Croeso i’r aelodau newydd o’n Cyngor, Pwyllgorau a’n Grwpiau

Rydym yn falch o groesawu’n ffurfiol pob aelod newydd sydd wedi cael eu hethol i’n Cyngor, Pwyllgorau a’n Grwpiau, a ddechreuodd eu cyfnodau yn ein CCB 2025 ym mis Mai. Cafodd cyfanswm o 43 o aelodau newydd eu hethol, gyda 9 yn ymuno â’r Cyngor. Mae cyfarfodydd cyntaf eisoes wedi cael eu cynnal ar gyfer y Cyngor a’r rhan fwyaf o’r Pwyllgorau.

Rwy’n credu bod Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn rhan hanfodol o gymdeithas sifil Cymru, ac yn llais hanfodol dros werth gwybodaeth a dysgu yng Nghymru. Ar adeg pan mae llawer o heriau yn ein hymdrech am wybodaeth, rwy’n gwerthfawrogi’r cyfle i gyfrannu at lunio gweithgareddau’r Gymdeithas.

Yr Athro Karin Wahl-Jorgensen

Mae gan ein Cyngor 21 o aelodau ar hyn o bryd, ac mae gennym 93 0 aelodau ar draws yr holl baneli a grwpiau llywodraethol. Mae gennym gynrychiolaeth fenywaidd gref drwy gydol y rhain, sef 55%.

Mae EDI yn debyg o fod yn bwysicach nag erioed heddiw. Mae grwpiau lleiafrifol yn y DU yn cael eu hymyleiddio a dan anfantais yn fwy nag erioed. Mae gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru y cyfle i fynd yn erbyn y duedd bresennol.

Yr Athro Sheila Hunt

Rydym yn estyn ein diolch diffuant i’r rheiny a gwblhaodd eu cyfnodau neu a gamodd i lawr yn CCB 2025.

Roeddwn i eisiau ymuno â’r Cyngor a Phwyllgor Adnoddau Dynol Cymdeithas Ddysgedig Cymru, i gefnogi ei chenhadaeth i hyrwyddo rhagoriaeth, meithrin dysgu rhyngddisgyblaethol, a datblygu bywyd deallusol mwy cynhwysol ac actif yng Nghymru.

Yr Athro Pedr ap Llwyd

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch fynd i’n tudalen Cyngor neu i’r dudalen Pwyllgorau a Grwpiau wedi’i diweddaru isod.

yn ôl i'r brig