Blog YGC: ‘Dad-drefedigaethu yng nghyd-destun Addysg Uwch Cymru’ gan Dr Ahmed Raza Memon

Mae Dr Ahmed Raza Memon yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn arbenigo mewn ymchwil ac addysgu ym maes dad-drefedigaethu, gan ganolbwyntio ar adeiladu arferion addysgegol wedi’u llywio gan fyfyrwyr. Mae’r awdur wedi cyhoeddi yn The Law Teacher, London Review of International Law ac International Journal of Law in Context, ac yn ymgynghorydd gyda’r cwmni ymgynghori llythrennedd wrth-hiliol MA Consultants. Mae e hefyd yn un o sylfaenwyr ac yn olygydd Decolonial Dialogues.

Yn y blog byr hwn, rwy’n myfyrio ar fy mhrofiad ymarferol o ddefnyddio ymagweddau addysgegol sy’n seiliedig ar ymchwil, ac o gymryd rhan mewn gwaith ‘dad-drefedigaethu’ yng nghyd-destun Cymru. Rwyf am ganolbwyntio ar fy ngwaith ym Mhrifysgol Caerdydd a’r modd y mae wedi cael ei siapio gan ymchwil yn y gymuned sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, yn ogystal â’m profiadau fel ymgynghorydd ac ysgolhaig ym maes dad-drefedigaethu Addysg Uwch (AU). Mae’r ymagwedd hon yn mynd tu hwnt i’r pryderon ‘cyfreithiol’ a ‘busnes’ arferol a gysylltir yn aml â gwaith cydraddoldeb.

Trefnais weithdy a gefnogwyd gan Gynllun Grantiau Gweithdai Ymchwil Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Arweiniwyd y gweithdy ar y cyd â Dr Riadh Ghemmour o MA Consultancy. Daeth â rhanddeiliaid ynghyd, gan gynnwys staff academaidd a phroffesiynol sy’n gweithio ar ymgyrchoedd gwrth-hiliaeth yn y brifysgol, i drafod ymarfer a gweithrediad ymdrechion i ddad-drefedigaethu. Yn benodol, canolbwyntiai’r gweithdy ar bwysigrwydd canfyddiad a chyfranogiad myfyrwyr fel rhan o unrhyw ymdrechion a mentrau o’r fath i ddad-drefedigaethu. Roedd y gweithdy hefyd yn gyfle imi gyflwyno adroddiad ymchwil ragarweiniol a ysgrifennais ar y cyd â Dr Luisa Calvete Portela Barbosa fel tystiolaeth ac asesiad ysgolheigaidd o safbwynt myfyrwyr ynghylch dad-drefedigaethu a hiliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae’r adroddiad yn adlewyrchu ein seiliau deallusol a gwleidyddol mewn damcaniaeth ffeministiaeth Ddu, dad-drefedigaethu, a damcaniaeth hil feirniadol. Mae’r ymagweddau damcaniaethol hyn yn pwysleisio na ellir priodoli profiadau o ymyleiddio i un categori yn unig, boed y categori hwnnw’n hil, yn ddosbarth, yn rhywedd neu’n anabledd. Yn hytrach, bydd profiadau o’r fath yn aml yn rhyng-gysylltiedig ac yn croestorri ei gilydd. Mae profiad hiliol felly’n brofiad a all fod yn gysylltiedig â rhywedd, h.y. mae profiad menywod Mwslimaidd o Islamoffobia yn unigryw: mae’r hiliaeth ‘ryweddol’ yn ymwneud yn benodol â’r ddealltwriaeth o Islam a’r canfyddiad penodol o fenywod Mwslimaidd. Mae’r safbwyntiau damcaniaethol hyn yn mynd y tu hwnt i ddealltwriaeth ‘gyfreithiol’ o gydraddoldeb lle edrychir ar bob profiad yn ynysig, ac yn lle hynny’n canolbwyntio ar yr esboniad mwy cymhleth sydd gan gymunedau o’u profiadau.  Gellir darllen yr adroddiad llawn ar y wefan hon: https://sites.google.com/view/decolonisingcardiffreport/home 

