Cymdeithas yn Datgelu Strategaeth Bum Mlynedd Newydd

Mae’n bleser gennym ddatgelu ein strategaeth bum mlynedd newydd.

Mae’r Strategaeth hon yn esbonio uchelgeisiau ac amcanion strategol Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Bydd hyrwyddo addysg, dysg, astudiaeth academaidd a gwybodaeth yn cyfrannu at ddatblygiad gwyddonol, diwylliannol, cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yng Nghymru a thu hwnt.

Fel Academi Genedlaethol Cymru, byddwn yn harneisio arbenigedd, profiad a chysylltiadau amlddisgyblaethol ein Cymrodoriaeth i hyrwyddo a datblygu cymuned ymchwil ac arloesi Cymru, ac i gefnogi’r defnydd o ymchwil ragorol ac amrywiol i ddatrys yr heriau o flaen Cymru ac o flaen y byd.