Sut rydym yn cefnogi’r prosiectau sy’n atgyfnerthu diwylliant ymchwil Cymru
Mae llawer iawn o ymchwil ragorol yn dod o Gymru ar hyn o bryd, ond mae angen cymaint o gefnogaeth ag y gallwn ei rhoi ar yr ymchwilwyr sy’n cynhyrchu’r gwaith hwnnw.
Dyna lle mae’r Grantiau Rhwydweithiau Diwylliant Ymchwil, sy’n cael eu cynnal gennym ni mewn partneriaeth â Medr, yn dod i mewn.
Mae’r 14 prosiect cyntaf yr ydym wedi’u cefnogi’n dangos pa mor bwysig yw annog cydweithio a phartneriaethau wrth ddatblygu diwylliant ymchwil Cymru. Bydd yr holl fentrau’n cael effaith gadarnhaol ar y sector ehangach, drwy fynd i’r afael â heriau allweddol a llywio arferion gorau ar gyfer amgylchedd ymchwil mwy cynhwysol, gwydn, ac iach yng Nghymru.
Mae grantiau fel y rhain yn cydnabod arbenigedd y rhai sy’n gysylltiedig â hyn, wrth gefnogi dull o’r gwaelod i fyny o adeiladu rhwydweithiau ymchwil.
Dyma ddangos eto sut gall Cymdeithas Ddysgedig Cymru, drwy weithio â Medr, ddefnyddio ei rôl fel yr Academi Genedlaethol i annog cymunedau ymchwil i gydweithio ar ddiwylliant ymchwil Cymru.
Dyma fanylion y cynlluniau a gefnogwyd gennym:
Cydgynhyrchu Creadigol yn Rhwydwaith Diwylliant Ymchwil Iechyd Menywod ac Endometriosis EMPOWER
– Dr Rebecca Anthony, Prifysgol Caerdydd
Mae’r prosiect hwn yn defnyddio dulliau creadigol, cyfranogol i gasglu prosesau nad ydynt yn cael eu dogfennu’n aml o ran cydgynhyrchu mewn ymchwil iechyd menywod, a’u gwneud yn weladwy, gan fynd i’r adael â heriau sy’n ymwneud â thryloywder, cynhwysiant, a dealltwriaeth gyffredin mewn diwylliannau ymchwil rhyngddisgyblaethol. Bydd y prosiect hwn o fudd i aelodau’r rhwydwaith EMPOWER, pobl sydd â phrofiad bywyd o endometriosis, ymchwilwyr rhyngddisgyblaethol, a phartneriaid polisi a’r trydydd sector ledled Cymru.
Rhwydwaith Proffesiynol Technegol Ymchwil (RTP) Prifysgol Caerdydd
– Dr Kieran Aggett, Prifysgol Caerdydd
Bydd sefydlu’r rhwydwaith hwn yn cryfhau ymwybyddiaeth o sut mae rolau RTP yn datblygu ymchwil ac yn mynd i’r afael â’r heriau parhaus sy’n ymwneud ag adnabod gyrfaoedd RTP. Mae’r rhwydwaith hwn yn gwasanaethu Gweithwyr Proffesiynol Technegol Ymchwil Prifysgol Caerdydd yn bennaf, gyda’r potensial i ehangu yn y dyfodol ar draws y sector addysg uwch ehangach yng Nghymru.
Encil Ysgrifennu Rhwydwaith ymchwilwyr Gyrfa Gynnar/Canol Gyrfa (EMCR) Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC)
– Dr Helen Pearson, Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) a Phrifysgol Caerdydd
Bydd y prosiect hwn yn cyflwyno encil ysgrifennu pwrpasol i gryfhau sgiliau ysgrifennu gwyddonol a hybu canlyniadau ymchwil i ymchwilwyr canser gyrfa gynnar/canol gyrfa. Bydd y cyllid yn cefnogi aelodau Rhwydwaith WCRC EMCR drwy ddarparu hyfforddiant ysgrifennu hygyrch o ansawdd da sydd wedi’i deilwra i’w hanghenion datblygu.
