Aelodau o Rwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar CDdC ymhlith aelodau newydd Academi Ifanc y DU
Mae pedwar ymchwilydd o Gymru ymhlith aelodau newydd Academi Ifanc y DU (UKYA).
Y pedwar a fydd yn ymuno â’r 141 o ddarpar arweinwyr sydd eisoes yn aelodau o’r UKYA yw:
- Dr Katharine Young, Darlithydd Dulliau Ymchwil Dwyieithog ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd;
- Jamie Nash, Gwyddonydd Ymchwil Ôl-ddoethurol gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre;
- Charith Perera, Darllenydd yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg Prifysgol Caerdydd.
Mae Katharine Young a Jamie Nash yn aelodau o’n Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar.
Dewiswyd aelodau newydd Young Academy am eu bod yn rhagori yn eu meysydd eu hunain, o gadwyni cyflenwi ffasiwn byd-eang, deallusrwydd artiffisial (AI) i ddarganfod cyffuriau, i bediatreg ac afiechydon heintus.
Mae carfan 2026 yn cynnwys saith aelod o’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol, sy’n codi eu cynrychiolaeth i draean o gyfanswm yr aelodau. Daw 18 y cant arall o’r aelodau newydd o gefndiroedd busnes, y sector cyhoeddus a chyfathrebu.
Yn ôl Linda Oyama, cynrychiolydd Grŵp Gweithredol UK Young Academy: “Wrth i ni lunio Cynllun Strategol UK Young Academy ar gyfer 2023 i 2028, un genhadaeth graidd oedd dod â lleisiau amrywiol at ei gilydd i rannu syniadau a gwella’r broses o wneud penderfyniadau, yn ogystal â datblygu, cysylltu a hybu talent pobl ifanc yn gynnar yn eu gyrfa.
Carfan eleni sydd â’r nifer fwyaf o aelodau newydd sy’n dod o leoliadau anacademaidd, mwy nag unrhyw garfan UK Young Academy hyd yma. Drwy barhau i ddod ag aelodau at ei gilydd o gefndiroedd amrywiol, byddwn yn sicrhau ein bod ni’n cyfuno a gwreiddio disgyblaethau ar draws ein gwaith – bydd hyn yn amhrisiadwy wrth i ni ddwysau ein gwaith gyda sectorau anacademaidd yn benodol.”
Rydym hefyd yn cydnabod bod gyrfaoedd ystyrlon yn aml yn datblygu drwy amryw o droadau annisgwyl, ac rydym yn parhau i ddathlu llwybrau gyrfa hyblyg gyda’r garfan newydd hon.”
Ddiwedd y mis, bydd yr aelodau yn cael Diwrnod Cynefino ac yn cyfarfod â’r holl aelodau eraill – dyma fydd eu cyfle cyntaf i gysylltu a rhannu dyheadau.
Bydd yr aelodau newydd yn dechrau yn eu swyddi ddydd Llun 23 Mawrth 2026, a byddant yn aelodau am bum mlynedd.
Yn aelod newydd sydd â phrofiad mewn diwydiant a’r byd academaidd, dywedodd Takunda Chingonzo,
“Mae gwaith rhyngddisgyblaethol yn ddrych i holl realiti y byd yr ydym ni’n byw ynddo heddiw. Byd ble mae awydd i drawsnewid, a ble mae technoleg newydd yn tarfu mwy a mwy…
Cefais fy nenu at UK Young Academy oherwydd mae’n dod ag arweinwyr ynghyd ar draws meysydd disgyblaeth sy’n rhannu gweledigaeth am y dyfodol… I mi, mae Young Academy yn cynnull ac yn rhoi llwyfan i ddysgu ar y cyd a gweithredu mewn partneriaeth.”
Yn ôl Christine Lehnen, aelod newydd a Darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Exeter:
“Ymunais ag UK Young Academy oherwydd mae arfer greadigol yn dysgu math o ddeallusrwydd sydd ei hangen ar frys heddiw. Y gallu i dalu sylw manwl, dros gyfnod hir.
A minnau’n ysgrifennu, mae fy ngwaith yn dechrau drwy sylwi: edrych yn agos, penderfynu beth sy’n bwysig, a dychmygu pethau gwahanol. Mewn cyfnod pan fo pethau’n tynnu ein sylw ac yn siapio ein bywydau a’n sefydliadau drwy’r adeg, nid moethusrwydd mo’r sylw dyfeisgar hwn. Hebddo, ni allwn ni hyd yn oed adnabod pa gwestiynau sydd werth eu holi, ac sydd werth ymchwilio iddyn nhw.
Rwy’n gobeithio cyfrannu’r deallusrwydd artistig yma a helpu i greu llefydd ble gall yr aelodau bwyllo, canolbwyntio a meddwl yn feiddgar ar draws ffiniau disgyblaethol am yr hyn sydd wirioneddol yn bwysig heddiw.”
Ychwanegodd Finbarr Toesland, aelod newydd a newyddiadurwr hawliau dynol:
“Mae gohebu wedi dangos i mi pa mor aml mae syniadau pwysig yn aros yn sownd mewn seilo. Ymunais ag UK Young Academy oherwydd roeddwn i eisiau bod yn rhan o chwalu hynny. Anaml y gwnewch chi ddod ar draws rhywle ble mae pobl broffesiynol o wahanol feysydd yn cael eu hannog i ddysgu oddi wrth y naill a’r llall mewn ffordd gynaliadwy, ac roeddwn i eisiau bod yn rhan o hynny”.