Datblygu ein heffaith mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Williamson

Asesu effaith ac effeithiolrwydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw nod ymarferwr effaith llawrydd newydd, a fydd yn gweithio ar raglen uchelgeisiol o waith ar gyfer y Gymdeithas dros y flwyddyn nesaf.

Bydd rôl Leon Quinn o fewn Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cael ei darparu mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Williamson, elusen y mae ei phrif genhadaeth yn hyrwyddo amgylcheddau iach, cymunedau iach a bwydydd iach.

Bydd Leon yn dylunio ac yn datblygu ffyrdd o fonitro, gwerthuso ac arddangos effaith y Gymdeithas ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys ffocws ar sut mae ein heffaith yn cyd-fynd ag agenda ‘Planed Iach, Pobl Iach’ Ymddiriedolaeth Williamson. “Rwyf yn edrych ymlaen yn arw at weithio gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru ac Ymddiriedolaeth Williamson ar rywbeth sydd â’r potensial i fod yn gydweithrediad sy’n torri tir newydd,” meddai Leon.

Ynghyd â mesur ein heffaith yn y gorffennol a’n heffaith parhaus, bydd hefyd yn cefnogi’r Gymdeithas i wneud gwelliannau yn y dyfodol. 

“Rydym yn falch iawn o gael cydweithio â Chymdeithas Ddysgedig Cymru ar y cyfle hwn. Yn ein barn ni, mae effaith yn fwy na chyflawni nodau neu gwrdd ag amcanion yn unig. Mae’n cynnwys trawsnewid yr amgylchedd, sicrhau bwyd iach a datblygu cymunedau iach – rhywbeth yr ydym yn credu y bydd y prosiect hwn yn ein helpu i’w gynnwys ym mhopeth a wnawn.”

– Ymddiriedolaeth Williamson

“Mae hwn yn gyfle cyffrous a difyr,” meddai Dr Fiona Dakin, Pennaeth Polisi Cyhoeddus y Gymdeithas.

“Mae ffocws Ymddiriedolaeth Williamson ar iechyd amgylcheddol ac unigolion a’n prif genhadaeth i gefnogi creu polisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn cyd-fynd pan ddaw i faterion allweddol fel newid yn yr hinsawdd, iechyd, a’r economi.

“Bydd y rôl newydd hon yn ein galluogi i fesur sut mae ein gwaith yn gynhwysol a theg mewn ffyrdd sy’n sicrhau bod cymunedau Cymru’n elwa o’r hyn a wnawn.”

Rydym hefyd yn falch o gael cydweithio ag Ymddiriedolaeth Williamson i gyflwyno ein cynllun grant ‘Lleisiau Ymddiriedig’ newydd.

yn ôl i'r brig