Blog YGC: ‘Awdurdodaethau datganoledig fel mannau ar gyfer deddfwriaeth uchelgeisiol’ gan Dr Caer Smyth a Genevieve Gunn

Mae Dr Caer Smyth yn ymchwilydd cyfreithiol rhyngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Caerdydd (Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth) ssy’n cyflogi methodolegau ymchwil cymdeithasol-gyfreithiol i archwilio problemau cyfraith amgylcheddol a chyfiawnder amgylcheddol gweithdrefnol. Mae Genevieve Gunn yn Myfyriwr PhD yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd. Yn y blog hwn, maent yn myfyrio ar eu profiad o gynnal gweithdy drwy Gynllun Grantiau Gweithdai Ymchwil Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Yn y saith mlynedd ar hugain ers y Deddfau Datganoli, pa ddiwylliannau sydd wedi dod i’r amlwg o ran cyfraith a pholisi a allai fod yn unigryw i’r gweinyddiaethau datganoledig? A ellir gweld mwy o bosibilrwydd ac archwaeth am ddeddfwriaeth a pholisi arloesol ar lefel y llywodraeth ddatganoledig? Dyma’r cwestiynau a archwiliwyd yn y gweithdy, ‘Arbrofi: Awdurdodaethau datganoledig fel mannau ar gyfer deddfwriaeth uchelgeisiol’, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 18 Mehefin. Er bod proses ddatganoli Cymru wedi profi dechrau arafach  na’r cenhedloedd datganoledig eraill, gellid dadlau mai hi sydd wedi cynhyrchu’r darn mwyaf uchelgeisiol o ddeddfwriaeth gan weinyddiaeth ddatganoledig, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Ystyriai’r gweithdy rôl y Ddeddf honno fel catalydd ar gyfer ffyrdd arloesol o feddwl sy’n seiliedig ar ‘genedlaethau’r dyfodol’ mewn llywodraeth ddatganoledig.  

Agorwyd y gweithdy gan Marie Brosseau-Navarro, Dirprwy Gomisiynydd a Chyfarwyddwr Iechyd gyda Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, drwy roi disgrifiad cynhwysfawr o’r Ddeddf ac o’i heffaith yng Nghymru yn ei degawd cyntaf. Mae’r Ddeddf wedi’i dylunio mewn modd arloesol ac yn edrych i’r dyfodol, ac yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus a chymunedau lleol i wella llesiant cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Disgrifiodd Marie gyrhaeddiad byd-eang y Ddeddf, sydd wedi ysbrydoli deddfwyr o Iwerddon hyd at yr Emiradau Arabaidd Unedig. Er nad yw’r Ddeddf yn berthnasol i sefydliadau’r trydydd sector nac i sefydliadau preifat, mae llawer o gwmnïau yng Nghymru wedi gweithredu ei pholisïau o’u gwirfodd. Mae hyn yn tystio i rym ‘meddal’ y Ddeddf a’i rôl ddylanwadol yn nhirlun polisi Cymru.  

Simon Jones (Myfyriwr Doethurol yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd) a ddechreuodd sesiwn gyntaf y panel, sef ‘Cyfyngiadau ar arloesi yn y gweinyddiaethau datganoledig’ , gan drafod deddfwriaeth ‘Isafbris Uned’ sydd wedi dod i rym yng Nghymru a’r Alban. Yn y bôn, dywedodd Simon fod y dull seiliedig ar hawliau sydd wrth wraidd yr Isafbris Uned yn anghyson, yn enwedig yr yr Alban. Fel tystiolaeth o’r anghysondeb hwn, tynnodd Simon sylw at y ffaith nad oes ymgyrch ehangach i fynd i’r afael ag anghenion yfwyr dibynnol i ategu’r Isafbris Uned, er bod y ddeddfwriaeth yn anelu i leihau gwariant pobl ar alcohol. Yn dilyn hyn, rhoddodd David Westlake (CASCADE) gyflwyniad ar Beilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru. Mae David a Sally Holland yn arwain y gwerthusiad o’r cynllun arloesol hwn. Nododd David rai o’r cyfyngiadau strwythurol sylweddol yn sgil terfynau datganoli yng Nghymru; er enghraifft, roedd y ffaith bod y rhan fwyaf o agweddau ar les a threthu y tu allan i gwmpas datganoli yn peri bod elfennau o’r cynllun yn heriol iawn.  Tynnodd sylw hefyd at bwysigrwydd ymrwymiad gwleidyddol parhaus i’r peilot a’r awydd i oresgyn rhwystrau biwrocrataidd, gan awgrymu mai dyma rai o’r cyfleoedd a geir wrth weithio mewn gweinyddiaeth ddatganoledig o faint llai.  

Yn ail sesiwn y panel, ‘Cymunedau fel peiriannau arloesi’, clywsom gan Victoria Jenkins (Prifysgol Abertawe), a archwiliai’r nod llesiant, ‘Cymru o Gymunedau Cydlynus’ ac a gwestiynai ai gweithio ar ran cymunedau neu gyda chymunedau yr oedd y llywodraethu cymunedol lleol yr oedd y Ddeddf yn ei hyrwyddo. Nododd Jenkins fod gorfodi ffiniau ar gymunedau lleol yn ardal Cwm Tawe yn rhwystr posibl i gyflawni’r nod llesiant hwn, gan nad oedd y ddealltwriaeth o bobl a lle sy’n llywio’r cynlluniau llesiant lleol wedi’i chyd-gynhyrchu â’r cymunedau eu hunain. Siaradwr olaf y diwrnod oedd John Harrington (Prifysgol Caerdydd, a Chymrawd y Gymdeithas), a awgrymodd ffordd o ddeall moeseg cyfraith iechyd yng Nghymru, gan ddefnyddio gwaith Alasdair MacIntyre. Cyflwynodd John hanes cyfraith iechyd yng Nghymru, yn enwedig y Cymdeithasau Cymorth Meddygol yng nghymoedd De Cymru. Tynnodd sylw hefyd at y modd y mae’n gobeithio defnyddio’r deunyddiau hanesyddol hyn i ddatblygu moeseg gofal iechyd sy’n benodol i Gymru, drwy ddefnyddio dull hanesyddol a chyd-destunol MacIntyre o ymwreiddio moeseg.  

Yn y dyddiau yn dilyn y gweithdy, cyfeiriodd sawl cyfranogwr at ba mor werthfawr oedd treulio amser yn canolbwyntio ar nodweddion unigryw llywodraethau datganoledig, ac archwilio’r cyfleoedd sydd wedi’u creu yn sgil Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Gwnaeth y gweithdy “sbarduno ystyriaethau a syniadau newydd”, gan helpu ymchwilwyr yn y maes i gysylltu’r naill a’r llall. Gwnaed y diwrnod pleserus hwn yn bosibl diolch i gymorth hael Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Gobeithir y gellir ailadrodd llwyddiant Abrofi— mae  cynlluniau eisoes ar droed ar gyfer gweithdy’r flwyddyn nesaf! 

yn ôl i'r brig