Sesiynau Cyngor a Hyfforddiant Gyrfa Arloesol ar Gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn defnyddio’r ased unigryw sef ei Chymrodoriaeth, i ddatblygu cenhedlaeth nesaf Cymru o ymchwilwyr.

Mae menter newydd a lansiwyd gan ein Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar, wedi gweld ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn cael eu paru gyda nifer o Gymrodyr y Gymdeithas am gyngor a hyfforddiant.

Roedd y cyfarfodydd cychwynnol yn canolbwyntio ar y gwyddorau cymdeithasol a gwasanaethau iechyd, gyda sesiynau’n cael eu cynnal gan dri o’n Cymrodyr, yr Athro Mererid Puw Davies, yr Athro Helen Fulton a’r Athro Monica Busse, sy’n defnyddio’r templed model hyfforddi GROW.

Byddwn yn cynnal cyfarfodydd pellach yn y dyfodol. Os ydynt o ddiddordeb i chi, cofrestrwch i’n rhestr bostio, a fydd yn cynnwys manylion cofrestru wrth iddynt gyrraedd.