Roeddwn i wedi gwneud cais am gynllun grant Cymdeithas Ddysgedig Cymru i gefnogi cyfres o weithdai ar ‘Ddad-drefedigaethu’r Brifysgol’ a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2022. Bryd hynny, roedd trafodaethau ar ddad-drefedigaethu’r cwricwlwm newydd ddechrau yng Nghaerdydd, ychydig ar ôl y foment Mae Bywydau Du o Bwys. Roedd y foment neilltuol hon yn dyngedfennol ar gyfer ymateb sefydliadol, wrth i lofruddiaeth George Floyd wedi’i hysgogi gan hiliaeth gan swyddogion heddlu yn yr Unol Daleithiau arwain at ymateb byd-eang, ac at ofyn cwestiynau o’r newydd ynghylch trais hiliol yn erbyn pobl dduon. Yn y DU, yn enwedig yn Lloegr, roedd mudiadau dad-drefedigaethu presennol eisoes wedi cael amrywiaeth o ymatebion, yn amrywio rhwng canolfannau ymchwil wedi’u harwain gan staff (fel yr Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd), prosiectau cydweithredol rhwng staff a myfyrwyr (fel Addysgeg er Cyfiawnder Cymdeithasol gan Brifysgol San Steffan a Phrosiect Dad-drefedigaethu Prifysgol Caint) ac yn fwy eglur mewn mudiadau wedi’u harwain gan fyfyrwyr a oedd yn rhan o’r undebau myfyrwyr swyddogol ond hefyd yn annibynnol ar y brifysgol. Yn dilyn moment BLM, roedd angen i sefydliadau ymateb mewn modd mwy cadarn, gan fod y cwestiwn ‘a yw’r brifysgol yn hiliol’ yn datblygu’n un o’r prif gwestiynau pwysig – a oedd hefyd wedi’i drafod yn rhaglen ddogfen Linda Adey i’r BBC, ‘Is Uni racist’[1]. Yn yr un rhaglen ddogfen, amlygwyd Prifysgol Caerdydd fel y brifysgol â’r trydydd nifer fwyaf o adroddiadau o gwynion am hiliaeth.

Yn y cyd-destun hwn, roedd hi’n ymddangos yn amserol a phwysig cwblhau prosiect a ddefnyddiai Brifysgol Caerdydd fel astudiaeth achos i asesu dad-drefedigaethu AU, yn benodol yng nghyd-destun Cymru. Drwy grant Cymdeithas Ddysgedig Cymru bu modd imi hefyd lunio cais hirach am gyllid pellach drwy gronfa Cyflymu Effaith AHRC-ESRC, gyda’m cydweithiwr Luisa Calvete Portela Barbosa. Er inni weld llawer o ymdrechion cymunedol, yn arbennig gan Gyngor Hil Cymru, EYST Cymru a Chynghrair Hil Cymru, yr hyn a oedd ar goll oedd astudiaeth gyfannol ar lawr gwlad o’r hyn y mae’n ei olygu i gynnal ymchwil ‘gymunedol’ ochr yn ochr â myfyrwyr, a chyda myfyrwyr ynghylch eu canfyddiad. Mae’r ffocws ar brofiad byw, a bwysleisir yn y modelau gorau o ddulliau a gwaith ymchwil ‘dad-drefedigaethu’, yn aml ar goll mewn addewidion sefydliadol ynghylch dad-drefedigaethu sydd fel pe baent yn canolbwyntio’n syml ar gwricwlwm neu ‘gynrychiolaeth’. Yn bennaf oll, mae hefyd angen pwysleisio nad pwrpas ‘dad-drefedigaethu’ o reidrwydd yw sicrhau canlyniad terfynol, ond ymgysylltu mewn modd ystyrlon â theimladau a chanfyddiadau cymuned o fyfyrwyr ynghylch diwylliant y brifysgol, a’r modd y mae’r gymuned yn llywio’r diwylliant hwnnw. Er mai’r ffocws cyffredinol yw myfyrwyr o liw, mae gwersi am arferion dad-drefedigaethu ac ystyriaeth eang o hynny’n cynnwys strwythurau gormesol sy’n croestorri (fe rhywedd, rhywioldeb, dosbarth, anabledd ac ati).

