Ydy Academïau Cenedlaethol yn Gallu Helpu i Frwydro Camwybodaeth?

Mae arbenigedd Cymrodyr y Gymdeithas yn cael ei amlygu yn ein hymateb i ymholiad Seneddol ar sut i frwydro yn erbyn lledaenu camwybodaeth

Mae Pwyllgor Diwylliant Digidol, y Cyfryngau a Chwaraeon Tŷ’r Cyffredin yn archwilio p’un a oes gan y cyhoedd ‘ddigon o fynediad at wybodaeth awdurdodol am faterion o drafodaeth cenedlaethol’

Mae’r ymchwiliad yn edrych ar rôl academïau cenedlaethol fel ffynonellau gwybodaeth dibynadwy, yn ogystal â’u gallu i ymgysylltu â dadleuon ar y rhyngrwyd, sy’n lleoliad amlwg ar gyfer lledaenu camwybodaeth. 

Mae’r Gymdeithas yn darparu cyfraniadau ar sail tystiolaeth i ddadleuon cenedlaethol. Mae ein hymateb i ymgynghoriad yr ymchwiliad yn pwysleisio pwysigrwydd ein Cymrodoriaeth fel ffynhonnell o arbenigedd annibynnol. Mae cymrodyr yn helpu i lunio digwyddiadau a phapurau polisi’r Gymdeithas. Maen nhw’n bwydo mewn i’n hymateb i ymgynghoriadau, ac yn cefnogi casglu tystiolaeth gan lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig a chyrff creu cyfreithiau. 

Mae ein hymateb i’r ymgynghoriad yn nodi: 

“Mae’r Gymdeithas yn cael ei gwerthfawrogi am ei hannibyniaeth a’i safle fel cyfaill beirniadol i’r llywodraeth a’r sector Addysg Uwch yng Nghymru. Mae hi wedi cael ei chydnabod gan Brif Weinidog Cymru am ei rôl mewn ehangu ffiniau gwybodaeth yng Nghymru, ac am sicrhau bod Cymru’n parhau i gael cymdeithas sy’n cael ei siapio gan ymchwil.”

Fodd bynnag, mae ein hymateb yn nodi hefyd, nad oes gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru y gallu i weithredu fel gwiriwr ffeithiau, na darparu cyfeirlyfr o arbenigedd. 

“Rhan bwysig o’n datblygiad at y dyfodol yw gwella amlygrwydd a chyrhaeddiad ein gwaith.”

Gellir darllen ein hymateb i’r ymchwiliad yn llawn yma