Datblygu Cymuned Ymarfer Ymchwil Fferylliaeth Cymru Gyfan
– Dr Sarah Brown, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae’r prosiect yn cefnogi diwylliant ymchwil fferylliaeth cadarnhaol a chynaliadwy drwy normaleiddio sgyrsiau sy’n ymwneud ag ymchwil, cryfhau cysylltiadau ymarfer-academaidd a dysg a rennir drwy sesiynau Clwb Cyfnodolyn misol. Bydd gweithwyr proffesiynol fferylliaeth a phartneriaid academaidd ledled Cymru yn elwa yn y dechrau, gyda chydweithio parhaus yn cefnogi budd tymor hwy i gleifion.
Rhwydwaith Cynhwysol Menywod i Ysgolheigion yn Adran y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd (WINS): Cynllun Peilot
- |Melinee Kazarian, Prifysgol Caerdydd
Dyma rwydwaith peilot sy’n mynd i’r afael â rhwystrau o ran rhywedd i ddatblygu ymchwil drwy fabwysiadu diwylliant cynhwysol sy’n cynnal momentwm ymchwil, hyder, ac arweinyddiaeth ar draws camau gyrfa. Mae’r rhwydwaith hwn ar agor i ymchwilwyr sy’n adnabod eu hunain fel menywod ac ymchwilwyr anneuaidd yn adran y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd.
Datblygu Niwrowyddoniaeth Dynol ledled Gorllewin a Gogledd Cymru
– Dr Eva Balgova, Prifysgol Aberystwyth
Bwriad y prosiect hwn yw mynd i’r afael â mynediad prin at rwydweithiau ymchwil cydweithredol mewn niwrowyddoniaeth dynol a seilwaith niwroddelweddu drwy sefydlu partneriaeth rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Bydd y rhaglen o fudd i ymchwilwyr sefydledig a rhai gyrfa gynnar, yn ogystal â chlinigwyr sy’n cynnal ymchwil ar hyn o bryd.
Rhaglen Mentora Preswyl Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil Rhyngwladol Abertawe ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig sydd o ethnig/hil lleiafrifol
– Lily Owens-Atkins, Prifysgol Abertawe
Gan rymuso hunaniaeth ymchwilwyr sydd wedi’i gwreiddio mewn profiadau bywyd, mae’r fenter hon yn mabwysiadu ymdeimlad (rhagofyniad tuag at ddod) ac yn galluogi cyfranogwyr i weld eu hunain fel cyfranwyr hanfodol mewn ecosystem ymchwil tecach, mwy cynhwysol a mwy trawsnewidiol. Bydd y prosiect hwn o fudd i Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig sydd o Hil/Ethnig Leiafrifol.
HEARD – Gwrando ar Bob Llais: Cyd-gynhyrchu Diwylliant Ymchwil Cynhwysol ac Amrywiol ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd ac Iechyd
– Julie Peconi, Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
– Bydd HEARD yn cryfhau diwylliant ymchwil yn y Rhwydwaith Tystiolaeth ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus a Newid yn yr Hinsawdd yng Nghymru drwy ymgorffori dulliau cynhwysol, wedi’u cyd-gynhyrchu sy’n mynd i’r afael ag effeithiau anghyfartal newid yn yr hinsawdd ar grwpiau ar yr ymylon a sicrhau bod eu lleisiau’n llywio dylunio ymchwil, cyflawni ymchwil a chanlyniadau ymchwil yr un mor gyfartal â phartneriaid. Bydd HEARD yn creu diwylliant ymchwil cynhwysol ac amrywiol yn Rhwydwaith Tystiolaeth ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus a Newid yn yr Hinsawdd i sicrhau bod canlyniadau sydd wedi’u cyd-greu yn berthnasol i bawb ac sydd o fudd i’r rhai â phrofiadau bywyd; pobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol; ymchwilwyr; ymarferwyr; a rhanddeiliaid polisi yng Nghymru a thu hwnt.
Dyfodol Cydweithredol: Rhwydwaith Diwylliant Ymchwil i Fenywod yn y Byd Academaidd Cyfreithiol yng Nghymru a Thu Hwnt.
– Stanislava Nedeva, Prifysgol Caerdydd
Mae’r Rhwydwaith hwn yn uno academyddion cyfreithiol ac yn creu mannau cydweithredol i wella gwybodaeth a rhannu profiadau a fydd yn hyrwyddo gwelededd ac yn herio diwylliannau ymchwil sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn. Mae ar agor i fenywod yn y byd academaidd cyfreithiol sydd ym mhob cam gyrfa.