Dan arweiniad ffeministiaeth Ddu, damcaniaeth hil feirniadol, a methodoleg ddad-drefedigaethol, mae ein hadroddiad yn datgelu lefel uchel o ddiffyg ymddiriedaeth, o unigedd, o’r ymdeimlad o gael eu defnyddio at ddibenion heblaw er eu budd eu hunain, a’r gred bod diwylliant y brifysgol yn ‘Ewro-ganolog.’ Mae’r adroddiad llawn yn manylu ar y myfyrdodau hyn, ond mae’n bwysig cydnabod nad oedd y fethodoleg na’r ymagwedd ddamcaniaethol a fabwysiadwyd o reidrwydd wedi’u hystyried gan ymagweddau sefydliadol at wrth-hiliaeth a dad-drefedigaethu mewn addysg uwch. Er enghraifft, mae meithrin ymddiriedaeth drwy greu gofod egwyddorol, drwy ildio lle i fyfyrwyr gael adrodd eu naratifau, tryloywder, ac i ryw raddau, bregusrwydd mewn gofod grŵp anffurfiol oll yn elfennau pwysig i wneud gwaith ochr yn ochr â myfyrwyr fel ‘cymuned’ ac fel ‘cynhyrchwyr gwybodaeth.’  

Er bod sefydliadau addysg uwch yn wynebu pryderon ariannol difrifol, agwedd bwysig ar wneud y gwaith hwn yw cynnal, adeiladu a dangos bod dealltwriaeth glir o’r hyn y mae ‘cymuned’ yn ei olygu mewn gwirionedd yng nghyd-destun y brifysgol. Yn amlach na pheidio, bydd pryderon busnes fel cyfyngu ar niwed i enw da yn dal i ymddangos fel y ffactor sy’n sbarduno llawer o ymatebion ‘gwrth-hiliol’ sefydliadau. Er mwyn symud y tu hwnt i addewidion, mae angen gweddnewid y modd rydym yn ymdrin â chwestiynau ynghylch defnyddio adnoddau y mae llawer o staff o liw wedi’u creu ar draws disgyblaethau, mewn perthynas â’r cwricwlwm a chymorth i fyfyrwyr. Yn y pen draw, mae angen i aelodau staff ac arweinwyr perthnasol mewn sefydliadau ystyried yn greadigol a ydynt yn wirioneddol o ddifri ynghylch ‘dad-drefedigaethu’ a chydraddoldeb, neu ai ymateb cysylltiadau cyhoeddus niwlog a byrhoedlog sy’n gyfystyr â rhoi tic yn y bocs fydd hynny o hyd. Mae ein hadroddiad annibynnol yn rhoi’r pryderon hyn yn eu cyd-destun ac yn cyfeirio at gyfarwyddiadau/arferion ystyrlon a newid ffocws. Yn yr adroddiad, amlygir mai un o’r prif agweddau’n gysylltiedig â gweithredu unrhyw fenter dad-drefedigaethu yw creu amgylcheddau egwyddorol er mwyn creu partneriaethau ystyrlon rhwng staff a myfyrwyr, ynghyd â galluogi myfyrwyr yn y gofodau hyn i gyflwyno ac adeiladu syniadau o’u profiadau byw mewn modd buddiol. Rhan bwysig o gefnogi’r agwedd hon yw creu rhaglenni hyfforddi a mentora da ar gyfer myfyrwyr o liw sy’n rhoi sylw i’r anghenion penodol sy’n gysylltiedig â’u profiad bywyd. Yn bwysicach fyth dylai’r aelodau staff sy’n creu’r rhaglenni hynny fod yn hyddysg mewn llythrennedd hiliol, h.y. deall a chydnabod effaith hiliaeth ar fyfyrwyr a’u bywyd yn y brifysgol. Er mai Prifysgol Caerdydd yw’r cyd-destun ar gyfer y gwersi hyn, maent yn fuddiol i brifysgolion addysg uwch eraill yng Nghymru.


[1] https://www.bbc.co.uk/bbcthree/article/1c314b3c-c895-4566-9b92-d9d3a1acb079

yn ôl i'r brig