Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru roi blaenoriaeth i ymchwil ac arloesi, meddai Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Rhaid i Gymru fanteisio mwy ar ymchwil ac arloesedd rhagorol ei sefydliadau addysg uwch a chydnabod mai buddsoddiad yw ariannu ymchwil, nid cost.

Dyma’r neges o gyflwyniad Cymdeithas Ddysgedig Cymru i alwad Llywodraeth Cymru am gyflwyniadau ar ddyfodol addysg drydyddol.

Mae’n dadlau bod ymchwil ac arloesi’n hollbwysig i dwf economaidd, y GIG, a chynnydd cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Yn ogystal, byddai blaenoriaethu anghenion ymchwil ac arloesedd o Gymru’n benderfyniad poblogaidd, gyda’r cyhoedd yng Nghymru ymhlith y mwyaf awyddus o ranbarthau’r DU i weld gwleidyddion yn rhoi mwy o sylw i wyddoniaeth ac arloesedd (61%).

Mae’r cyflwyniad yn gwneud pedwar prif argymhelliad:

  • Blaenoriaethu’r sector ymchwil ac arloesi hanfodol
  • Penodi Gweinidog dros Ymchwil ac Arloesi
  • Buddsoddi mewn ymchwil, ac adolygu’r model ariannu prifysgolion
  • Gwneud defnydd o Academi Genedlaethol Cymru

Mae’n dadlau bod angen i Gymru wneud llawer mwy i gydnabod a hybu effaith economaidd ei phrifysgolion, gan gyfeirio at dystiolaeth sy’n dangos sut bydd angen dros 400,000 yn fwy o raddedigion yng Nghymru i ddiwallu’r bylchau sgiliau a gweithlu. Gall y buddion a ddaw o sector ymchwil sydd wedi’i ariannau’n dda dalu ar ei ganfed, gyda phob £1 o gyllid ymchwil ac arloesi cyhoeddus yn cynhyrchu £2 mewn buddsoddiad preifat, a £7 mewn buddion economaidd.

Gyda 70% o ymchwil prifysgolion Cymru’n cael effaith uniongyrchol yng Nghymru, mae’r cyflwyniad yn rhestru sut mae ymchwil benodol o Gymru’n cael effaith uniongyrchol ar draws holl bortffolios allweddol y llywodraeth. Mae hyn yn amrywio o ymchwil dementia flaenllaw i ddatblygu technoleg lled-ddargludyddion o’r radd flaenaf, cynaeafu cnydau’n robotig a datblygu Deddf Iaith Arwyddion Prydain Cymru.

“Mae’r cyflwyniad hwn yn ddogfen gynhwysfawr a arweinir gan dystiolaeth,” dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure FLSW, cadeirydd grŵp y Cymrodyr fu’n goruchwylio’r cyflwyniad.

“Mae’n dangos pam mae’n ofynnol bod Llywodraeth nesaf Cymru yn rhoi blaenoriaeth i ymchwil ac arloesi er mwyn i Gymru ffynnu. Byddai gwneud fel arall yn andros o hunan-niweidiol.

“Mae ein cyflwyniad hefyd yn dangos gwerth gallu tynnu ar brofiad cyfunol ein Cymrodyr. Rydym yn barod i gefnogi’r llywodraeth nesaf i wireddu’r buddion ymchwil i Gymru.”

yn ôl i'r brig