Cymrodyr er Anrhydedd Newydd yn cynnig negeseuon pwerus
Y risgiau a wynebwn o ganlyniad i newidiadau amgylcheddol yn yr Arctig ac Antarctica, a’r angen i wrando ar gymunedau ymylol oedd y negeseuon a gyflwynwyd gan ddau o’n Cymrodyr er Anrhydedd newydd y mis diwethaf.
Siaradodd yr Athro Jane Francis, Cyfarwyddwr y British Antarctic Survey, a Dr Kadiatu Kanneh-Mason, awdur, darlithydd ac eiriolwr cerddoriaeth glasurol, yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol Cymdeithas Ddysgedig Cymru ym mis Mai.
Ar hyn o bryd mae rhanbarthau’r pegynnau yn newid mor gyflym, mwy cyflym nag y meddylion ni erioed. Ac mae’r effaith yn mynd i gael ei deimlo ar draws y blaned gyfan.
Yr Athro Fonesig Jane Francis HonFLSW
Roeddent yno i gael eu derbyn fel Cymrodyr er Anrhydedd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, gan ymuno â’r mathemategydd, yr Athro Edward Witten a Dr Julia Gillard, cyn-Brif Weinidog Awstralia.
Fe rybuddiodd Dr Francis y bydd y newidiadau yn y rhanbarthau pegynol yn estyn tu hwnt i’r lleoedd hyn ac yn effeithio arnom ni oll. Yn ogystal, fe siaradodd am draddodiad cyfoethog Cymru o wyddonwyr pegynol a phwysigrwydd Caerdydd fel man cychwyn alldaith Capten Scott i Begwn y De.
Mae cymunedau, fel y rhai mae fy mhlant yn dod ohonynt, cymunedau pobl dduon, yn cael eu tawelu, a dydyn nhw ddim yn rhan o’r drafodaeth genedlaethol.
Dr Kadiatu Kanneh-Mason HonFLSW
Yn y cyfamser, siaradodd Dr Kanneh-Mason, sydd â’i saith plentyn yn gerddorion clasurol, am yr heriau a wyneba pobl o gymunedau ethnig leiafrifol wrth geisio sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed. Pwysleisiodd y pwysigrwydd, mewn amseroedd cythryblus, o wrando ar leisiau sy’n cael eu tawelu’n aml.
Gallwch wylio eu fideos yma: