Rydym yn cyflogi: Cynorthwyydd Gweinyddol Data
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Gweinyddol Data hynod drefnus sy’n rhoi sylw i fanylion i gefnogi ein prosesau rheoli data ac adrodd. Mae’r rôl yn cynnwys cynnal a diweddaru gwybodaeth ar draws Microsoft Dynamics (ein system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid) a SharePoint, gan sicrhau cywirdeb data, a helpu i storio ac adrodd gwybodaeth yn y modd gorau bosib.
Mae hon yn rôl ddelfrydol i rywun sy’n gyfforddus yn gweithio gyda symiau mawr o ddata, yn mwynhau gwella prosesau, ac sy’n meddu ar sgiliau technegol a threfnyddol cryf. Byddwch yn adrodd yn uniongyrchol i’n Swyddog Cyllid.
Byddai’r rôl hon hefyd yn addas i rywun sy’n awyddus i ennill profiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa proffesiynol.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg yn arbennig, ond nid yw bod yn rhugl yn Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
- Cyflog
– Cyfradd: £13.05 yr awr.
– Ni fydd cyfanswm y tâl am y prosiect yn fwy na £3,000. - Telerau cyflogaeth
– Hyd y prosiect: Haf 2026.
– Gallwn fod yn hyblyg o ran dyddiad dechrau ac oriau gwaith (gweler isod) ond bydd angen cwblhau’r gwaith erbyn diwedd mis Medi 2026.
– Dyma rôl am gyfnod penodol sy’n seiliedig ar brosiect, lle mae angen cwblhau hyd at 230 o oriau dros y cyfnod cytunedig. - Gallwch lawrlwytho ein pecyn swyddi i gael gwybodaeth lawn am y rôl a’r broses ymgeisio.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg yn arbennig, ond nid yw bod yn rhugl yn Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
- I ymgeisio, gofynnir ichi anfon CV a llythyr cyflwyno i applications@lsw.wales.ac.uk. o Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw’r dogfennau terfynol ar ffurf Word neu PDF.
- Gallwch lawrlwytho ein pecyn swyddi i gael gwybodaeth lawn am y rôl a’r broses ymgeisio
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ydy hanner nos, 14 Mehefin 2026.