Cymrodyr y Gymdeithas yn cyflwyno safbwynt Cymreig i ddadleuon Ewropeaidd
Bydd llais Cymru’n cael ei glywed ar lefel Ewropeaidd bwysig yn dilyn penodiad tri Chymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru i dasgluoedd gydag ALLEA, y Ffederasiwn Academïau Ewropeaidd.
Mae tasgluoedd ALLEA yn darparu cyngor, yn rhannu ymarfer arloesol ac yn cefnogi academïau cenedlaethol ar draws ystod o feysydd pwysig.
Mae presenoldeb y tri Chymrawd ar y tasgluoedd yn golygu y bydd safbwyntiau unigryw Cymru’n cael eu clywed ar lefel Ewropeaidd. Gweithiodd pob un ohonynt â’r Gymdeithas yn ystod y broses ymgeisio wrth i ni ymdrechu i gynnal cysylltiadau ag Ewrop a gwladwriaethau’r UE yn yr amgylchedd ôl-Brexit.
Mae’r Athro Roiyah Saltus FLSW yn ymuno â’r tasglu ar Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) mewn Ymchwil, sy’n gweithio i wella cyfiawnder a thryloywder mewn sefydliadau academaidd Ewropeaidd. Mae’r Athro Saltus yn gymdeithasegydd ym Mhrifysgol De Cymru ac mae’n arbenigo mewn ymchwilio i ddylanwad rhywedd, oed a dosbarth cymdeithasol o safbwynt grwpiau poblogaeth ethnig leiafrifol ac wedi’u hilioli.
Mae’r Athro Martina Feilzer FLSW, Athro Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Bangor, yn gweithio ar arferion gwyliadwriaeth a’u dylanwad mewn gwladwriaethau democrataidd. Bydd hi’n eistedd ar y tasglu Cryfhau Ymddiriedaeth mewn Gwyddoniaeth, a fydd yn canolbwyntio ar sut all cymunedau ymchwil helpu i ailsefydlu ymddiriedaeth, atal twyll-wybodaeth, a meithrin ymgysylltiad democrataidd ledled Ewrop.
Bydd yr Athro Tom Crick FLSW yn eistedd ar y tasglu Diogelu a Rhannu Data. Yn ogystal â bod yn Athro Addysg a Pholisi Digidol ym Mhrifysgol Abertawe, mae hefyd yn brif Gynghorydd Gwyddonol yn yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon. Cyfrannodd at bolisi’r llywodraeth ar addysg gwyddoniaeth a thechnoleg, a chymhwysedd digidol. Bydd ei dasglu’n archwilio’r berthynas a’r tensiynau rhwng gwyddoniaeth agored a gofynion cyfreithiol GDPR, hawliau eiddo deallusol, a storio a rheoli data.