Cofio John Heywood Thomas FLSW

9 Tachwedd 1926 – 6 Ebrill 2025

Un o ddiwinyddion mwyaf nodedig ei genhedlaeth oedd John Heywood Thomas a weithiodd mewn pedair prifysgol: Durham, Manceinion, Nottingham a Phrifysgol Cymru, ac a wnaeth ei enw trwy ddehongli syniadaeth dau o feddylwyr crefyddol mwyaf pwysfawr yr ugeinfed ganrif, Søren Kierkegaard a Paul Tillich. Er iddo dreulio bron y cwbl o’i yrfa yn Lloegr, cyfrannodd at astudiaethau athronyddol a diwinyddol yng Nghymru gan gyhoeddi yn rheolaidd yn Gymraeg.

Fe’i ganed yn Llwynhendy, Sir Gȃr, ar 9 Tachwedd 1926 yn un o bedwar plentyn i of, David Thomas ac Ann, ei wraig, a’i addysgu yn ysgol y pentref ac Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Llanelli. Aeth oddi yno i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth a graddio mewn Athroniaeth yn 1947 ac ymlaen i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin gan ennill clod arbennig mewn Athroniaeth Crefydd ac Athrawiaeth Gristnogol yn ngradd y BD. O Gaerfyrddin enillodd ysgoloriaeth i astudio ym Mhrifysgol Caer-grawnt, ac o dan gyfarwyddyd H. H. Farmer, yr Athro Norris-Hulse mewn Diwinyddiaeth, cychwynnodd ar raglen ymchwil ar Kierkegaard, y meddyliwr o Ddenmarc sy’n cael ei ystyried yn un o dadau Dirfodaeth (Existentialism), yr athroniaeth sy’n rhoi pwyslais mawr ar ‘naid ffydd’ a dilysrwydd yr ymateb dynol iddo. Fe’i etholwyd yn Gymrawd Ymddiriedolaeth Swenson-Kierkegaard yn ddiweddarach a’i galluogodd i fynd i Copenhagen i barhau gyda’i efrydiau. Ffrwyth y cyfnod hwn oedd y gyfrol arloesol Subjectivity and Paradox: A Study of Kierkegaard (1957).

Ordeiniwyd ef yn weinidog Annibynnol yn ei fam-eglwys, Capel y Bryn, Llanelli, yn 1952, gan wybod mai addysgwr diwinyddol yn hytrach na bugail cynulleidfa fyddai natur ei weinidogaeth. Wedi ennill Cymrodoriaeth Mills i astudio yn yr Union Seminary, Efrog Newydd, yn 1952-3, ei gyfarwyddwr oedd yr Almaenwr Paul Tillich a oedd wedi ffoi i America yn y 1930au i osgoi gormes y Natsïaid. Fel Kierkegaard, athronydd dirfodol oedd Tillich, ac mewn cyfres o astudiaethau blaengar arno, dangosodd y Cymro wendidau ei gyfundrefn yn ogystal ȃ’i chryfderau, ac erbyn y chwedegau fe’i ystyriwyd yn un o’i ddehonglwyr mwyaf craff. Yn 1965 ac ar sail ei gyhoeddiadau, dyfarnodd Brifysgol Cymru radd Doethur mewn Diwinyddiaeth iddo, y trydydd un erioed i dderbyn y radd honno.

Ar ôl dychwelyd o’r Unol Daleithiau (yno y priododd a Mair Evans, hithau o Lanelli), treuliodd 1954-5 yn athro Ysgrythur yn Ysgol Uwchradd Aberteifi, yna bu’n gymrawd ymchwil mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Durham am ddwy flynedd cyn ei benodi yn ddarlithydd mewn Athroniaeth Crefydd ym Manceinion yn 1957. Dychwelodd i Durham yn 1965 yn ddarllenydd mewn Diwinyddiaeth, a’i ethol yn 1974 i’r gadair Diwinyddiaeth yn Nottingham. Yn ogystal â’i gyfrifoldebau dysgu ac ymchwil, bu’n ddeon Cyfadran y Celfyddydau a rhwng 1979 a 1983 yn ddirprwy is-ganghellor. Yn 1992, blwyddyn ei ymddeoliad, cyflawnodd freuddwyd oes o ddychwelyd i ddysgu yn ei wlad ei hun pan wnaed ef yn athro er anrhydedd yn Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Bangor. Symudodd ef a Mair i Ynys Mȏn, a wedi hynny i Dresimwn ym Mro Morgannwg.

Cyfrannodd bryd hynny i weithgareddau adrannau Athroniaeth a Diwinyddiaeth Urdd y Graddedigion a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru ac i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bu’n aelod o Orsedd y Beirdd ers 1972 ac etholwyd ef yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2012. Bu farw Mair yn 2021 ac yn annhymig, ddwy flynedd yn ôl, collwyd eu hunig blentyn Nicola, sef y ddarlledwraig Nicola Heywood-Thomas. Ar hyd ei oes faith cadwodd John ei gysylltiadau crefyddol yn iraidd, yn fwyaf diweddar fel gweinidog anrhydeddus Eglwys Bresbyteraidd Tre-hyl, Sain Nicolas. Yno, ar 1 Mai, y cynhaliwyd y gwasanaeth coffa.

D. Densil Morgan FLSW

yn ôl i'r brig