Ethol Cymrodyr Newydd 2015

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n falch i gyhoeddi canlyniadau cylch Etholiad 2015 y Gymdeithas, gyda Chymrodyr newydd sy’n rhychwantu sectorau’r celfyddydau, gwyddoniaeth a gwasanaethau cyhoeddus.  Mae’r etholiad hwn wedi cryfhau’r Gymdeithas yn sylweddol, gan ychwanegu deugain o Gymrodyr newydd yn aelodau. Fel y Cymrodyr Cychwynnol a’r Cymrodyr a etholwyd mewn blynyddoedd blaenorol, mae’r rheini sydd wedi’u hethol eleni’n cynrychioli amrywiaeth eang o ddisgyblaethau academaidd.

Mae cael eich ethol yn Gymrawd yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd, a cheir cystadleuaeth frwd i ymuno â Chymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r Gymdeithas yn harneisio arbenigrwydd y Gymrodoriaeth i hybu ymwybyddiaeth o’r modd y mae’r gwyddorau a’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol yn dod â budd i gymdeithas. Gall y Cymrodyr gynorthwyo gwaith y Gymdeithas drwy wasanaethu ar ei hamrywiol bwyllgorau a gweithgorau a thrwy ein cynrychioli ni’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas:

“Rwyf i’n falch iawn i groesawu amrywiaeth mor eang o unigolion rhagorol i’r Gymrodoriaeth eleni. Caiff pob Cymrawd newydd ei ethol ar deilyngdod nodedig ei waith. Bydd y Cymrodyr newydd hyn yn helpu i gryfhau ein gallu i gefnogi rhagoriaeth ar draws pob maes o fewn bywyd academaidd a chyhoeddus Cymru a thramor.

“Mae’n galonogol hefyd mai’r gyfran o Gymrodyr benywaidd sydd wedi’u hethol eleni (35%) yw’r uchaf yn hanes y Gymdeithas. Mae nifer cynyddol o fenywod yn cyrraedd lefelau uchaf eu disgyblaeth, ac yn ddigon priodol caiff hyn ei adlewyrchu yn y nifer a gaiff eu hethol i Gymrodoriaeth y Gymdeithas.”

Ceir proses enwebu drylwyr ag iddi bum cam ar gyfer ethol i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r Gymrodoriaeth ar agor i ddynion a menywod o bob oed ac o bob grŵp ethnig:

  • sydd â hanes clir o ragoriaeth a chyflawniad mewn unrhyw un o’r disgyblaethau academaidd, neu, a hwythau’n aelodau o’r proffesiynau, y celfyddydau, diwydiant, masnach neu wasanaethau cyhoeddus, sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fyd dysg; ac
  • sydd yn preswylio yng Nghymru, neu sydd yn unigolion sydd wedi’u geni yng Nghymru ond sy’n preswylio mewn man arall, neu sydd fel arall â chyswllt penodol â Chymru.

Ceir rhestr o’r 40 Cymrawd newydd a etholwyd yma