‘Rhoi i ennill’ gyda medalau a gwobrau’r Gymdeithas ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod

Oes ffordd syml ond effeithiol i helpu’r ymdrechion i greu byd sy’n gyfartal o ran y rhywiau?

Oes, yn ein barn ni…

Enwebwch fenyw ar gyfer un o’n medalau a’n gwobrau.

Mae ymchwilwyr ac arloeswyr Cymru, ym meysydd y celfyddydau, dyniaethau, gwyddoniaeth a meddygaeth, yn chwarae rhan allweddol mewn siapio llesiant a llwyddiant Cymru yn y dyfodol.

Gallwn wneud cymaint mwy i’w cydnabod nhw a’u gwaith. Dyna’n sicr yr achos ar gyfer ymchwilwyr benywaidd, yn enwedig mewn byd lle mae academyddion benywaidd yn llai tebygol o ennill gwobrau o gymharu â’u cydweithwyr gwrywaidd.

Dyna pam mae enwebu menyw i dderbyn un o’n medalau neu’n gwobrau yn gallu bod mor effeithiol.

Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi rhestr ddiwygiedig o fedalau a gwobrau, sy’n hyrwyddo ac yn cydnabod yr ymchwil a’r arloesedd rhagorol sydd yn digwydd yng Nghymru. Gallant gael eu hennill gan bobl, neu dimau, sydd yn gweithio mewn unrhyw faes yn y byd academaidd, diwydiant, celfyddydau neu sectorau cyhoeddus ac elusennol, ac ar unrhyw gam o’u gyrfa.

Gall unrhyw un gyflwyno enw rhywun ar gyfer medal neu wobr, ac mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (IWD) y cyfle perffaith i wneud hynny, trwy enwebu menyw rydych chi’n meddwl sy’n haeddu cydnabyddiaeth.

Mae thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, sef ‘Rhoi i Ennill’ yn tynnu sylw at y camau y gallwn eu cymryd i gyfrannu at ddatblygiad menywod, ac i ‘[helpu] greu byd mwy cefnogol a chysylltiedig’.

Mae’r camau hynny’n amrywio o fentora i ddarparu hyfforddiant, o eiriol i godi ymwybyddiaeth.

“O ran codi gwelededd, mae ein medalau a’n gwobrau’n berffaith,” meddai Helen Willson, Pennaeth Ecwiti ac Ymgysylltu’r Gymdeithas.

“Mae eu defnyddio i hyrwyddo gwaith menywod yn ffordd wych o roi i ennill. Rhoi ychydig o amser i enwebu cydweithiwr benywaidd rydych chi’n credu y dylai gael ei chydnabod a’i dathlu  am  ei gwaith ydy’r enghraifft berffaith o sut mae pawb ohonom yn ffynnu pan fydd menywod yn llwyddo.”

Ochr yn ochr â’n medalau a’n gwobrau, rydym hefyd yn ymdrechu i sicrhau bod ein Cymrodoriaeth yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru, o ran yr enwebiadau a dderbyniwn bob blwyddyn a chanran gyffredinol ein Cymrodyr sy’n fenywod.

Mae thema Diwrnod Rhyngwladol y Merched eleni ‘Rhoi i Ennill’ yn amlygu pŵer dwyochredd a chefnogaeth. Un ffordd y gall ein Cymrodyr presennol ‘roi i ennill’ yw enwebu rhywun ar gyfer Cymrodoriaeth CDdC. Yn y blynyddoedd diweddar, rydym wedi bod yn gweithio’n galed i annog Cymrodyr i flaenoriaethu enwebu merched a chynnwys egwyddorion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y broses enwebu hefyd.

“Yn nyddiau cynharaf y Gymdeithas, dim ond 10% o’n Cymrodyr oedd yn ferched. Mae’r ffigwr hwnnw wedi treblu ac yn parhau i godi, sy’n dangos ein bod yn gwneud cynnydd wrth symud tuag at gydraddoldeb a Chymrodoriaeth sy’n gytbwys o ran y rhywiau. Ond mae mwy o waith i’w wneud eto, gan gynnwys dyblu ein hymdrechion i sicrhau bod ein Cymdeithas yn un lle mae pob Cymrawd yn teimlo ymdeimlad o gynhwysiant a pherthyn.” meddai’r Athro Rachel Ashworth Cymrawd CDdC, sy’n cadeirio ein Grŵp Ymgynghorol ar Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

I gefnogi hyn, rydym yn adeiladu ein hegwyddorion Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn y broses o enwebu Cymrodyr, i sicrhau ei bod mor hygyrch â phosibl. Mae hynny wedi cynnwys y camau canlynol:

  • cyflwyno rhaglen o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd, rhai ohonynt yn fenywod yn unig, i gynnig cymorth a chyngor wedi ei deilwra ar y broses enwebu;
  • darparu tryloywder ynghylch y broses enwebu, i sicrhau ei bod yn deg i bawb: mae ein holl ddogfennau ar gael yn gyhoeddus ar ein gwefan;
  • cynnal adolygiad parhaus a chynhwysfawr o’r broses o enwebu ein Cymrodyr, i sicrhau ei bod yn deg ac i gael gwared ag unrhyw rwystrau.

Os hoffech ragor o wybodaeth am ein hymrwymiad i ecwiti, amrywiaeth a chynhwysiant, darllenwch ddatganiad Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant cyffredinol y Gymdeithas, yn ogystal â darganfod mwy am sut mae Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cael eu cynnwys yn benodol yn ein medalau a’n gwobrau.

yn ôl i'r brig