Bywgraffiad Syr Owen Morgan Edwards yn ennill gwobr

Dyfarwnwyd Gwobr Goffa Syr Ellis Griffith, Prifysgol Cymru 2020 i’r Athro Hazel Walford Davies am ei chyfrol O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards.

Dyma’r cofiant llawn cyntaf i’r Cymro pwysig hwn a weithiodd yn ddiflino i sicrhau adfywiad yr iaith Gymraeg a llenyddiaeth, diwylliant ac addysg Cymru. Fel un o gymwynaswyr mwyaf dylanwadol ei gyfnod dyma wron a ddaeth, yn ystod ei oes ei hun, yn eilun ei genedl.