Ein medalau a’n gwobrau newydd: rhannu’r straeon llwyddiannus o arloesedd ac ymchwil yng Nghymru
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi lansio ystod newydd o fedalau a gwobrau i dynnu sylw at ymchwilwyr ac arloeswyr anhygoel Cymru.
Mae gan Gymru lawer o bobl ddychmygol, ddyfeisgar a chreadigol sy’n defnyddio’r ddawn hon i gynnal ymchwil hanfodol yn ei diwydiannau, ei phrifysgolion a’i sectorau cyhoeddus ac elusennol. Ein hymchwilwyr a’n harloeswyr, yn y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau a meddyginiaeth, fydd yn gyrru llesiant a llwyddiant Cymru yn y dyfodol.
Mae angen i Gymru wneud mwy i’w cydnabod nhw a’u gwaith, ac i rannu’r straeon am eu cyflawniadau cyn belled a lleted â phosibl. Mae ein medalau a’n gwobrau blynyddol yn gwneud hynny.
Rydym wedi cyflwyno medalau ers 2016 i bobl ar bob cam o’u gyrfaoedd ymchwil. Eleni, wrth i ni ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, rydym yn lansio set newydd sbon o fedalau a gwobrau, pob un ohonynt wedi’u henwi ar ôl ffigyrau arloesol o orffennol Cymru. Dyma ein ffordd ni o dynnu sylw at yr ystod lawn o ymchwil ac arloesi cyffrous sy’n digwydd yng Nghymru, a’r effaith a gaiff.

Mae’r medalau a’r gwobrau wedi’u henwi ar ôl rhai o arloeswyr pwysicaf Cymru
Byddwn yn cyflwyno deuddeg medal a gwobr wahanol dros gyfnod o ddwy flynedd, chwech ohonynt eleni (ac wedi hynny yn 2028), gyda’r chwech nesaf yn cael eu dyfarnu gyntaf yn 2027 (a phob yn ail flwyddyn wedi hynny).
Cawsant eu henwi ar ôl rhai o ffigyrau hanesyddol mwyaf anhygoel Cymru, pob un ohonynt yn arloeswyr yn eu meysydd, yn aml yn llwyddo er gwaethaf popeth. Rydym yn hyderus y bydd ein henillwyr medalau a gwobrau yn cyfrannu yn eu ffyrdd eu hunain i hanes arloesi yng Nghymru a bod yn rhan o stori ein llwyddiannau yn y dyfodol.
Mae bob un o’r medalau a’r gwobrau newydd yn dod gyda darlun trawiadol gan yr artist o Gymru, ‘Sketchy Welsh’.

Enwebu tîm neu unigolyn: proses ar-lein syml a chyflym
Am y tro cyntaf, mae timau, yn ogystal ag unigolion, yn gymwys. Gall unrhyw un, neu unrhyw sefydliad, enwebu unigolyn neu dîm i dderbyn un ohonynt, gan ddefnyddio ffurflen ar-lein syml a chyflym.
Gellir enwebu hyd at 1 Mehefin, gyda’r derbynwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo arbennig yn nes ymlaen yn yr hydref.
Manylion yr holl wobrau a medalau
Dyfarniadau Effaith
- Gwobr Arglwyddes Rhondda am Gyflawniad Eithriadol (dyfarnwyd gyntaf yn 2026)
Mae’r wobr hon, a enwyd ar ôl y swffragét a’r ddiwydianwraig Margaret Mackworth, yn cydnabod cyflawniadau rhagorol mewn unrhyw faes ymchwil neu arloesi. - Gwobr yr Athro Millicent Mackenzie am Ddatblygiad EDI mewn Bywyd Academaidd neu Broffesiynol (dyfarnwyd gyntaf yn 2026)
Enwyd y wobr hon ar ôl Athro prifysgol benywaidd cyntaf Cymru ac fe’i dyfernir i dîm neu unigolyn sy’n eirioli dros neu’n ymgorffori Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI). - Gwobr Frances Batty Shand am Effaith Ymchwil neu Arfer Proffesiynol (dyfarnwyd gyntaf yn 2027)
Dyngarwraig ac ymgyrchydd elusennol a sefydlodd Sefydliad y Deillion Caerdydd oedd Frances Batty Shand. Mae’r wobr hon yn ddiweddarach, yn cydnabod tîm neu unigolyn sydd wedi cael effaith y tu hwnt i gwmpas eu gwaith neu ddisgyblaeth. - Gwobr Aneurin Bevan am Ragoriaeth mewn Cydweithio (dyfarnwyd gyntaf yn 2027)
Mae’r wobr hon, a enwyd ar ôl yr AS oedd yn brif bensaer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn cydnabod cydweithio ar draws timau neu sefydliadau.
Medalau Gyrfa Sefydledig
- Medal Gwen John (dyfarnwyd gyntaf yn 2026)
Mae’r fedal hon, a enwyd ar ôl yr arlunwraig o fri, ar gyfer rhywun sy’n gweithio yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau. - Medal Alfred Russel Wallace (dyfarnwyd gyntaf yn 2026)
Mae’r fedal ar gyfer rhywun sy’n gweithio mewn Biowyddorau a Meddygaeth. Datblygodd Wallace y syniad o ddetholiad naturiol yr un pryd ac yn annibynnol o Charles Darwin. - Medal Megan Lloyd George (dyfarnwyd gyntaf yn 2027)
Enwyd y fedal hon ar ôl cyn Aelod Seneddol benywaidd cyntaf Cymru ac mae’n dathlu cyfraniadau sylweddol i’r ddisgyblaeth Gwyddorau Cymdeithasol gan unigolion penodol sy’n gweithio mewn ymchwil neu arloesi. - Medal William Menelaus (dyfarnwyd gyntaf yn 2027)
Mae’r fedal hon, a noddwyd gan SWIEET, yn dathlu cyfraniadau sylweddol i’r ddisgyblaeth Peirianneg, Gwyddorau Ffisegol a Mathemateg ac fe’i henwyd ar ôl y peiriannydd a’r gweithgynhyrchwr haearn a dur.
Medalau Gyrfa Gynnar
Dyfernir Medalau Dillwyn, sy’n dod gyda gwobr o £500, i ymchwilwyr gyrfa gynnar ac fe’u henwyd ar ôl y teulu enwog a wnaeth gyfraniadau pwysig i wyddoniaeth a thechnoleg ers cenedlaethau.
Yn 2026, byddwn yn dyfarnu Medalau Dillwyn ar gyfer Gwyddorau Cymdeithasol a Pheirianneg, Gwyddorau Ffisegol a Mathemateg.
Yn 2027, bydd y medalau ar gyfer y Celfyddydau a’r Dyniaethau, a Biowyddorau a Meddygaeth yn cael eu dyfarnu hefyd.