CDdC i gefnogi arweinwyr ymchwil canol gyrfa mewn rhaglen Cymru gyfan newydd
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ehangu ei gwaith ag academyddion canol gyrfa drwy gefnogi rhaglen newydd a fydd yn rhoi cyfle i ymchwilwyr yng Nghymru ddatblygu eu sgiliau arwain.
Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth Ymchwil Prifysgolion Cymru (WURLP) yn cael ei threfnu gan brifysgolion Bangor ac Aberystwyth ar y cyd â’r Gymdeithas, a fydd yn cyfrannu at gydlynu a chyflwyno’r rhaglen. Mae ar gyfer pobl sydd eisoes â chyfrifoldebau arwain ymchwil.
Yn dystiolaeth o’i heffaith, roedd adborth gan gyn-gyfranogwr yn dangos yn glir bod cymryd rhan yn WURLP wedi bod yn hanfodol i’w helpu i gyrraedd ei rôl arwain ymchwil bresennol yn y sefydliad.
Heb yr arweinyddiaeth ymchwil sy’n cael ei mabwysiadu mewn prifysgolion, ni fydd y potensial i’n hymchwil wneud gwahaniaeth i gymdeithas ac economi Cymru yn cael ei wireddu’n llawn. Dyma pam mae’n hynod bwysig ein bod ni’n meithrin a hyfforddi ein harweinwyr ymchwil.
Yr Athro Helen Fulton FLSW, Is-Lywydd, y Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Drwy ganolbwyntio ar academyddion canol gyrfa, mae’n ychwanegu at ein gwaith presennol gydag ymchwilwyr gyrfa gynnar. Mae felly’n nodi datblygiad pwysig yn y gwaith yr ydym ni’n ei wneud i helpu i wella sefyllfa ymchwil Cymru.
Bydd gan y Rhaglen bum sesiwn rhwng mis Chwefror a mis Mehefin. Roedd y gyntaf o’r rhain yn cynnwys cyfraniadau gan ddau Is-ganghellor Cynorthwyol Ymchwil o Brifysgolion yng Nghymru, yr Athro Angela Hatton (Prifysgol Aberystwyth) a’r Athro Helen Griffiths FLSW (Prifysgol Abertawe), ac wedi denu 50 aelod staff o bob cwr o Gymru. Dyma reswm clir dros gynnal y rhaglen eto eleni:
- Ymchwil Blaenllaw mewn Prifysgolion yng Nghymru
- Cyfathrebu Arweinyddiaeth mewn Timau Ymchwil Amrywiol
- Deall y Sefyllfa Ymchwil ac Effaith
- Gyrfaoedd Amrywiol mewn Ymchwil – Datblygu eich hun a phobl eraill
- Gwella Arweinyddiaeth Ymchwil – y camau nesaf