Ysgrifennwch Nawr!
– Dr Elena D. Hristova, Prifysgol Bangor
Mae Ysgrifennwch Nawr! yn encil ysgrifennu dros yr haf sy’n darparu ugain sesiwn hanner diwrnod ar gyfer ysgrifennu, yng Nghaffi Caban, Brynrefail. Mae Ysgrifennu Nawr! yn benodol i academyddion benywaidd sydd â chyfrifoldebau rhoi gofal; mae’n hwyluso ysgrifennu yn ystod y dydd ac yn gwneud gyda’r nosau a phenwythnosau yn rhydd rhag gwaith academaidd dal i fyny.
Rhwydwaith YGG Prifysgol Aberystwyth; man cefnogol a chynhwysol i ymchwilwyr ffynnu
– Hannah Rees, Prifysgol Aberystwyth
Byddwn yn cynnal pedwar digwyddiad i ymchwilwyr Aberystwyth a fydd yn mynd i’r afael â’r heriau diwylliant ymchwil a ddaw i ran YGG. Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfleoedd i ryngweithio a chydweithio yn ogystal â chefnogi hyfforddiant, llesiant ac anghenion datblygu personol YGG Aberystwyth.
Elevate YGG FMHLS (Cyfadran Meddygaeth, Iechyd Gwyddor Bywyd): Ymchwil, Sgiliau a Chysylltiad
– Dr April Rees, Prifysgol Abertawe
– Bydd y prosiect hwn yn cryfhau diwylliant ymchwil ar draws Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd (FMHLS), Prifysgol Abertawe rhwng Chwefror ac Awst drwy sefydlu Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar ar draws y gyfadran sy’n mynd i’r afael â’r her greiddiol o unigedd YGG drwy fforymau a luniwyd ar y cyd, hyfforddiant sgiliau, a gweithgareddau cynhwysol i adeiladu cymuned. Dyluniwyd y prosiect ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar ar draws FMHLS (yn cynnwys ymchwilwyr PhD sydd wedi hen sefydlu, staff ymchwil tymor penodol, ac academyddion gyrfa gynnar) a fydd yn elwa’n uniongyrchol o gymuned well, cyfleoedd datblygu teg, a diwylliant ymchwil gryfach
Rhwydwaith Diwylliant Ymchwil Gogledd Cymru: Cryfhau Cydweithrediad Traws-sefydliadol a Thraws-sector ar draws Ffiniau
– Eranda Abeysinghe, Prifysgol Wrecsam
Bydd rhwydwaith diwylliant ymchwil sy’n canolbwyntio ar ogledd Cymru yn mynd i’r afael â gweithio’n dameidiog ar draws daearyddiaeth, cam gyrfa a sefydliadau drwy gynnal dau weithdy a luniwyd ar y cyd a dwy drafodaeth bord gron. Bydd hyn yn cefnogi ymchwilwyr gyrfa gynnar a chanol gyrfa, ymchwilwyr â nodweddion gwarchodedig, a staff mewn sefydliadau rhanbarthol yng Nghymru, yn ogystal â’r sector cyhoeddus yn cynnwys cynghorau, partneriaid trydydd sector a diwydiant, gan gynhyrchu podlediadau, blogiau ac allbynnau gweledol.
Rhwydwaith Ymchwil Sector Gwirfoddol Pobl Dduon (BVSRN): Ehangu Arweinyddiaeth Mwyafrif Byd-eang yn Niwylliant Ymchwil Cymru.
– Dr Edward Oloidi, Prifysgol De Cymru
Mae BVSRN yn dyrchafu cryfderau, arbenigedd ac arweinyddiaeth sefydliadau Sector Gwirfoddol Mwyafrif Byd-eang drwy gyd-greu fframwaith cydweithredol, llyfrgell dystiolaeth a chanllawiau sy’n ymgorffori rhagoriaeth ac ymarfer ymchwil teg wedi’u gwreiddio yn y gymuned ar hyd a lled Cymru. Bydd y rhwydwaith o fantais i sefydliadau Gwirfoddolwyr Mwyafrif Byd-eang (GMVs), ymchwilwyr prifysgol, llunwyr polisi ac ymchwilwyr llawr gwald sy’n ceisio cryfhau ymarfer ymchwil yng Nghymru sy’n deg ac sydd wedi’i wreiddio yn y gymuned.