfforddiant, sgyrsiau cyflym, rhwydweithio, gweithgareddau cymdeithasol a’n cystadleuaeth poster boblogaidd yn cael eu cynnal ar 29-30 Mehefin 2026 yn amgylchoedd hardd Aberystwyth.

Rydym yn falch dros ben o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth i gynnal y digwyddiad. Rydym hefyd yn gyffrous i fod yn gweithio gyda’n cynrychiolwyr Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar, a fydd yn arwain y gwaith o drefnu Pwyllgor y Colocwiwm Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar. Mae hyn yn sicrhau bod y colocwiwm yn ateb eu hanghenion ac yn adlewyrchu eu blaenoriaethau.

Denodd digwyddiad eleni, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, dros 120 o bobl, o ar draws bob disgyblaeth ac o bob prifysgol yng Nghymru. Roedd 39 o gyflwynwyr unigol yn bresennol, a chafwyd 18 o bosteri oedd yn arddangos prosiectau ymchwil unigol.

Bydd yr alwad am geisiadau i gymryd rhan yn ngholocwiwm y flwyddyn nesaf yn agor ym mis Ionawr 2026. Mae hon yn gynhadledd ryngddisgyblaethol, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan ymchwilwyr sy’n gweithio tu mewn a thu allan i’r byd academaidd.

Mae bwrsariaethau ar gael
Byddwn hefyd, fel o’r blaen, yn darparu nifer o fwrsariaethau i dalu am gostau teithio a llety. Fe wnaethom gynnig 18 bwrsariaeth ar gyfer digwyddiad eleni, a bydd manylion am sut i wneud cais ar gael pan fydd y broses o gofrestru ar gyfer y colocwiwm yn agor yn y flwyddyn newydd.

yn ôl i'r brig